Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd – Practis Cymru

Odgers Berndtson

💰 Cystadleuol 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Mae Odgers Berndtson yn edrych am Ymchwilydd – Practis Cymru

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n Practis Cymru llwyddiannus, gan weithio ar aseiniadau chwilio gweithredol ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector nid-er-elw.

Odgers Berndtson yw cwmni chwilio gweithredol blaenaf y Deyrnas Unedig (DU), gyda’r tîm mwyaf o ymchwilwyr arbenigol yn y DU ar draws ein rhwydwaith o 8 swyddfa ranbarthol. Ni yw’r unig gwmni chwilio gweithredol rhyngwladol o’r radd flaenaf sy’n gweithredu yng Nghymru ac rydym yn ffodus i gyflawni aseiniadau â’r proffil uchaf. Mae hwn yn gyfle go unigryw i wneud cyfraniad gwych i ddyfodol Cymru wrth benodi gweithwyr proffesiynol dawnus. Mae ein penodiadau yn cynnwys rhai o’r rolau uchaf yn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Cyfoeth Naturiol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Dŵr Cymru, Gwasanaethau Ariannol Admiral a Chanolfan Mileniwm Cymru.

**Y rôl **

Rôl Ymchwilydd yw adnabod, cysylltu ac ymgysylltu â gweithwyr newydd posibl ar gyfer ein cleientiaid. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rydym yn ennill dealltwriaeth o anghenion y sefydliad cleient cyn nodi unigolion mewn cwmnïau perthnasol a mynd atynt, gan asesu eu diddordeb a’u haddasrwydd ar gyfer y rôl. Mae’n rôl heriol sy’n gofyn am ddyfalbarhad, atebolrwydd personol a chreadigrwydd. Mae’n cynnig profiad o weithio o fewn cwmni chwilio gweithredol blaenaf y DU, ond mae hefyd yn golygu bod mewn cysylltiad ag amrywiaeth enfawr o sefydliadau, sectorau a swyddogaethau, a dysgu oddi wrthynt. Mae’r gofynion hanfodol fel a ganlyn:

- Gweithio’n dda dan bwysau a chyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel

- Sgiliau cyfathrebu ardderchog

- Ymagwedd drefnus a rhoi sylw rhagorol i fanylion

- Bod yn gadarn ac yn greadigol ac arddangos atebolrwydd personol

- Angerdd gwirioneddol dros faterion cyfoes sy’n ymwneud â busnes

**Cais **

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam y byddech yn addas ar gyfer y rôl, drwy e-bost at Jemma Terry, Partner Rheoli, Practis Cymru, drwy lisa.thomas@odgers.com, neu ffoniwch 02920 783 050.

Cyflog

💰 Cyflog cystadleuol

Lleoliad

📍 Caerdydd, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Urdd Gobaith Cymru

💰 £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

GwE

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Esgobaeth Tyddewi

💰 £27k - £30k 📍 Abergwili Ar gau

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

💰 £28k - £30k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Undeb Amaethwyr Cymru

💰 £40k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Uchelgais Gogledd Cymru

💰 £28k - £30k 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs

💰 £28k 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52k - £58k 📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Cymuned Llandwrog

💰 £28k pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60k 📍 Caernarfon Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43k - £57k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22k - £23k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £27k - £32k 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37k - £43k 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

Cyngor Tref Ffestiniog

💰 £25k - £36k 📍 Ffestiniog Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £42k - £47k 📍 Campws Llandaf Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £65k - £75k 📍 Casnewydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £26k 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau