Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr y Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg

Prifysgol Caerdydd

💰 £35k - £42k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Reolwr y Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Yn rhan o Adran Cyfathrebu a Marchnata’r Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn arwain Tîm Cyfieithu Cymraeg i ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg <> Saesneg o’r radd flaenaf i bob adran ac ysgol.

Gan gydweithio'n agos â Deon y Gymraeg ac Academi Iaith Gymraeg y Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn darparu ac yn datblygu gwasanaeth sy'n hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ar draws pob maes a gweithgaredd, gan sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion Safonau'r Gymraeg.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a mwy. 

Swydd Gradd 6 amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.

Cyflog: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 6)

Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2023

Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Cyflog

💰 £35,333 - £42,155

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM)

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £21k pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £20k 📍 Llanrwst Ar gau

Medrwn Môn

💰 £24k pro rata 📍 Llangefni Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Odgers Berndtson

💰 Cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

National Theatre Wales

💰 £28k 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £23k - £25k 📍 Caernarfon Ar gau

Cwmpas

💰 £25k - £30k 📍 O gartref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £28k - £30k 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Portal

💰 £27k - £32k 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £45k - £52k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Cronfa Mullany

💰 £23k - £25k 📍 Abertawe Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £32k - £33k 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Sefydliad Dysgu a Gwaith

💰 £55k - £70k 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £61 - £53k 📍 Bangor Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £25k 📍 Bethesda Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £32k - £36k 📍 Campws Hyblyg Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £23k pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £30k pro rata 📍 Bethesda Ar gau