Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymddiriedolwyr

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Ymddiriedolwyr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ry'n ni'n chwilio am aelodau newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am ddau Ymddiriedolwr newydd i ymuno â’r Bwrdd er mwyn ein helpu ni i gyflawni’r weledigaeth hon a llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.

Dyma gyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau.

Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, sydd ag uchelgais, ac sy’n frwdfrydig. Yn ogystal, ry’n ni’n chwilio am rai Ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:

Cyllid

Theatr, fel ffurf artistig

Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.

Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â ni ar y manylion cyswllt uchod.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru diddordeb ar gael yn y pecyn recriwtio ar ein gwefan.

Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.

Cyflog

💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Dolgellau Ar gau

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

💰 £23k - £24k 📍 Hybrid📍 Hyblyg +1 Ar gau

Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Rondo

💰 Yn ôl profiad 📍 Porthaethwy📍 Llangefni Ar gau

GwE

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £21k - £22k 📍 Aberdyfi📍 Hybrid Ar gau

Ofcom Cymru

💰 £55k 📍 Caerdydd Ar gau

Byw'n Iach

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth 📍 Amrywiol Ar gau

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru

💰 £36k 📍 Hybrid Ar gau

Byw'n Iach

💰 £19k - £20k 📍 Porthmadog Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Caerdydd

💰 £23k - £27k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £29k - £36k 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £30k - £32k 📍 Dolgellau Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Elin Jones AS

💰 £27k - £39k 📍 Aberystwyth Ar gau

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

💰 £34k - £41k 📍 Nantgarw Ar gau

Grŵp Llandrillo Menai

💰 £26k - £28k 📍 Bangor Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £52k - £60k 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £43k - £50k 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £27k - £33k 📍 Llanelwy Ar gau

E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion

💰 £29k - £44k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £41k pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau