Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd

Telesgop

💰 Cystadleuol 📍 Abertawe📍 O gartref Ar gau

Mae Telesgop yn edrych am Gyfarwyddwr / Gynhyrchydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cwmni Telesgop yn chwilio am gyfarwyddwr / cynhyrchydd profiadol, hyderus a dyfeisgar sydd â diddordeb gwirioneddol yn y byd darlledu a'r awydd i rannu straeon difyr, gan weithio ar amrywiaeth o raglenni teledu.

Disgrifiad:

Mae Telesgop yn cynhyrchu ystod o raglenni i S4C, i’r BBC a darlledwyr eraill, ac i blatfformau digidol. Fe fydd gofyn i’r person llwyddiannus weithio ar y gyfres FFERMIO a hefyd ar raglenni amrywiol a chyfresi newydd. Mae’n gyfle i ddatblygu syniadau newydd ac i weithio ar ystod o genres.

Mae Telesgop yn gwmni cyfeillgar ac yn ymfalchio yn y teimlad cartrefol a theuluol sydd yn ein gweithle, gyda gwerthoedd uchel o ran disgwyliadau a gofal staff. Mae’r prif swyddfa yn Abertawe ac mae gennym adrannau golygu, graffeg a digidol.

Dylai'ch sgiliau cyfathrebu fod yn ardderchog, eich bod yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm, ac yn gallu gweithio o fewn cyfyngiadau amser tynn. Mae trwydded yrru yn hanfodol.

Byddwch hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram, Twitter a Zoom. Bydd gennych y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir ac ystwyth. 

Swydd cytundeb tymor penodol fydd hon am 6 mis i ddechrau gyda’r posiblrwydd o arwain at swydd lawn amser, 5 diwrnod yr wythnos. Croesawir cynigion gan ymgeiswyr o bob cefndir heb wahaniaethu.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa Telesgop yn Abertawe ac yn medru gweithio o gartref yn y tymor byr.

Os am ymgeisio ar gyfer y swydd, anfonwch ebost, a CV yn cyflwyno’ch hunan a’ch profiad wedi’i labeli ‘Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd’ at info@telesgop.cymru, neu os am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 82 45 67.

Cyflog

💰 Cystadleuol yn dibynnu ar brofiad

Lleoliad

📍 Abertawe, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cwmni Theatr Arad Goch

💰 £21k - £30k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £23k - £25k 📍 Bangor Ar gau

Milfeddygon Dolgellau Cyf

💰 Yn ôl sgiliau 📍 Dolgellau Ar gau

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

💰 £25k - £27k 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Campws Caerfyrddin📍 Campws Hyblyg Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £38k - £42k 📍 Hyblyg📍 Llangrannog +1 Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

💰 £21k - £25k 📍 Caerdydd Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £42k - £47k 📍 Caerdydd Ar gau

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

💰 £26k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Estyn

💰 £21k - £25k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

GwE

💰 £28k - £30k 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

GwE

💰 £25k - £28k 📍 Bae Colwyn📍 Caernarfon +1 Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £21k - £22k 📍 Bae Colwyn Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £29k - £31k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37k - £43k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

💰 £27k - £33k 📍 Cwmbrân Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £43k - £47k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin

💰 £54k - £62k 📍 Pencader Ar gau

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £23 - £22k 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £43k - £47k 📍 Pentre Ifan Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60k 📍 Caernarfon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £38k - £42k 📍 Caerdydd Ar gau