Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd mewn TAR (PCET)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Abertawe Ar gau

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Ddarlithydd mewn TAR (PCET)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn brifysgol sector deuol ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â nifer o Golegau Addysg Bellach. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd addysgol arloesol i ddysgwyr a fydd yn cryfhau ein cymunedau ac yn cyflawni potensial unigolion.

Lleolir y swydd yn yr Athrofa, Canolfan Addysg y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Athrofa yn cynnig ystod o raglenni Blynyddoedd Cynnar, Addysg Gychwynnol Athrawon a rhaglenni addysg ôl-raddedig eraill gan gynnwys TAR addysg athrawon ôl-16.

Bydd y swydd yn cyfrannu at ddarpariaeth rhaglenni TAR (PCET) ôl-16.

Mae ein rhaglenni’n adeiladu ar gysylltiad maith y brifysgol â newid addysgol ac arloesi, sy’n dyddio’n ôl i 1848, ac fe’u lluniwyd i ddatblygu cariad at ddysgu.

Y Rôl:

Disgwylir i chi gyfrannu at ystod lawn y ddarpariaeth TAR (PCET) ar draws ein portffolio o ddarpariaeth amser llawn, ran amser a dysgu o bell, a bydd angen rhywfaint o waith gyda’r nos hefyd. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfrannu’n gadarnhaol i’r rhaglen TAR (PCET) yn nhermau addysgu yn ogystal â goruchwylio ymarfer dysgu. 

Yn ychwanegol, byddwch yn dylunio ac yn datblygu deunyddiau addysgu, yn goruchwylio gwaith myfyrwyr ac yn cynnig cyngor, adborth, cefnogaeth ac anogaeth. 

Amdanoch chi: Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl Darlithydd mewn TAR (PCET), bydd arnoch angen:

·   Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at ddatblygiad darpar athrawon ym maes addysg a hyfforddiant ôl-16

·   Y gallu i ddarparu cyfarwyddyd ac adborth adeiladol ar arfer proffesiynol myfyrwyr o fewn eu lleoliadau fel y bo’n briodol

·   Tystiolaeth o ymgysylltu’n briodol â gofynion sicrhau ansawdd a rheoleiddio

·   Hygrededd academaidd personol a phroffesiynol a chyflawniad

·   Gwybodaeth am y sector addysg ysgolion ac addysg gymunedol yng Nghymru, ac ymgysylltu â’r sector hwnnw 

·   Profiad o addysgu a chefnogi myfyrwyr ar lefel astudio israddedig ac ôl-raddedig, naill ai’n unigol neu fel aelod o dîm addysgu 

·   Gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol

·   Cymhwyster ôl-raddedig lefel uwch (Meistr neu uwch) sy’n berthnasol i’r swydd, neu barodrwydd i ymgymryd ag astudio pellach 

·   Cymhwyster TAR (PCET) (neu’r cyfwerth)

·   Gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac ar bapur)

Buddion:

Yr hawl i wyliau blynyddol yw 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau

Mae ein gweithwyr yn cael mynediad i becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:

- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig rydym yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu

- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach

- Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela

- Disgowntiau i staff ar ystod o gynnyrch a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith

Mae’n bosibl y bydd sefydliadau eraill yn galw’r rôl hon yn Ddarlithydd, Darlithydd Addysg, neu Ddarlithydd Addysgu.

Felly, os ydych yn chwilio am eich her nesaf fel Darlithydd mewn Addysg, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir.

Bydd y swydd hon yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Sylwer, nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, a’ch Datganiad Ategol yn arbennig.

Dyddiad Cau: 30 Mehefin, 2022 11:59yp.

Cyflog

💰 £36,382 - £42,149

Lleoliad

📍 Abertawe

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Dolgellau Ar gau

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

💰 £23k - £24k 📍 Hybrid📍 Hyblyg +1 Ar gau

Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Rondo

💰 Yn ôl profiad 📍 Porthaethwy📍 Llangefni Ar gau

GwE

💰 £22k - £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £21k - £22k 📍 Aberdyfi📍 Hybrid Ar gau

Ofcom Cymru

💰 £55k 📍 Caerdydd Ar gau

Byw'n Iach

💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth 📍 Amrywiol Ar gau

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru

💰 £36k 📍 Hybrid Ar gau

Byw'n Iach

💰 £19k - £20k 📍 Porthmadog Ar gau

Mantell Gwynedd

💰 £28k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Caerdydd

💰 £23k - £27k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru

💰 £23k 📍 Hybrid Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £29k - £36k 📍 Caerdydd📍 Hybrid +1 Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £30k - £32k 📍 Dolgellau Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24k - £27k 📍 Bangor Ar gau

Elin Jones AS

💰 £27k - £39k 📍 Aberystwyth Ar gau

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

💰 £34k - £41k 📍 Nantgarw Ar gau

Grŵp Llandrillo Menai

💰 £26k - £28k 📍 Bangor Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £52k - £60k 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £43k - £50k 📍 Cymru📍 Hybrid Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £27k - £33k 📍 Llanelwy Ar gau

E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion

💰 £29k - £44k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £41k pro rata 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau