Swyddi Cymraeg — Rheoli gweithrediadau
6 swydd yn cyfateb
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Swyddog Cludiant
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol, brwdfrydig a chymhellol i ymuno â’r Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol (CPTU) fel Swyddog Trafnidiaeth.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli a darparu gwasanaethau cludiant teithwyr y Cyngor o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod y gwasanaethau’n gweithredu’n effeithlon, yn ddiogel ac yn unol â pholisïau, contractau a manylebau gwasanaeth y Cyngor.
Mae’r gwasanaethau a reolir gan yr Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol yn cynnwys:
- Gwasanaethau Bysiau Lleol
- Cludiant Dysgwyr
- Cludiant Gwasanaethau Cymdeithasol
- Cludiant Cymunedol
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio’n agos gyda gweithredwyr cludiant, ysgolion, colegau, rhieni a gwarcheidwaid, adrannau’r Cyngor a rhanddeiliaid allanol eraill er mwyn datrys materion gweithredol a sicrhau bod gwasanaethau cludiant teithwyr yn cael eu darparu’n effeithiol.
Bydd deiliad y swydd yn atebol i Reolwr yr Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol a bydd hefyd yn darparu goruchwyliaeth a chymorth i aelodau o dîm yr CPTU.
Am y rôl
Bod yn gyfrifol am fonitro gwasanaethau cludiant teithwyr dan gontract er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â pholisïau, contractau a manylebau gwasanaeth y Cyngor.
Rheoli materion gweithredol o ddydd i ddydd sy’n codi ar draws gwasanaethau cludiant teithwyr, gan weithio’n agos gyda chontractwyr, ysgolion, colegau, rhieni, defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr y Cyngor.
Cynnal gwaith monitro contractwyr, gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion ac arolygon ar ochr y ffordd, a mynd i’r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â pherfformiad neu gydymffurfiaeth pan fo angen.
Cefnogi’r gwaith o reoli cyllideb cludiant teithwyr y Cyngor a chyfrannu at sicrhau bod gwasanaethau’n darparu gwerth effeithiol am arian.
Cefnogi ymarferion caffael cludiant teithwyr, gan gynnwys paratoi ac asesu dogfennau tendro a rheoli contractau wedi hynny.
Rheoli a chydlynu Asesiadau Risg Cludiant Cartref i’r Ysgol a sicrhau bod trefniadau diogelu a diogelwch priodol ar waith.
Cydlynu cludiant ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phlant sy’n Derbyn Gofal, gan ystyried anghenion unigol a gofynion diogelu.
Ymateb i ymholiadau a chwynion gan gwsmeriaid, gan ddarparu cyngor priodol a cheisio datrysiadau effeithiol i faterion gweithredol.
Gweithio’n gydweithredol â’r Gwasanaethau Dysgu, Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgolion, contractwyr, yr Heddlu a sefydliadau partner eraill wrth ymchwilio i ddigwyddiadau neu ddatrys materion cymhleth a sensitif.
Darparu cymorth mewn perthynas â theithio rhatach, gwybodaeth am amserlenni bysiau a gwasanaethau cymorth eraill sy’n ymwneud â chludiant teithwyr.
Trefnu gofynion cludiant dysgwyr tymor byr ac mewn argyfwng, lle bo angen.
Cyfrannu at adroddiadau, gwybodaeth a chyngor a ddarperir i uwch reolwyr ac Aelodau Etholedig ar faterion cludiant teithwyr.
Cynrychioli’r CPTU mewn cyfarfodydd a grwpiau partneriaeth, fel bo’n ofynnol.
Dirprwyo dros Reolwr yr Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol pan fo angen.
Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio’n hyblyg ac ymateb i flaenoriaethau sy’n newid, gan gynnwys gwaith achlysurol y tu allan i oriau swyddfa arferol er mwyn cynnal arolygon ar ochr y ffordd, monitro contractwyr a mynd i’r afael â phryderon gweithredol neu ddiogelwch.
Gofynion hanfodol
NVQ Lefel 4 mewn Trafnidiaeth neu ddisgyblaeth briodol, neu o leiaf bedair blynedd o brofiad perthnasol ym maes trafnidiaeth.
Profiad o weithrediadau cludiant teithwyr a dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar ddarpariaeth effeithiol gwasanaethau cludiant teithwyr.
Profiad o weithio gyda chontractwyr a monitro darpariaeth gwasanaethau a chydymffurfiaeth gytundebol.
Profiad o weithio gydag aelodau o’r cyhoedd ac ystod eang o randdeiliaid.
Dealltwriaeth dda o weithdrefnau Llywodraeth Leol a’r gallu i weithio yn unol â pholisïau a deddfwriaeth berthnasol.
Profiad o reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a gweithio’n effeithiol i derfynau amser.
Sgiliau rheoli ariannol a rheoli adnoddau da.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda’r gallu i ymdrin yn dactegol ac yn broffesiynol â materion sensitif a dadleuol.
Y gallu i weithio’n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun, tra hefyd yn cyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm.
Y gallu i arwain, cymell a chefnogi cydweithwyr.
Llythrennedd TGCh uchel, gan gynnwys profiad o Microsoft Office a systemau perthnasol.
Trwydded Yrru Lawn â llaw.
Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu barodrwydd i gyrraedd y safon Gymraeg ofynnol o fewn dwy flynedd i gael eich penodi.
Sgiliau/cymwysterau dymunol
Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion diogelu wrth weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.
Profiad blaenorol o weithio mewn Llywodraeth Leol neu yn y diwydiant trafnidiaeth.
Cymhwyster NVQ mewn Cludiant Teithwyr ar y Ffordd.
Profiad o ddefnyddio Omnibus/Omnitimes neu feddalwedd debyg ar gyfer amserlenni bysiau.
Ein cynnig i chi
Mae’r cyfraniad y mae ein gweithwyr yn ei wneud i iechyd, diogelwch a lles ein cymunedau yn amhrisiadwy. Felly, rydym am sicrhau bod gweithio i Geredigion mor werth chweil â phosibl i chi.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr, gan gynnwys:
- Mentrau iechyd a lles, gan gynnwys cymorth ffordd o fyw a chwnsela am ddim
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth gwell
- Cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi datblygiad gyrfa
- Cynlluniau aberthu cyflog, gan gynnwys y Cynllun Beicio i’r Gwaith
I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion i weithwyr, cliciwch [yma].
Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr trafnidiaeth brwdfrydig ac ymroddedig ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig, a chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cludiant teithwyr diogel, effeithiol ac ymatebol ledled Ceredigion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Dafydd Rennie ar 01545 570 881.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £36,581 - £38,510 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Uwch Swyddog Traethau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd yn unol â gofynion rheolaethol y Gwasanaeth Morwrol gan sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd a rheolaeth yr arfordir.
Disgrifiad:
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth] (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Bryn Pritchard-Jones ar 01758 704066 neu 07917 554624
Cynnal cyfweliadau: Dydd Iau, 23/03/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
**DYDDIAD CAU: **10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/03/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
SWYDD DDISGRIFIAD
Pwrpas Y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd yn unol â gofynion rheolaethol y Gwasanaeth Morwrol gan sicrhau gwelliant sylweddol yn ansawdd a rheolaeth yr arfordir.
Cyfrifoldebau am Adnoddau
• Cyfrifoldeb dirprwyedig am holl staff, cyllid ac adnoddau'r Gwasanaeth Morwrol yn unol â’r gofyn.
• Rheoli’r Gwasanaeth ar y cyd gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau yn absenoldeb y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol.
• Cyfrifoldeb rheolaethol am Swyddogion Traeth parhaol y Gwasanaeth.
• Penodi, hyfforddi a rheoli holl staff tymhorol y Gwasanaeth Morwrol ynghyd a phwrcasu a dosbarthu offer ag iwnifform ar eu cyfer.
• Cydgordio, a sicrhau bod holl offer a chyfarpar diogelwch arfordirol yn cael eu harchwilio yn unol â’r gofynion a bod y ffurflenni monitro yn cael eu cwblhau yn unol â’r drefn.
• Cyfrifoldeb am fflôt y traethau a throsglwyddiad arian cofrestru a ffioedd lansio i’r Swyddfa Forwrol, Swyddfa Bost neu Fanc.
Prif Ddyletswyddau
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
• Paratoi rhaglenni gwaith gan adnabod amcanion mesuradwy a chlir ar gyfer y Gwasanaeth yn flynyddol.
• Cynorthwyo ag annog y Swyddogion Traeth i gynllunio rhaglenni gwaith a chytuno ar gynllun gwella ar gyfer traethau’r sir, gyda’r nod o gynnig gwasanaeth o ansawdd i’r cyhoedd. Sicrhau fod gwaith yn cael ei gwblhau o fewn amserlen benodol.
• Penodi, hyfforddi a rheoli holl staff tymhorol y Gwasanaeth Morwrol a llunio rhaglenni gwaith ar eu cyfer.
• Rheoli ag annog staff y traethau i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol a diogel.
• Cyflwyno ceisiadau Gwobrau Traeth yn flynyddol gan sicrhau fod y traethau gwobrwyiedig yn cydffurfio ar meini prawf perthnasol.
• Sicrhau bod yna welliant sylweddol yng nghynllun bwiau / parthau'r traethau a chadw cofnod o'r holl offer a ddarperir.
• Goruchwylio a gorfodi rheoliadau ac is-ddeddfau arfordirol.
• Paratoi adroddiadau rheolaidd i’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn unol â’r gofyn a mynychu a chyfranogi mewn cyfarfodydd gyda Cynghorau Cymuned a grwpiau / mudiadau perthnasol ac adrodd ar yr hun a drafodwyd (cymryd cofnodion fel y bydd angen).
• Cynnal cyflwyniadau i grwpiau, ysgolion a mudiadau fel y bydd angen a threfnu a chynorthwyo mewn ymgyrchoedd hybu diogelwch arfordirol neu ymgyrchoedd gwirfoddol i wella ansawdd yr arfordir.
• Diweddaru ac ychwanegu at Gynllun Argyfwng y Gwasanaeth Morwrol a chyflawni a diweddaru holl Asesiadau Risg y gwasanaeth. Sefydlu gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfiaeth y traethau â gofynion statudol Iechyd a Diogelwch. Cynorthwyo gyda datblygiad polisïau mewnol y gwasanaeth.
• Cynorthwyo gyda datblygiad a rheolaeth cynllun cofrestru badau pwer y gwasanaeth ac archebu’r holl drwyddedau cofrestru’n flynyddol.
• Ymdrin ag ymateb i achosion o lygredd arfordirol yn unol â'r gofyn.
• Datblygu safleoedd gwybodaeth a fydd yn cynnwys hysbysfyrddau, paneli dehongli, posteri, taflenni arweiniol a gwybodaeth er mwyn hysbysu’r cyhoedd o bwysigrwydd diogelwch, yr amgylchedd a bywyd gwyllt yr arfordir.
• Cynorthwyo adran T.G. y Cyngor i ddatblygu, diweddaru a gwella safle we y Gwasanaeth.
• Dylunio, pwrcasu a safoni holl arwyddion arfordirol y gwasanaeth.
• Cynorthwyo gyda gweinyddiaeth y Swyddfa Forwrol ag ymdrin ag ymateb i ymholiadau a dderbynnir yn y swyddfa - wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost neu lythyr.
Amgylchiadau Arbennig
• Bydd gofyn i’r Uwch Swyddog Traethau weithredu o unrhyw un o’r harbyrau neu draeth penodol pe bydd salwch neu ddiffyg staff. Bydd gofyn i’r Swyddog weithio ar nifer o benwythnosau yn ystod y cyfnod a fu yn arwain at Ŵyl Y Pasg hyd at ddiwedd mis Medi, gweithio pob Gwŷl Banc a rhai nosweithiau. Fe fydd gofyn i’r swyddog fod ar alwad ac yn barod i ymateb mewn achosion brys ac mewn argyfwng.
Cyflog
💰 £30,151 - £32,020
Lleoliad
📍 Pwllheli
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae National Theatre Wales yn edrych am Gydlynydd Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a hawdd mynd ato sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur i fod yn Gydlynydd Gweithrediadau newydd i ni.
Cyflog: £28,000 y flwyddyn
Dyddiad cau: 5pm ddydd Sul 23 Hydref
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 31 Hydref
Cyflog
💰 £28,000
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dyma rôl newydd fydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu a gweithredu ein prosesau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau ein gweledigaeth o greu theatr Cymraeg eithriadol i bawb. Pwrpas y swydd hon yw rheoli materion gweithredol y cwmni, yn cynnwys adnoddau dynol; rheoli asedau; systemau a chytundebau gweinyddol; systemau TG; a chasglu a dadansoddi data.
Mae’r cwmni’n anelu at fod mor gynhwysol â phosib, gan sicrhau ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl o bob cefndir ac o bob oedran, ac mae lles pobl yn holl bwysig i ni. Rydym felly yn edrych am berson sy’n rhannu’r gwerthoedd yma, yn enwedig gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar faterion adnoddau dynol, yn cynnwys recriwtio a gofalu am les staff.
Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd yn drefnus a chwilfrydig, sy’n ymfalchïo mewn systemau a phrosesau effeithiol, ac sy’n gallu rheoli eu gwaith eu hunain yn effeithiol. Os nad oes gennych y sgiliau neu’r profiad perthnasol ar gyfer y swydd hon eisoes, byddem yn fodlon ystyried darparu hyfforddiant a chyfleoedd i weithio tuag at gymwysterau perthnasol.
Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref.
Cyflog
💰 £33,036
Lleoliad
📍 Caerfyrddin, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Talaith Gogledd Ddwyrain (Rhannu Swydd)
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Reolwr Talaith Gogledd Ddwyrain (Rhannu Swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac ysbrydoledig i arwain gwaith tîm o Swyddogion Cefnogi. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel. Byddai profiad blaenorol o reoli ac arwain tîm o staff a dealltwriaeth eang o waith Mudiad Meithrin yn fanteisiol.
Disgrifiad:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Pennaeth Datblygu Gwasanaethau am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: · Ysgwyddo cyfrifoldeb am holl agweddau rheolaeth gwaith Mudiad Meithrin o fewn y dalaith
· Rheoli gwaith, a chynnig arweiniad a chefnogaeth i holl staff y dalaith
· Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phob aelod o staff perthnasol i gynllunio gwaith, gosod targedau a chyfeiriad i’r gwaith
· Sicrhau bod cyfarfodydd tîm tymhorol i holl staff y dalaith er mwyn darparu hyfforddiant, trafod cynlluniau gwaith a derbyn adroddiadau
· Sicrhau bod gwaith y dalaith yn cyd-fynd â nod ac amcanion Mudiad Meithrin
· Adnabod ac arwain cynlluniau gweithredu er mwyn cynyddu ac ymestyn gwaith y Mudiad yn y dalaith
· Gweithio i hybu enw da’r Mudiad drwy farchnata, cyfathrebu a delio a chwynion yn effeithiol
· Sicrhau bod strwythurau a gwaith darpariaethau Mudiad Meithrin yn gynaliadwy
· Sicrhau bod cyfleoedd i staff a phwyllgorau cylchoedd fynychu digwyddiadau hyfforddiant a rhannu arfer dda
· Arwain ar gynllunio strategol lleol gan reoli cynlluniau sirol penodol yn ôl yr angen
· Mynychu ac eirioli dros aelodau’r Mudiad a’r Mudiad ei hun mewn cyfarfodydd strategol megis Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg,cyfarfodydd gyda swyddogion yr Awdurdodau lleol
· Arwain ar ddatblygu cynllun Sefydlu a Symud o fewn y dalaith
· Mynychu cyfarfodydd Tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn
· Sicrhau presenoldeb Mudiad Meithrin mewn digwyddiadau ac achlysuron e.e. Sioeau, sioeau babis, Eisteddfodau
· Sicrhau tîm o staff cyflawn ac adnabod anghenion hyfforddiant a datblygu pob aelod o staff
· Ateb gofynion grantiau perthnasol gan gasglu gwybodaeth, data ac adnabod cyfloed yn ôl y gofyn e.e. UGMA
· Datblygu perthynas a chydweithio gyda phartneriaid o fewn y dalaith
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
· Ymgymryd â chyfrifoldebau dros ddarpariaeth/au Meithrinfeydd Cymru (Cylchoedd Canolog) drwy’r Dirprwy Rheolwr Talaith
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Mudiad Meithrin yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr
Cyflog
💰 £36,918 – £46,335 pro rata
Lleoliad
📍 Llangefni, Aberystwyth, Wrecsam, Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Gweithrediadau a Phrofiad Ymwelwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Byddwch yn rheoli ein tîm sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid yng Nghastell y Waun, sef castell canoloesol ysblennydd sy'n sefyll ym mhen uchaf Dyffryn Ceiriog, a'r unig gastell Edwardaidd y mae rhywun wedi trigo ynddo'n barhaus. Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, mae wedi bod yn gartref i'r teulu Myddelton. Fel caer strategol allweddol yn y Gororau, mae hunaniaeth Gymreig a Saesnig yn brwydro am oruchafiaeth yma hyd heddiw.
Byddwch yn rhan allweddol o dîm arweinyddiaeth portffolio gogledd-ddwyrain Cymru, yn cydweithio â rhai sy'n gofalu am gefn gwlad, ein treftadaeth adeiledig a chyfleusterau ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Dyma gyfle i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gweithrediadau ymwelwyr ysbrydoli ac arwain staff i wneud gwahaniaeth er lles natur a phobl, a darparu profiadau gwych i ymwelwyr.
Cymraeg yn ddymunol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: hawys.dafis@nationaltrust.org.uk
Sut beth yw gweithio yma
Mae pob diwrnod yn wahanol yng Nghastell y Waun. Yn y swydd amrywiol hon, byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu profiadau newydd i ymwelwyr, dod o hyd i ffyrdd newydd o ddod â hanes yn fyw, a chefnogi partneriaethau allanol.
Ceir digonedd o gyfleoedd i ddatblygu eich hun a'ch tîm, ac i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm gwych o bobl sy'n llawn brwdfrydedd ynghylch rhannu'r lle hwn a'i awyrgylch rhagorol. Fel rhan o gymuned ehangach o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn ein helpu i greu profiadau newydd a gwell ar gyfer ein holl ymwelwyr.
Beth y byddwch yn ei wneud
Byddwch yn ymuno â phortffolio gogledd-ddwyrain Cymru ar adeg gyffrous, gan gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a dylanwadu ar ei drywydd ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn chwarae rhan weithgar mewn prosiectau mawr, wrth reoli cyllidebau ac wrth sicrhau ein bod yn cyflawni tasgau cydymffurfio. Fe fyddwch yn arweinydd a rheolwr gweladwy i dimau, yn ysgogi perfformiad gweithredol cryf ac yn darparu profiadau o'r safon uchaf un i'n holl ymwelwyr. Bydd gennych brofiad yn y maes rheoli ymwelwyr, a byddwch yn mynnu safonau cyflwyno a diogelwch uwch.
Os ydych yn arweinydd a rheolwr profiadol, wrth eich bodd yn gweithio mewn amgylchedd prysur a gydag eraill - gallai hon fod y swydd berffaith i chi!
**Am bwy ydym yn chwilio **
Byddai’n wych clywed gan bobl sydd â'r sgiliau/profiad canlynol:
Arweinydd deinamig, pragmataidd a llawn egni sydd â hanes o lwyddiant ym maes gweithrediadau ymwelwyr
Rheolwr llinell profiadol ac effeithiol
Hyfforddwr a mentor gwych, sydd â safonau perfformiad uchel
Unigolyn trefnus sy'n gallu ymdopi â nifer o flaenoriaethau
Gallu rheoli gweithrediadau, gan gynnwys cyllidebau, rotâu a chynlluniau, yn fedrus
Presenoldeb hyderus a digynnwrf sy'n cefnogi'r tîm ar draws yr eiddo
Yn fedrus wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn datblygu partneriaethau.
Y pecyn
Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.
O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.
Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:
Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
Cyflog
💰 £29,640
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.