Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Senedd Cymru

💰 £55k - £66k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Senedd Cymru yn edrych am Bennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am arweinydd cryf sy’n gallu ysgogi ei hun ac sy’n rhoi pwyslais cryf ar wasanaethau cwsmeriaid, sy’n barod i gymryd y camau cyntaf i ddatrys problemau, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae pawb yn gweithio dan gryn bwysau.

Byddwch yn arwain y tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu berthnasol ac amserol, o safon uchel, a’i chyflwyno i’r Aelodau a’u staff. Mae'r tîm yn rheoli'r gyllideb ac yn datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu hyfforddiant ledled Cymru sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith yr Aelodau. Mae hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd yr Aelodau ac arolwg bodlonrwydd yr Aelodau.

Gan ddefnyddio ffyrdd cynhyrchiol o ymgysylltu â’r Aelodau i gasglu adborth er mwyn nodi a deall anghenion yr Aelodau, byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i wneud penderfyniadau effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau gan godi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth o'r anghenion hynny.

Bydd angen ichi ddangos barn sicr ac ennyn ymddiriedaeth a hyder yr Aelodau a chydweithwyr ac ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol. Bydd angen ichi ddatblygu a meithrin perthynas ag eraill, cael pobl i ddeall safbwyntiau pobl eraill, a deall rôl y Senedd a’r Comisiwn.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn gallu cynhyrchu gwybodaeth sy’n glir a chywir, a chynnig cyngor diduedd, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid ichi fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Yn fwy cyffredinol, bydd angen ichi ddangos ymrwymiad personol i werthoedd Comisiwn y Senedd, gan arwain newid i hybu amcanion strategol Comisiwn y Senedd.

Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.

Cyflog

💰 £55,240 - £66,234

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Partneriaeth Awyr Agored

💰 £30k 📍 Hybrid Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £35k - £42k 📍 Aberystwyth📍 Bangor Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £20k - £22k 📍 Caerdydd Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £34k - £41k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

💰 £33k - £45k 📍 Hybrid Ar gau

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

💰 £45k - £49k 📍 Hybrid Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22k - £23k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 £15k 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +1 Ar gau

Gwasg y Bwthyn

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 O gartref Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £31k - £33k 📍 Caernarfon Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £22k - £23k 📍 O gartref Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £30k 📍 Llanfairpwll Ar gau

Y Groes Goch Brydeinig

💰 £22k 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

Cwmni Ymchwil Arad

💰 £24k - £28k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Bro Morgannwg

💰 £34k - £37k 📍 Y Barri Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Abertawe📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Barcud Cyf

💰 £23k - £26k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £34k - £40k 📍 O gartref Ar gau

IAITH

💰 £27k - £35k 📍 Castellnewydd Emlyn📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Theatr Volcano

💰 £24K pro rata 📍 Abertawe Ar gau