Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Marchnata

Y Lolfa Cyf

💰 I'w drafod 📍 Talybont Ar gau

Mae Y Lolfa Cyf yn edrych am Swyddog Marchnata

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am berson brwd, effeithiol a chreadigol i gynorthwyo gyda gwaith hyrwyddo’r wasg a’i chyhoeddiadau yn y cyfryngau print, radio, teledu ac ar-lein. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis. Mae’n swydd amrywiol, diddorol a heriol fydd yn cynnig profiad unigryw o weithio mewn maes sy’n tyfu ac yn newid yn gyflym. Rhoddir hyfforddiant yn ôl y galw. 

Disgrifiad:

  1. Datblygu a gweithredu cynlluniau marchnata ar gyfer llyfrau Cymraeg a Saesneg. Bydd angen trafod â golygyddion Y Lolfa, awduron y cyfrolau, Adran Farchnata Cyngor Llyfrau Cymru ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill.
  2. Datblygu a diweddaru gwefan Y Lolfa a gofalu am gyfrifon cymdeithasol y cwmni sy’n cynnwys Twitter,_ Facebook_, Instagram ac YouTube. Edrych i’r posibilrwydd o ddatblygu presenoldeb y cwmni ar Tiktok.
  3. Cynorthwyo gyda threfniadau lansiadau a sesiynau arwyddo a chydgysylltu gyda threfnwyr digwyddiadau eraill fel gwyliau llyfrau, ffeiriau ac ysgolion. Mynychu’r digwyddiadau yma a chadw trefn ar unrhyw daliadau.
  4. Cydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau a dosbarthwyr a chyfanwerthwyr eraill i sicrhau fod y llyfrau ar werth yn eang a bod deunydd hyrwyddo yn y siopau. Paratoi dalennau gwybodaeth o flaen llaw, bwydo gwybodaeth i Gwales a mynychu Cynhadledd Werthu’r Cyngor Llyfrau.
  5. Gweithio yn stondinau’r Lolfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, hefyd mynychu digwyddiadau gwerthu eraill, yn cynnwys ffeiriau llyfrau pan fo galw.
  6. Danfon datganiadau i’r wasg a chopïau adolygu i unigolion perthnasol yn y cyfryngau.
  7. Danfon cylchlythyron digidol i gwsmeriaid y cwmni.
  8. Archebu a pharatoi hysbysebion digidol a phrint.
  9. Dylunio a dosbarthu posteri a gwahoddiadau syml. Bydd Y Lolfa yn cynnig hyfforddiant.
  10. Cynnig syniadau ar sut i farchnata ein llyfrau yn fwy effeithiol gan fanteisio i’r eithaf ar y datblygiadau technolegol diweddaraf.
  11. Ymgymryd â gwaith gweinyddol a phrosesu data ynghlwm â marchnata llyfrau’r Lolfa.
  12. Fel â phob swydd yn Y Lolfa, rhaid bod yn barod i ymgymryd â gwaith mewn adrannau eraill yn ôl y gofyn.

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Talybont

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Partneriaeth Ogwen

💰 £30k pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Ar-lein Ar gau

Undeb Rygbi Cymru

💰 £30k - £35k 📍 Caerdydd Ar gau

CFfI Cymru

💰 £40k - £45k 📍 Llanelwedd📍 O gartref Ar gau

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

💰 £28k - £34k 📍 Aberhonddu Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30k 📍 Caerfyrddin📍 Bae Colwyn +2 Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £26k 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £53k - £62k 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

💰 £28k - £30k 📍 O gartref📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £33k 📍 Rhondda Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £26k - £30k 📍 Caerdydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £27k - £30k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Iechyd Cyhoeddus Cymru

💰 £27k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £20k - £21k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

💰 £26k - £31k 📍 Caerffili Ar gau

Rily Publications

💰 £30k pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £21k - £25k 📍 Casnewydd Ar gau

Coleg Penybont

💰 £19k - £20k 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £25k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Golwg Cyf.

💰 £20k 📍 O gartref📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau