Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Senedd Cymru

💰 £55k - £66k 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Senedd Cymru yn edrych am Bennaeth Cyswllt â’r Aelodau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn chwilio am arweinydd cryf sy’n gallu ysgogi ei hun ac sy’n rhoi pwyslais cryf ar wasanaethau cwsmeriaid, sy’n barod i gymryd y camau cyntaf i ddatrys problemau, ac sy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle mae pawb yn gweithio dan gryn bwysau.

Byddwch yn arwain y tîm Dysgu ac Ymgysylltu â’r Aelodau sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen dysgu a datblygu berthnasol ac amserol, o safon uchel, a’i chyflwyno i’r Aelodau a’u staff. Mae'r tîm yn rheoli'r gyllideb ac yn datblygu ffyrdd arloesol o ddarparu hyfforddiant ledled Cymru sy'n berthnasol i bob agwedd ar waith yr Aelodau. Mae hefyd yn gyfrifol am fewnrwyd yr Aelodau ac arolwg bodlonrwydd yr Aelodau.

Gan ddefnyddio ffyrdd cynhyrchiol o ymgysylltu â’r Aelodau i gasglu adborth er mwyn nodi a deall anghenion yr Aelodau, byddwch yn cynorthwyo'r Prif Weithredwr a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn i wneud penderfyniadau effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau gan godi ymwybyddiaeth a chryfhau dealltwriaeth o'r anghenion hynny.

Bydd angen ichi ddangos barn sicr ac ennyn ymddiriedaeth a hyder yr Aelodau a chydweithwyr ac ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol. Bydd angen ichi ddatblygu a meithrin perthynas ag eraill, cael pobl i ddeall safbwyntiau pobl eraill, a deall rôl y Senedd a’r Comisiwn.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn gallu cynhyrchu gwybodaeth sy’n glir a chywir, a chynnig cyngor diduedd, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Rhaid ichi fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser.

Yn fwy cyffredinol, bydd angen ichi ddangos ymrwymiad personol i werthoedd Comisiwn y Senedd, gan arwain newid i hybu amcanion strategol Comisiwn y Senedd.

Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.

Cyflog

💰 £55,240 - £66,234

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Hyblyg Ar gau

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Dysgu Cymraeg Morgannwg (Prifysgol De Cymru)

💰 £22k 📍 Pontypridd Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £22k 📍 Bangor Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £22k 📍 Bangor Ar gau

Y Comisiwn Etholiadol

💰 £38k 📍 Caerdydd Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £40k - £47k 📍 Casnewydd📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £39k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hyblyg Ar gau

Adra

💰 £23k - £26k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 £20k - £23k 📍 De Gwynedd📍 O gartref Ar gau

Adra

💰 £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 Tua £56k 📍 Llangefni Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k 📍 Caerdydd Ar gau

Llywodraeth Cymru

💰 £350 y dydd 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £8k (15 awr) / £20k (37 awr) 📍 Conwy Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £18k - £20k 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £16k 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £36k - £42k 📍 Abertawe Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau