Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Gweinyddwr Gwasanaethau i Fyfyrwyr

Prifysgol Caerdydd

💰 £23k - £27k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych am Weinyddwr Gwasanaethau i Fyfyrwyr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth am lenwi swydd newydd yn nhîm y Gwasanaethau i Fyfyrwyr, gan helpu i’w weinyddu, rhoi cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr ac ateb eu hymholiadau. Yn y swydd hon, byddwch chi’n cynnig cymorth gweinyddol proffesiynol i addysgwyr a myfyrwyr yr ysgol, gan roi cymorth a chyngor penodol ynghylch presenoldeb myfyrwyr, amgylchiadau esgusodol, a phrosesau apeliadau academaidd. Bydd angen profiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol, yn ddelfrydol o fewn swydd yn ymwneud ag addysg neu â gwaith Cofrestrfa.

Mae’r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos) a pharhaol. 

Dyddiad cau: Dydd Sul, 24 Gorffennaf 2022

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Mae Prifysgol Caerdydd am gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb, gan gynnig awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth o staff o sawl cefndir. Felly, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned heb ystyried rhyw, tras, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o garfanau nad oes llawer o’u haelodau ymhlith gweithlu’r Brifysgol, megis y rhai sy’n uniaethu ag LGBT+, pobl o dras groenddu neu leiafrifol a phobl anabl. Wrth helpu ein gweithwyr i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn ni’n ystyried cynigion ar gyfer gweithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Cyflog

💰 £22,847 - £27,116

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Urdd Gobaith Cymru

💰 £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

GwE

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Esgobaeth Tyddewi

💰 £27k - £30k 📍 Abergwili Ar gau

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

💰 £28k - £30k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Undeb Amaethwyr Cymru

💰 £40k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Uchelgais Gogledd Cymru

💰 £28k - £30k 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs

💰 £28k 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52k - £58k 📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Cymuned Llandwrog

💰 £28k pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60k 📍 Caernarfon Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43k - £57k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22k - £23k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £27k - £32k 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37k - £43k 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau

Cyngor Tref Ffestiniog

💰 £25k - £36k 📍 Ffestiniog Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £42k - £47k 📍 Campws Llandaf Ar gau

Cyngor Dinas Casnewydd

💰 £65k - £75k 📍 Casnewydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £26k 📍 Hybrid📍 Campws Trefforest +1 Ar gau