Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Tiwtor y Gymraeg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £34k - £41k Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Tiwtor y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym yn chwilio am Diwtor Cymraeg brwdfrydig a fydd yn gyfrifol am lunio a darparu ystod o raglenni dysgu i’n staff. Mae hyfforddiant iaith Gymraeg wedi cael ei nodi yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog, felly bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ehangu’r cyfleodd a’r cymorth sydd ar gael i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg. Bydd deilydd y swydd yn arwain ar greu rhaglenni perthnasol ar gyfer gweithwyr y sefydliad, yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol a staff gweinyddol.

Bydd gan ddeilydd y swydd brofiad helaeth o weithio ym maes hyfforddi, ynghyd â gwybodaeth eang am, a dealltwriaeth gadarn o, faterion yn ymwneud â'r Gymraeg. 

Mae’r gallu i deithio ar draws Gogledd Cymru yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Disgrifiad:

Bydd gan Diwtor y Gymraeg rôl allweddol i'w chyflawni o ran sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Safonau Cymraeg Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Nod y swydd hon yw ehangu'r cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i staff y Bwrdd Iechyd o ran dysgu'r Gymraeg ac i'w ddefnyddio. Bydd y swydd yn gyrru nod strategol y Bwrdd Iechyd yn ei flaen i gynyddu defnydd o'r Gymraeg o ran gweinyddu a darparu gwasanaethau gan fynd i'r afael â gofynion allweddol Safonau'r Gymraeg.

Bydd y tiwtor yn arbenigwr ar ddatblygiad a hyfforddiant y Gymraeg a bydd yn dylunio ac yn darparu rhaglen hyfforddi ac asesu cynhwysfawr ar gyfer staff newydd a staff sy'n bodoli eisoes i wella lefel y gwasanaethau cleifion sydd ar gael yn Gymraeg.

Cyflog

💰 £33,706 - £40,588

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Senedd Cymru

💰 £26k - £31k 📍 Bae Caerdydd Ar gau

Innvois LTD

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Iaith Casnewydd

💰 £21k - £23k 📍 Casnewydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £25k - £30k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +3 Ar gau

Barnardo's

💰 £46k 📍 Ynys Môn📍 Gwynedd Ar gau

Cyngor Sir Penfro

💰 £30k - £34k 📍 Sir Benfro Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £28k - £30k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyfoeth Naturiol Cymru

💰 £20k - £23k 📍 Ponterwyd Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £19k - £22k 📍 Llanrwst Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

💰 £19k - £20k 📍 Llandudno📍 O gartref Ar gau

Cymdeithas yr Iaith

💰 £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin📍 Hybrid Ar gau

CADMHAS

💰 £22k 📍 O gartref Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £27k - £33k 📍 Caerdydd Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin Ar gau

WWF Cymru

💰 £27k 📍 Caerdydd Ar gau

WWF Cymru

💰 £38k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri

💰 £27k pro rata 📍 Porthmadog Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £27k 📍 Bangor Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £10k 📍 Sir Benfro📍 Abertawe +4 Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £42k 📍 Ceredigion Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £20k - £22k 📍 Hyblyg Ar gau