Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £26k - £31k 📍 Campws Llandaf Ar gau

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn edrych am Gyfieithydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae'r Uned Iaith Gymraeg yn arwain datblygiad a thwf darpariaeth a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr, staff a'r cyhoedd ledled y Brifysgol. Rydym yn sicrhau hyn trwy weithio'n agos gyda Choleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru, a chymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru ac mewn cydweithrediad â'n hysgolion academaidd a'n gwasanaethau proffesiynol ledled y Brifysgol.

Disgrifiad:

Rydym yn chwilio am unigolyn i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o Saesneg i’r Gymraeg/Cymraeg i’r Saesneg i Met Caerdydd yn ogystal â chymorth gweinyddol achlysurol i’r Uned Gymraeg.

Fe fyddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg rhagorol, yn ysgrifenedig, ac ar lafar.

Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol

Cyfieithu a phrawfddarllen amrediad eang o ddogfennau i safon uchel iawn i ddiwallu gofynion y Safonau Cymraeg a'n harddull ysgrifennu mewnol.

Cysylltu â chyfieithwyr allanol i gaffael cyfieithiadau yn ôl y galw. Sicrhau ansawdd digonol y gwasanaeth allanol, gan fonitro ar gyfer cysondeb a glynu at arddull mewnol.

Blaenoriaethu gwaith yn effeithiol er mwyn rheoli llwyth gwaith, ceisiadau niferus a dyddiadau cau heriol.

Darparu canllawiau cyson i bob aelod o staff ynghylch y ddyletswydd sydd ar y Brifysgol o dan y ddeddfwriaeth bresennol drwy lunio a diweddaru Canllawiau Cyfieithu.   Beth fyddwch chi'n ei gyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol

Sgiliau Cymraeg a Saesneg rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig

Gwybodaeth ddigonol o Microsoft Office

Sylw rhagorol i fanylion er mwyn cynnal safonau proffesiynol

Ymrwymiad i’r iaith Gymraeg   Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol

Gradd anrhydedd neu brofiad cyfatebol.   Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education UK a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.   Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac rydym yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd, yn garedig wrth ein gilydd, yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.

Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:

Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn (pro-rata os yn gweithio rhan amser).

Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.

Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell.

Polisïau ardderchog sy'n addas i'r teulu.

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal

Mynediad i holl gyfleusterau'r llyfrgell.

Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith.

Mynediad teuluol am ddim i'n darparwr cymorth lles arbenigol ndependentHealth Assured.

Cyflog

💰 £26,386 - £31,411

Lleoliad

📍 Campws Llandaf

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

💰 Graddfa Cyflog Athro 📍 Llanelwy Ar gau

Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM)

💰 £9.50 yr awr 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £21k pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £20k 📍 Llanrwst Ar gau

Medrwn Môn

💰 £24k pro rata 📍 Llangefni Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Odgers Berndtson

💰 Cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

National Theatre Wales

💰 £28k 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £23k - £25k 📍 Caernarfon Ar gau

Cwmpas

💰 £25k - £30k 📍 O gartref Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £28k - £30k 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Portal

💰 £27k - £32k 📍 Allan yn y maes📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £45k - £52k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Cronfa Mullany

💰 £23k - £25k 📍 Abertawe Ar gau

Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

💰 £32k - £33k 📍 Pont-y-pŵl Ar gau

Sefydliad Dysgu a Gwaith

💰 £55k - £70k 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £61 - £53k 📍 Bangor Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £25k 📍 Bethesda Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £32k - £36k 📍 Campws Hyblyg Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £23k pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £30k pro rata 📍 Bethesda Ar gau