Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfieithydd dan Hyfforddiant

Prifysgol Bangor

💰 £27k 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gyfieithydd dan Hyfforddiant

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Swydd llawn amser dan hyfforddiant am gyfnod penodol hyd at 31 Awst 2024 yw hon.

Dyma gyfle rhagorol i ymuno â thîm cyfieithu Prifysgol Bangor er mwyn dysgu’r sgiliau sy’n hanfodol eu cael fel cyfieithydd a chyfieithydd ar y pryd. Yn yr ail flwyddyn bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn paratoi i sefyll arholiadau aelodaeth Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Ar ddiwedd y cyfnod penodol, y gobaith yw y bydd cyfle i’r sawl a benodir ymgeisio am swydd lawn amser fel cyfieithydd ar raddfa 7.

Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel Cyfieithydd Dan Hyfforddiant yn ymgymryd â gwaith cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn holl adrannau academaidd a gweinyddol y Brifysgol. Fel Cyfieithydd Dan Hyfforddiant yng Nghanolfan Bedwyr byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gryfhau a datblygu safle Prifysgol Bangor fel sefydliad dwyieithog a hefyd fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran gweinyddiaeth a darpariaeth academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd neu bron â chwblhau, cefndir academaidd a sgiliau iaith rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y sawl a benodir yn cael ei hyfforddi i fedru gweithio’n annibynnol ac o dan bwysau fel cyfieithydd, ond hefyd fel aelod o dîm. Bydd hefyd yn cael ei hyfforddi i drin cyfrifiadur yn fedrus a defnyddio cymhorthion cyfieithu cyfrifiadurol.

Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau yn ei swydd ar 5 Medi 2022 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny. Bydd yn atebol i’r Pennaeth Cyfieithu.

Mae manylion pellach a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio i’w gweld ar wefan ‘Cyfleoedd’ Prifysgol Bangor (http://jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy).

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu ag Ifan Prys, Pennaeth Cyfieithu (i.prys@bangor.ac.uk)

Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022

Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £27,116

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Partneriaeth Ogwen

💰 £30k pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Ar-lein Ar gau

Undeb Rygbi Cymru

💰 £30k - £35k 📍 Caerdydd Ar gau

CFfI Cymru

💰 £40k - £45k 📍 Llanelwedd📍 O gartref Ar gau

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

💰 £28k - £34k 📍 Aberhonddu Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30k 📍 Caerfyrddin📍 Bae Colwyn +2 Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £26k 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £53k - £62k 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

💰 £28k - £30k 📍 O gartref📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £33k 📍 Rhondda Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £26k - £30k 📍 Caerdydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £27k - £30k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Iechyd Cyhoeddus Cymru

💰 £27k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £20k - £21k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

💰 £26k - £31k 📍 Caerffili Ar gau

Rily Publications

💰 £30k pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £21k - £25k 📍 Casnewydd Ar gau

Coleg Penybont

💰 £19k - £20k 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £25k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £20k 📍 O gartref📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau