Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cadeirydd

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Gadeirydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd.

Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am Gadeirydd sy’n gallu darparu arweiniad a chefnogaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i'r cwmni’n gyffredinol wrth i ni geisio cyflawni’r weledigaeth hon.

Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o Gymru a’i diwylliant a’r celfyddydau ac sy’n gallu llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.

Mae bod yn Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Gadeirydd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.

Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Gadeirydd, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.

Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu ar y manylion cyswllt uchod.

Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.

Cyflog

💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Adam Price AS, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru

💰 £21k - £29k pro rata 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd Ar gau

Prifysgol Aberystwyth

💰 £36k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £26k - £30k 📍 Aberystwyth Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £38k - £42k 📍 Hyblyg Ar gau

Mind Cymru

💰 £31k + lwfans 📍 Caerdydd📍 O gartref +1 Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £28k - £34k 📍 Caernarfon📍 Aberystwyth Ar gau

Grŵp Llandrillo Menai

💰 £26k - £28k 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Caerdydd

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

Y Rhwydwaith Maethu

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd

💰 £35k - £42k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 £33k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

S4C

💰 Tua £43k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Bae Caerdydd📍 Caerfyrddin +2 Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £35k - £42k pro rata 📍 Bangor Ar gau

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

💰 £24k pro rata 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £26k 📍 Ynys Môn Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £37k 📍 Pontypridd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £38k - £42k 📍 Unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd📍 Hyblyg Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau