Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Is-Lywydd

Amgueddfa Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Is-Lywydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn edrych am:

·   Arweinydd profiadol a diplomyddol sydd â phrofiad o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth, amlddisgyblaethol;

·   Rhywun sy’n angerddol am Gymru a’i diwylliant, ac yn argyhoeddedig o’r effaith gadarnhaol y gall Amgueddfa Cymru ei chael ar les a hunaniaeth cenedl;

·   Rhywun a fydd yn cefnogi ac yn helpu i lywio datblygiad sefydliad diwylliannol cenedlaethol, proffil uchel mewn ffordd sy'n gwella ei botensial a'i gyrhaeddiad a'i berthnasedd yng Nghymru, ar draws y DU, ac yn rhyngwladol.

Ymrwymiad: Ymrwymiad ar gyfartaledd o 12 diwrnod y flwyddyn am 4 blynedd yn y swydd. Mae hyn yn cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd bwrdd, digwyddiadau, dirprwyo ar ran y Llywydd, a gwasanaethu ar is-bwyllgorau.   Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolyn eithriadol i ymgymryd â rôl Is-lywydd Amgueddfa Cymru.

Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol sgiliau arwain, llywodraethu a rheoli perthnasoedd profedig, ynghyd â meddylfryd strategol ac angerdd am ddiwylliant yng Nghymru.

Dylai pob ymgeisydd allu dangos diddordeb gwirioneddol yng ngweithgareddau’r Amgueddfa a’i datblygiad yn y dyfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r cyfrifoldebau o fod yn ymddiriedolwr ac yn Is-lywydd.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn deall cymunedau amrywiol Cymru ac yn ymroddedig i sicrhau y gallant oll gymryd rhan yng ngwaith Amgueddfa Cymru, a’i chasgliadau, a mwynhau’r buddion o ymwneud ag ef.

Mae gan bob ymddiriedolwr gyfrifoldeb unigol a chyfunol i Lywodraeth Cymru drwy’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.

Mae’r fanyleb person lawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys ym mhecyn gwybodaeth yr ymgeisydd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl a allai fod yn rhugl o fewn 12 mis i gael eu penodi, gan gynnwys gyda chymorth/hyfforddiant ychwanegol.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am rôl yr Is-lywydd, cysylltwch â Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru Nicola.Guy@llyw.cymru neu Catrin Hughes, Pennaeth Noddi, Is-adran Diwylliant, Llywodraeth Cymru, Catrin. Hughes@llyw.cymru

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i integreiddio i bob agwedd ar eu busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp a sicrheir na chaiff unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus ei drin yn llai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu famolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld unrhyw un anabl lle mae eu cais yn bodloni isafswm meini prawf y swydd. Wrth ‘feini prawf gofynnol’ rydym yn golygu bod yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni yn eich cais sy’n dangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl ac unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a ddiffinnir yn hanfodol.

Os hoffech gael cyfweliad gwarantedig, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00, 18 Gorffennaf 2022. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.   Byddwch yn cael eich hysbysu a ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad ai peidio o leiaf bythefnos cyn cynnal y cyfweliadau. 

Cyflog

💰 Costau teithio a chynhaliaeth

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Dolgellau Ar gau

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

💰 £23k - £24k 📍 Hybrid📍 Hyblyg +1 Ar gau

Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Rondo

💰 Yn ôl profiad 📍 Porthaethwy📍 Llangefni Ar gau

GwE

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £21k - £22k 📍 Aberdyfi📍 Hybrid Ar gau

Ofcom Cymru

💰 £55k 📍 Caerdydd Ar gau

Byw'n Iach

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth 📍 Amrywiol Ar gau

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru

💰 £36k 📍 Hybrid Ar gau

Byw'n Iach

💰 £19k - £20k 📍 Porthmadog Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Caerdydd

💰 £23k - £27k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £29k - £36k 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £30k - £32k 📍 Dolgellau Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Elin Jones AS

💰 £27k - £39k 📍 Aberystwyth Ar gau

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

💰 £34k - £41k 📍 Nantgarw Ar gau

Grŵp Llandrillo Menai

💰 £26k - £28k 📍 Bangor Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £52k - £60k 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £43k - £50k 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £27k - £33k 📍 Llanelwy Ar gau

E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion

💰 £29k - £44k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £41k pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau