Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyllid

Esgobaeth Tyddewi

💰 £27k - £30k 📍 Abergwili Ar gau

Mae Esgobaeth Tyddewi yn edrych am Swyddog Cyllid

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae angen unigolyn arnom, un â chymwysterau addas, i ymuno â’n Tîm Cyllid bychan. Byddwch yn cyfrannu at weinyddiaeth ariannol effeithiol a chymwys Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi a’r Esgobaeth ehangach, gan gefnogi, yn ogystal, waith y Rheolwr Cyllid.

Mae Prif Gyfrifoldebau’r swydd hon fel a ganlyn:

1. Cefnogi gwaith y Rheolwr Cyllid, o ran trin a thrafod y cyllid Esgobaethol o ddydd i ddydd.

2. Defnyddio Meddalwedd Cyfrifyddu Sage, i sicrhau data cywir, cynnal trafodion busnes, cysoni ariannol, hefyd llunio adroddiadau, yn ôl y galw. 

3. Cyfrannu at weinyddiaeth ariannol yr Esgobaeth.

4. Darparu cefnogaeth ariannol angenrheidiol, yn ôl y galw (gan gynnwys y Bwrdd Persondai a’i Arolygwr, y Gymdeithas Dai a Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi [Eiddo] Cyf.)

5. Bod yn aelod amlwg a gweithgar o Dîm Cyllid yr Esgobaeth.

Mae angen rhywun sy’n medru gweithio fel aelod o dîm, sydd â phrofiad o gadw cyfrifon a sy’n gyfarwydd â defnyddio Microsoft Excel. Manteisiol hefyd fyddai gwybod am drefn Cyfrifyddu SAGE.

Bydd angen sgiliau rhyng-bersonol ardderchog arnoch, ynghyd â’r gallu i gyflawni gwaith yn brydlon. Bydd talu sylw i fanylion yn hollbwysig yn y swydd hon, ac yn ogystal, dylech fod yn berson a all drefnu’n drwyadl, ond gan ddangos hyblygrwydd, o ran gweithio, ar yr un pryd.

Byddai medru’r iaith Gymraeg yn fanteisiol.

Dylai ymgeiswyr ofyn am ffurflen gais a gwybodaeth bellach oddiwrth Mrs Nia Evans, Swyddfa Esgobaeth Tyddewi, Abergwili, Caerfyrddin SA31 2JG neu drwy ebost: diocese.stdavids@churchinwales.org.uk

Ni roddir ystyriaeth i geisiadau drwy CV. Dyddiad cau 11 Tachwedd 2022

Dyddiad Cyfweliad wythnos yn dechrau 21 Tachwedd 2022

Cyflog

💰 £27,126 - £29,942

Lleoliad

📍 Abergwili

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £37k - £42k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £44k - £47k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Talybont

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Aberteifi

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Bro Pedr

💰 £26k - £28k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £40k - £42k 📍 Ceredigion Ar gau

Appen

💰 £543 yr awr o sain 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Sumdog

💰 £15k - £18k 📍 Caeredin📍 Gweithio o Adref Ar gau

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

💰 £23k 📍 Y Bala Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £67k - £70k 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £31k 📍 Llandeilo📍 Hyblyg Ar gau

Age Cymru

💰 £25k 📍 Caerdydd Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £29k 📍 Caernarfon📍 Hybrid Ar gau

Bla

💰 £28k 📍 Llangefni Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £30k 📍 Bangor📍 Hybrid Ar gau

Nant Gwrtheyrn

💰 £28k 📍 Llithfaen Ar gau

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

💰 £28k - £30k 📍 Hybrid📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Nant Gwrtheyrn

💰 £23k 📍 Llithfaen Ar gau

Nant Gwrtheyrn

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

Nant Gwrtheyrn

💰 £29k - £33k 📍 Llithfaen Ar gau

Menter a Busnes

💰 £31k 📍 Aberystwyth📍 Caerfyrddin Ar gau