Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Senedd Cymru

💰 £55k - £66k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Senedd Cymru yn edrych am Bennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am arweinydd cryf sy’n gallu ysgogi ei hun ac sy’n rhoi pwyslais cryf ar wasanaethau cwsmeriaid, sy’n barod i gymryd y camau cyntaf i ddatrys problemau, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae pawb yn gweithio dan gryn bwysau.

Byddwch yn arwain y tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu berthnasol ac amserol, o safon uchel, a’i chyflwyno i’r Aelodau a’u staff. Mae'r tîm yn rheoli'r gyllideb ac yn datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu hyfforddiant ledled Cymru sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith yr Aelodau. Mae hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd yr Aelodau ac arolwg bodlonrwydd yr Aelodau.

Gan ddefnyddio ffyrdd cynhyrchiol o ymgysylltu â’r Aelodau i gasglu adborth er mwyn nodi a deall anghenion yr Aelodau, byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i wneud penderfyniadau effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau gan godi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth o'r anghenion hynny.

Bydd angen ichi ddangos barn sicr ac ennyn ymddiriedaeth a hyder yr Aelodau a chydweithwyr ac ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol. Bydd angen ichi ddatblygu a meithrin perthynas ag eraill, cael pobl i ddeall safbwyntiau pobl eraill, a deall rôl y Senedd a’r Comisiwn.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn gallu cynhyrchu gwybodaeth sy’n glir a chywir, a chynnig cyngor diduedd, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid ichi fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Yn fwy cyffredinol, bydd angen ichi ddangos ymrwymiad personol i werthoedd Comisiwn y Senedd, gan arwain newid i hybu amcanion strategol Comisiwn y Senedd.

Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.

Cyflog

💰 £55,240 - £66,234

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cylch Meithrin Bodhyfryd

💰 £12.71 yr awr 📍 Wrecsam
Cais

Cylch Meithrin Ty Mair

💰 Yn ôl profiad 📍 Sir y Fflint Ar gau

Ysgol Llwyn yr Eos

💰 £13.71 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Ty Mair

💰 Yn ôl profiad 📍 Sir y Fflint Ar gau

Meithrin Ty Mabon (Tywyn)

💰 £15.25 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Clwb Plant Segontiwm

💰 £13.77 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Cylch Meithrin Evan James

💰 £13.69 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Evan James

💰 £17.05 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32k - £35k 📍 Hyblyg (unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd) Ar gau

Cylch Meithrin Dolbadarn

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd Ar gau

Meithrinfa Camau Bach

💰 £12.71 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £26k 📍 Glan-llyn
Cais

Cylch Meithrin Penrhyndeudraeth

💰 £12.71 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Cylch Meithrin Pen-y-Garth

💰 £13.50 yr awr 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Cylch Meithrin Dyffryn Aeron

💰 £13 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £25k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Parc Y Bont

💰 I'w gadarnhau 📍 Sir Fôn Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £100 y cyfarfod 📍 Ar draws Cymru Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £13.11 yr awr 📍 Aberystwyth Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £26k - £29k 📍 Gwersyll Caerdydd / Glantaf Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £41k pro rata 📍 Ar draws Cymru Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd Ar gau

Ysgol Gyfun Aberaeron

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau