Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Weithredwr / Prif Weithredwraig

Galeri Caernarfon

💰 £60k 📍 Caernarfon Ar gau

Mae Galeri Caernarfon yn edrych am Brif Weithredwr / Prif Weithredwraig

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Yn un o brif fentrau cymdeithasol Cymru, mae’r sefydliad yn amlwg iawn yn ardal Caernarfon a thu hwnt oherwydd y gwaith mae’r cwmni wedi ei gyflawni ers 1992. Mae gwaith y cwmni hyd yma yn cynnwys:

- Adfwyio adeiladau yn y dref gaerog (trawsnewid ac ailwampio dros 20 o adeiladau gwag, bler mwyaf y dref)

- Adeiladu a rheoli canolfan mentrau creadigol Galeri (un o brif ganolfanau celfyddydol Cymru)

- Cynnig cyfleoedd/prosiectau drwy’r celfyddydau

- Prosiect adfywio Cei Llechi

Mae ein Prif Weithredwr presennol, Gwyn Roberts, wedi bod yn allweddol yn arwain y cwmni ers y decharu, gan ddatblygu ein gweledigaeth a chreu prosiectau i dyfu’r sefydliad mewn ffyrdd cydweithredol ac arloesol, sydd hefyd yn ychwanegu gwerth economaidd yn lleol. Bydd Gwyn yn parhau mewn rôl newydd hefo Galeri, gan ganolbwyntio ar ddatblygu prosiectau newydd, o fis Ebrill 2023.

Rydym yn chwilio am berson gweithgar i yrru ein cenhadaeth ymlaen gan adeiladu ar y seiliau cadarn a osodwyd gan y Cwmni dros y blynyddoedd, mewn cyfnod a fydd yn heriol i'r sectorau diwylliannol a mentrau cymdeithasol.

Y Prif Weithredwr sydd, mewn cydweithrediad a’r Bwrdd Rheoli, yn gosod cyfeiriad strategol i holl waith Galeri Caernarfon Cyf ac sy’n gweithredu fel llysgennad yn y gymuned leol a thu hwnt. Dyma gyfle arbennig i unigolyn sydd a gweledigaeth i arwain tîm brwdfrydig a menter gymdeithasol hollbwysig mewn canolfan greadigol unigryw.

Mae’r gallu i weithio yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.

Sut i Ymgeisio -

Os teimlwch fod gennych y cyfuniad cywir o sgiliau a brwdfrydedd i gyrraedd gofynion y swydd yma, dylwch ymgeisio drwy yrru y dogfennau isod i HR@Dolen.co.uk

- CV cyfredol

- Datganiad cefnogol o ddim mwy na 2 ochr A4, yn amlinellu eich profiad perthnasol.

Cyflog

💰 £60,000

Lleoliad

📍 Caernarfon

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Menter a Busnes

💰 £27k - £33k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Llanuwchlyn Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

💰 £23k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 £43k 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £33k - £37k 📍 Hyblyg Ar gau

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £22k - £33k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr

💰 £28k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £36k - £40k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £25k - £28k 📍 Caerdydd📍 Y Drenewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £32k - £35k 📍 Ynys Môn Ar gau

S4C

💰 £27.26 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Menter a Busnes

💰 £25k - £30k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 O gartref Ar gau

Catalyddion Cymunedol

💰 £33k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad + bonws 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £30k - £32k 📍 Pwllheli Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £16k - £18k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £32k - £35k 📍 Ynys Môn Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad + bonws 📍 Caerfyrddin📍 Caerdydd +2 Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

💰 £21k 📍 Nantgarw Ar gau

Y Lolfa Cyf

💰 Cystadleuol 📍 Talybont📍 O gartref +1 Ar gau