Swyddi Cymraeg — Coginio
2 swydd yn cyfateb
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn edrych am Reolwr Cegin - Coleg y Bala
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Coleg y Bala yn chwilio am berson i weithio fel Rheolwr Cegin ac i fod yn aelod o dîm Coleg y Bala. Bydd yr unigolyn yn cymryd cyfrifoldeb am bob agwedd o reoli'r gegin, ac i gefnogi, arwain ac ysgogi'r tîm, mewn amgylchedd diogel a hapus.
Oriau: 20 awr yr wythnos
Term: 12 mis, gyda'r chwe wythnos cyntaf yn gyfnod prawf
Cyflog: Pwynt 17 (£23,738) pro rata ar raddfa EBC
Mae'r swydd yn amodol ar wiriad DBS a dau eirda boddhaol (dylai cyn gyflogwr ddarparu un).
Dyddiad cau: 4yh, 18fed o Fai, 2025.
Am fwy o wybodaeth, ac am ffurflen gais, cysylltwch gyda:
E-bost: swyddfa.office@ebcpcw.cymru
Ffôn: 02920 627465
Cyflog
💰 Pwynt 17 (£23,738) pro rata ar raddfa EBC
Lleoliad
📍 Y Bala
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Ddirprwy Rheolwr Cegin
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Gweithio ochr yn ochr efo’r rheolwr, i helpu arwain y tîm a rhedeg ein sefydliad prysur. Arwain gwaith paratoi, coginio a chyflwyno prydau blasus, ffres ar gyfer niferoedd uchel sy’n plesio ein holl gwsmeriaid. Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Antur Edwards (Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn) ar 01678 541 000 neu huwantur@urdd.org Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org Dyddiad Cau – 13 Mawrth 2023
Dyddiad Cyfweld – 17 Mawrth 2023 Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £28,505 - £31,757
Lleoliad
📍 Llanuwchlyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rydych wedi gweld yr holl swyddi.