Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Brentis Cefnogi Busnes a Systemau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwnewch y dewis doeth, dewiswch brentisiaeth yng Nghyngor Gwynedd!
Wyt ti wedi ystyried gyrfa yn y maes cefnogi busnes?
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n barod i ddysgu. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.
Dim ond dechrau'r daith yw dilyn prentisiaeth, achos fe all arwain at nifer o lwybrau gyrfa cyffrous. Felly peidiwch â cholli’r cyfle - ymgeisiwch heddiw!
DYDDIAD CAU: 10.00a.m, DYDD IAU 13eg o Ebrill 2023
Cofiwch ddilyn y canllawiau yn y PECYN GWYBODAETH wrth gwblhau’r ffurflen gais.
Os byddwch yn cael eich dewis i fod ar y rhestr fer, byddwn yn eich ffonio.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
**Am ragor o wybodaeth - **
https://www.gwynedd.llyw.cymru/apprenticeships
• Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
• 26.5 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwrnod gwyl y banc blynyddol
• Gweithio yn hyblyg - Gweithio o adref, yn y swyddfa neu cymysgedd o'r ddau
• Amodau a thelerau gwaith gorau yn yr ardal
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau e-bostiwch Prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru
Cyflog
💰 Cyflog yn gyfwerth i isafswm cyflog cenedlaethol
Lleoliad
📍 Dolgellau
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn edrych am Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig fel ‘Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol’ CGGC.
Disgrifiad:
Rydyn ni’n chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno ag CGGC fel Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol. Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sydd eisiau dechrau ar yrfa mewn cyfathrebu a marchnata. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un â sgiliau pobl cryf i wneud defnydd da ohonynt drwy helpu CGGC i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC: https://wcva.cymru/cy/gweithio-i-cggc/
SWYDDOG CYMORTH CYFATHREBIADAU DIGIDOL
Cymraeg yn hanfodol
35 awr yr wythnos
£23,307 yn cynyddu i £24,830 pro rata y flwyddyn
Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’i gyflog blynyddol at ei gynllun pensiwn cymeradwy.
Lleoliad:
Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch chi weithio yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau a threfniadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd a lleoliadau eraill, ond y mwyafrif o’r amser, gallwch chi ddewis ble rydych chi’n gweithio fel y bo’n briodol i’ch ffordd o fyw.
Ynglŷn â’r rôl:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn creadigol a brwdfrydig weithio gyda’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig. Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr o weithio gyda’n harbenigwyr yn y diwydiant ar ymgyrchoedd amlgyfrwng at ddibenion a chynulleidfaoedd amrywiol.
Mae’r rôl yn ddelfrydol i rywun sy’n dymuno dechrau ar yrfa yn y maes cyfathrebu a marchnata. Os oes gennych chi sgiliau pobl ac ochr greadigol, mae’r swydd hon yn rhoi digonedd o gyfleoedd i chi ehangu a datblygu eich sgiliau, wrth ddylunio cyfathrebiadau diddorol i gefnogi a hyrwyddo’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:
Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau ar gyfer platfformau amrywiol, gan gynnwys ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac e-gylchlythyrau
Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol gwahanol i ganfod cyfleoedd i greu cynnwys diddorol sy’n hyrwyddo gwaith y sector gwirfoddol
Cyfrannu at y gwaith o gynllunio cyfathrebiadau a marchnata er mwyn sicrhau mai’r un yw ein llais yn Gymraeg a Saesneg
Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill CGGC a chyda phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gysylltiedig â nhw. Byddwch chi’n clywed o lygad y ffynnon (ac yn helpu i adrodd) straeon hollol ysbrydoledig elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.
Mae’r swydd hon yn amrywiol iawn, ac nid yw’r un dau ddiwrnod yr un fath. Mae hon yn rôl hynod o werth chweil ar gyfer unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad lawn: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/
SUT I YMGEISIO
I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod: https://wcva.cymru/cy/cyfle-gwaith-newydd-yn-cggc/
Dyddiad cau: 20 Mawrth 2023, 10am
Cyflog
💰 £23,307 - £24,830 pro rata
Lleoliad
📍 Hybrid, Hyblyg, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Undeb Myfyrwyr, Prifysgol Bangor yn edrych am Gydlynydd Cynrychiolaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn amser barhaol uchod yn gweithio yn Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor).
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a brwdfrydig i weithio yn adran Datblygu Aelodaeth Undeb Bangor fel Cydlynydd Cynrychiolaeth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Sabothol etholedig Undeb y Myfyrwyr ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn yr Undeb, gan gynnwys Cynrychiolwyr Cwrs, y Cyngor Myfyrwyr, etholiadau a pholisi a gweithgarwch cynrychioliadol UMCB.
Byddwch wedi cael addysg i safon Lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) a byddwch yn gweithio fel rhan o'r Tîm Llais Myfyrwyr ac yn gyfrifol am gydlynu a chefnogi'r gweithgarwch democratiaeth a chynrychiolaeth yn unol ag amcanion strategol yr Undeb.
Mae hon yn rôl mewn adran brysur a deinamig ac felly mae'n rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â'r gallu i fod yn hyblyg a medru addasu. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio mewn maes cynrychioliadol a democrataidd a chyda dealltwriaeth dda o faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Byddai profiad o weithio mewn sefydliad amrywiol a gallu i ffynnu mewn sefyllfa waith gyflym ei naws dan arweiniad myfyrwyr yn fantais.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau mor fuan ag sydd yn rhesymol bosib.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu dangos ymrwymiad i ddysgu hyd at safon benodedig, yn hanfodol i'r swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk.
Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 20 Mawrth 2023.
Dyddiad y cyfweliad: 29 Mawrth 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Rondo yn edrych am Fideograffydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp Rondo Media yn chwilio am Fideograffydd i gynllunio, saethu a golygu cynnwys ar gyfer ein platfformau digidol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig, creadigol gyda’r weledigaeth a’r gallu technegol i fynd â phrosiect o’r syniad cychwynol drwodd i’w gyhoeddi ar amrywiol lwyfannau.
Bydd cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Gweithio’n agos gydag adran olygyddol Rownd a Rownd i adnabod cyfleon i dyfu’r brand arlein
- Creu, datblygu, saethu a golygu cynnwys sy’n apelgar i’n cynulleidfa arlein, ar ba bynnag blatfform
- Adnabod targedau ar gyfer gwahanol lwyfannau a rhoi camau yn eu lle i’w cyrraedd
- Ymchwilio tueddiadau digidol ar draws llwyfannau amrywiol ac ymateb yn gyflym i fanteisio arnynt
- Dod yn gyfarwydd â chynnwys Rondo gan fod yn barod i awgrymu strategaeth ddigidol i fynd law yn llaw â hynny
- Tyfu dealltwriaeth o gynulleidfa ein brandiau, a sut y mae’r gynulleidfa yna yn amrywio o blatfform i blatfform, gan gynllunio cynnwys yn benodol i garfannau arbennig
- Sicrhau fod popeth sy’n cael ei gyhoeddi yn weddus i’r brand dan sylw
- Cynnig syniadau a bod â’r gallu i weithio law yn llaw â chynhyrchiadau i fynd a’r syniadau yna drwy bob cam o’r broses gynhyrchu
Byddwch:
- Yn gyfarwydd â meddalweddau golygu fideo megis Premiere Pro
- Yn hyderus wrth ddefnyddio camerâu, yn benodol camerâu DSLR neu mirrorless
- Ag ymwybyddiaeth o offer recordio sain syml
- Â phrofiad o saethu ar gyfer fideos cymhareb agwedd (aspect ratio) amrywiol
- Yn greadigol, gydag angerdd tuag at greu cynnwys o’r safon uchaf
- Yn gallu creu deunydd mewn amryw o steiliau gwahanol gan fod yn ysgafn neu ddwys yn ôl y galw
- O fewn rheswm, yn hyblyg i ymateb i ddigwyddiadau penodol arlein
- Yn gallu cyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
**Cytundeb: **12 mis
**Lleoliad: **Porthaethwy/Llangefni
**Cyflog: **Yn ddibynnol ar brofiad
**Oriau Gwaith arferol: **0900 – 1700 Llun i Gwener, gall yr oriau amrywio ar adegau
**Dyddiad cau: **Ebrill 6ed 2023
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Porthaethwy, Llangefni
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae GwE yn edrych am Swyddog Cefnogi Busnes
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
GwE yw’r gwasanaeth Gwella Ysgolion dros ogledd Cymru. Mae’n wasanaeth a gydrennir ar draws chwe Awdurdod Lleol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion. Craidd ein gwaith yw uchelgais gwirioneddol i weld yr ysgolion a’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gefnogi meysydd neu fentrau penodol o fewn y gwasanaeth gan ddarparu cefnogaeth fusnes gyffredinol. Bydd dyletswyddau yn cynnwys yr holl drefniadau cefnogi busnes, h.y. cefnogi rhaglenni, cadw cofnodion i safon uchel, ymgymryd â gweinyddu ariannol, tracio a chofnodi gwariant, casglu data, bod yn brif pwynt cyswllt i’r holl randdeiliaid.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd Telerau ac Amodau Llywodraeth Leol yn berthnasol.
DYDDIAD CAU: 10.00yb, Dydd Iau, 6 Ebrill 2023
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Ann Grenet ar 07580 711022 neu 01286 685044, neu e-bost anngrenet@GwEGogledd.Cymru
Am ragor o fanylion a ffurflen gais defnyddiwch y ddolen ymgeisio neu ffonio 01286 679076.
Cyflog
💰 £22,369 - £24,054
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth (Rhan-Amser, FTC)
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych am Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth (Rhan-Amser, FTC)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth i ymuno â ni yn rhan amser, gan weithio pedwar i bum diwrnod yr wythnos ar gontract tymor penodol.
Y Manteision
- Cyflog o £20,812 - £21,968 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau (24 diwrnod) (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Gweithio Hybrid
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Cynorthwy-ydd Canolfan Wybodaeth, byddwch yn gyfrifol am roi arweiniad a chymorth i'n hymwelwyr yn ein canolfan yn Aberdyfi.
Yn y rôl hon sy'n delio â chwsmeriaid, byddwch yn gwneud ymholiadau, yn hyrwyddo atyniadau lleol, yn tynnu sylw at rinweddau arbennig y parc ac yn hyrwyddo gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Byddwch yn helpu i adeiladu ein presenoldeb ar-lein trwy gynnwys a chyfryngau cymdeithasol a chynorthwyo gyda rhedeg y ganolfan, gwerthu nwyddau, archebu stoc a sicrhau ei bod yn lân ac yn daclus.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cynorthwyo mewn digwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd lleol
- Cefnogi gweithgareddau addysgol ac iechyd a lles
- Archebu llety a chofnodi lleoedd gwag
Amdanoch chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Gynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, bydd angen:
- Y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl
- Gwybodaeth leol a brwdfrydedd dros rinweddau'r Parc Cenedlaethol a'r ardal
- Gwybodaeth dda am ddaearyddiaeth ac atyniadau Cymru
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Sgiliau TG sylfaenol
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 27 Mawrth 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwyydd Canolfan Groeso, Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr, Cynorthwyydd Profiad Ymwelwyr neu Gynorthwyydd Gwybodaeth Ymwelwyr.
Felly, i ymuno â'n sefydliad anhygoel mewn rôl werth chweil fel Cynorthwyydd Canolfan Wybodaeth, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £20,812 - £21,968 pro rata
Lleoliad
📍 Aberdyfi, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Byw'n Iach yn edrych am Brentis Chwaraeon x6
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
**PWRPAS Y SWYDD **
Derbyn profiadau a chefnogaeth yn y gweithle i gwblhau prentisiaeth ac i ennill cymwysterau yn y maes Chwaraeon a Hamdden.
Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Disgrifiad:
**NODWEDDION PERSONOL **
**HANFODOL **
Dangos ymddygiad ac agwedd cywir
Bod yn deg a gallu trin pobl gyda pharch
I fod yn gwrtais ac yn bositif Dangos ymrwymiad i waith neu brosiect
I fod yn gyfrifol am wneud y dyletswyddau a chyfrifoldebau rôl prentis i’r lefel uchaf bosib
I gyflawni pob dyletswydd sy’n ofynnol Gweithio fel rhan o dîm
Gallu gweithio mewn tîm
I gyfrannu at gyfarfodydd tîm a chyfathrebu'n rheolaidd ac yn effeithiol gydag aelodau eraill y tîm Cyfathrebu gyda hyder
Y gallu i gyfathrebu gyda hyder yn y Gymraeg a’r Saesneg
Y gallu i ddangos y sgiliau cywir i allu cyfathrebu yn gywir ar gyfer unrhyw gynulleidfa Bod yn barod i ddysgu
I ymrwymo i’th ddatblygiad i gyflawni dy swydd a’r brentisiaeth
Adnabod anghenion datblygu personol yn barhaus a gweithredu arnyn nhw Deall beth sydd ei angen i weithio i’r Cyngor
Deall y sialensiau sydd yn ein wynebu fel Cyngor
Manteisio ar gyfleoedd i fod yn greadigol
Sicrhau dy fod yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr wyt yn ei wneud
**DYMUNOL ** **CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL **
**HANFODOL **
Wedi cymhwyso i lefel 2 o leiaf gan gyrraedd y gofynion isod: **Un ai **
4 TGAU gradd D neu uwch (gradd C neu uwch mewn mathemateg)
Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 cyfatebol (e.e. BTEC Cyntaf Lefel 2 Diploma) Er gwybodaeth, bydd unrhyw gyfuniad o gymwysterau gyda gradd gyfatebol yn dderbyniol. **ANGHENION IEITHYDDOL ** Gwrando ac siarad
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.
Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau. **Darllen a deall **
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.) Ysgrifennu
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Cyflog
💰 Gweler Pecyn Gwybodaeth
Lleoliad
📍 Amrywiol
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru yn edrych am Reolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae hwn yn gyfle unigryw i chwarae rhan allweddol yn natblygiad Academi Heddwch Cymru – Sefydliad Heddwch cyntaf Cymru – ac i weithio tuag at weledigaeth o Gymru fel Cenedl Heddwch. Bydd y Rheolwr Datblygu Prosiectau yn gyfrifol am reoli, cyflwyno a datblygu Academi Heddwch Cymru. Mae hyn yn cynnwys rheoli staff y prosiect, datblygu partneriaeth effeithiol rhwng holl randdeiliaid y prosiect, ac adrodd i’r cyllidwyr, Grŵp Llywio’r Academi Heddwch a Bwrdd Ymddiriedolwyr WCIA. Mae’r tîm staff yn cynnwys Cydlynydd (0.8) ac rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Arweinydd Rhwydwaith Ymchwil Academaidd (0.5).
Un o’r prosiectau sy’n cael eu cydlynu ar hyn o bryd gan Academi Heddwch yw Deiseb Heddwch Merched Cymru, sy’n dathlu canmlwyddiant y ddeiseb hon a lofnodwyd gan 390,296 o fenywod Cymru a’i hanfon i UDA yn apelio arnynt i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Rydym wedi gwneud cais am gyllid ar gyfer y Prosiect Deiseb Heddwch Merched a oedd yn cynnwys recriwtio Rheolwr Prosiect i reoli’r dasg o gyflawni’r rhaglen waith. Os byddwn yn llwyddiannus, yna bydd Rheolwr Datblygu Prosiect yr Academi Heddwch hefyd yn rheoli’r Rheolwr Prosiect Deiseb Heddwch Merched. Bydd y Rheolwr Datblygu Prosiect yn darparu gweithgareddau presennol yr Academi Heddwch ac, yn hollbwysig, yn sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau newydd sy’n cyd-fynd â dibenion yr Academi Heddwch ac yn eu rheoli. Byddant yn sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu darparu ar amser ac o fewn y gyllideb, a bod mecanweithiau monitro a gwerthuso priodol yn cael eu sefydlu a’u dilyn.
**Cyflogir gan: **Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA)
Cyflog: Yn cychwyn o £36,305
**Oriau: **37 awr y wythnos
Y dyddiad cau: 12.00pm, 22 Mawrth 2023 – dyddiad cau wedi ymestyn
Cyflog
💰 Yn cychwyn o £36,305
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Byw'n Iach yn edrych am Gymhorthydd Hamdden Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Paul Williams ar 01766 512711
Cynnal cyfweliadau 30/03/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU 23/03/2023.
Pwrpas y swydd
Hybu a chefnogi ffordd iach o fyw i’r sawl sy’n defnyddio’r Canolfannau Hamdden a’r gymuned ehangach.
Sicrhau bod y sawl sy’n ymweld â’r Ganolfan yn gallu ei ddefnyddio’n ddiogel, tra’n cynnig gofal cwsmer o safon uchel.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer.
•Paratoi offer a chyfleusterau trwy osod offer i fyny a’i dynnu i lawr fel bo angen.
•Cynnal a chadw rhestrai, glanhau a pharatoi cyfleusterau fel gall y cyhoedd eu mwynhau yn ddiogel.
•Trin arian a chynorthwyo gyda rhedeg system archebu’r Canolfan Hamdden.
Prif ddyletswyddau
•Cyflwyno rhaglenni o weithgareddau mewn dull ysgogiadol ac ysbrydoledig fel y cytunwyd gan y Rheolwr Ardal/Rheolwr ar Ddyletswydd.
•Cyflwyno rhaglen o weithgareddau nofio gan ddarparu cyfarwyddyd cymwys a diogel, sy’n defnyddio sgiliau sy’n cael eu cydnabod yn sefydledig gan y Gymdeithas Nofio Amatur, ynghyd a dilyn llwybr nofio Pasbort Dwr Cymru.
•Sicrhau fod y drefn anwytho yn y gampfa o safon uchel ac yn ysgogi cwsmeriaid i ddychwelyd i’r Ganolfan yn rheolaidd.
•Hybu pecynnau ffitrwydd y Ganolfan i’r cwsmeriaid ynghyd â throsi sgyrsiau cychwynnol gyda chwsmeriaid i mewn i werthiant.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid er mwyn adnabod eu hamcanion a’u dyheadau ynglŷn â dilyn ffordd iach o fyw.
•Cefnogi’r cwsmeriaid trwy nifer o ddulliau i’w ysgogi a’u hysbrydoli i fyw yn iach.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid a’r darpar gwsmeriaid er mwyn adnabod pa dechnegau marchnata sy’n fwyaf effeithiol i ddefnyddio.
•Ymgymryd â dyletswyddau’r dderbynfa fel bo’r angen.
•Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan hyrwyddo’r berthynas rhwng y Ganolfan a’r cwsmer ar bob achlysur.
•Sicrhau bod glendid y Ganolfan o safon uchel, yn ôl canllawiau’r Ganolfan.
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu goruchwylio’n ddiogel mewn ffordd gwrtais a boneddigaidd.
•Sicrhau ffyniant y Ganolfan drwy gynnig adborth a syniadau newydd ar sut i wella’r gwasanaeth.
•Ymgysylltu gyda’r cwsmeriaid hynny ar raglenni arbennig o fewn y Ganolfan, e.e. NERS, er mwyn sicrhau fod y llwybr dilyniant ar ôl gorffen y rhaglenni yn un esmwyth i’r cwsmer.
•Hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn y Ganolfan gan ddefnyddio’r iaith fel yr un cyntaf yn y gweithlu.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cwmni yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cwmni. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cwmni yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cwmni.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Cymrydrhan yn Rhaglen Hyfforddi’r Ganolfan pan fo angen a bod yn gyfrifol am ddiweddaru cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.
•Dylai deilydd y swydd fod yn hyblyg ynghylch patrwm/shifftiau gwaith.
•Bydd angen gweithio shifftiau yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar ben wythnosau.
•Telir lwfans ychwanegol pan yn darparu sesiynau ffitrwydd/nofio.
•Mae’r Gyfadran yn rhedeg rhaglen barhaus o hyfforddiant a datblygu medrau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso er mwyn cyfrannu tuag at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.
Nodweddion personol
Hanfodol
•Brwdfrydig
•Gallu i ysgogi eraill
•Meddyfryd i allu ‘gweld gwaith’, yn lle aros am gyfarwyddid
•Gofal cwsmer o safon uchel
•Gonestrwydd
•Barod i ddysgu a chadw meddwl agored
•Gallu i weithio o fewn tîm yn effeithiol
•Gallu i weithio’n annibynnol o dan oruchwyliaeth gyfyngedig
•Brwdfrydedd i eisiau cyfrannu i weithgareddau’r ganolfan, drwy gynnig dosbarthiadau ffitrwydd/gweithgareddau.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Safon gyffredinol dda o addysg.
Dymunol
•BTEC (neu gyfystyr) mewn Gwyddor Chwaraeon/Hamdden/Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
•Lefel 2 Hyfforddwr Gampfa, gyda modiwlau arbenigol, fel Sbin, Ymarfer Cylchol, Kettlebells
•Cymhwyster Achub Bywyd Pwll Cenedlaethol (canolfan gwlyb)
Dymunol
•Profiad blaenorol o weithio yn y maes hamdden/chwaraeon/iechyd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau rhifedd a llythrennedd o safon da
•Gwybodaeth eang o iechyd a ffitrwydd er mwyn gallu cyfathrebu hyn gyda chwsmeriaid
•Sgiliau cwsmer arbennig
•Sgiliau gwerthu da
•Sgiliau negodi da
•Gwybodaeth am Gyfweliadau Ysgogol
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Sylfaen
Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.
Ysgrifennu - Lefel Sylfaen
Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.
Cyflog
💰 £19,266 - £19,650
Lleoliad
📍 Porthmadog
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mantell Gwynedd yn edrych am Swyddog Grantiau a Monitro
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd Mantell Gwynedd yn gweinyddu Cronfa Sector Wirfoddol gwerth £1.5m sydd yn rhan o’r Gronfa Ffyniant Bro (Shared Prosperity Fund)
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig fydd yn gweithio fel Swyddog Grantiau a Monitro ar gyfer y Gronfa hon.
Dyma gyfle cyffrous i fod yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol ac unigolion ar draws Gwynedd.
Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar a hwyliog Mantell Gwynedd gyda chyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau yng Ngwynedd.
Disgrifiad:
Oriau : Swydd 3 diwrnod yr wythnos (21 awr)
**Lleoliad : **Hyblyg – mae gennym swyddfeydd yng Nghaernarfon a Dolgellau a gallwch weithio yn rhannol o adref hefyd. Rydym yn fodlon bod yn hyblyg iawn er mwyn cefnogi’r unigolyn cywir.
**Cyflog : **Graddfa Cenedlaethol NJC Pwynt 19 £27,852 (pro rata)
Cyfnod : 2 flynedd
Dyddiad cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 3ydd Ebrill 2023
Cyflog
💰 £27,852 pro rata
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Caerdydd yn edrych am Swyddog Cynlluniau Gofal Gwyliau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cydlynu Cynlluniau Gofal Menter Caerdydd yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol (pob gwyliau ysgol oni bai am y Nadolig).
Disgrifiad:
Cyfrifoldeb dros reoli holl drefniadau amserlennu, adnoddau, cyllid a staffio y Cynlluniau Gofal.
Cyflog
💰 £23,481 - £27,222 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwyydd Climate Cymru
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar ran Climate.Cymru yn edrych am Gynorthwyydd Climate Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Climate Cymru (https://climate.cymru/) yn fudiad o filoedd o unigolion, ac yn rhwydwaith o gannoedd o sefydliadau o bob sector yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd a natur yn gofyn am weithredu brys a theg. Rydym yn credu y dylai gweithredu gael ei lywio gan wyddoniaeth a lleisiau pobl ar draws Cymru.
Mae Climate Cymru yn canolbwyntio ar effaith, yn ddeinamig, ac yn gyfrwng pwerus dros newid yng nghymdeithas Cymru.
Rydym:
- Yn rhoi pwysau ar y rheini sydd â phŵer i wneud newidiadau pwysig.
- Yn ymgysylltu'n gynhyrchiol â Llywodraeth Cymru.
- Yn ysbrydoli a chysylltu ein rhwydwaith.
- Yn rhannu gwybodaeth a chyfleoedd pwysig gyda chymdeithas yng Nghymru.
- Yn dysgu gan leisiau o bob rhan o Gymru, ac yn gwneud yn siŵr bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed a'u cynrychioli.
Crynodeb o’r Rôl
Bydd y cynorthwyydd yn rhan ganolog o ystod eang o weithgareddau Climate Cymru, a bydd yn cefnogi rheolwr Climate Cymru i sicrhau newid gwirioneddol dros yr hinsawdd, natur a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau trefnu sylweddol a'r gallu i gyflawni agweddau gweinyddol Climate Cymru, gan gynnwys rheoli e-byst Climate Cymru.
Rhan greiddiol o'r rôl yw sicrhau bod Climate Cymru yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) yn ein holl gyfathrebu allanol yng Nghymru. Bydd y cynorthwyydd yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn helpu gyda chyfieithu'r holl allbwn dydd-i-ddydd.
Cyflog
💰 £23,059 pro rata
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Gydlynydd y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Eich gwaith...
Byddwch yn gyfrifol am gydlynu a gweithredu Polisi Iaith Gymraeg yr Amgueddfa yn unol â’r gofynion a osodir arnom gan Safonau’r Gymraeg, gan fynd tu hwnt i gydymffurfiaeth ble bynnag y bo modd. Byddwch hefyd yn rheoli gwaith cyfieithu (Cymraeg–Saesneg, a Saesneg–Cymraeg) yr Amgueddfa, yn cyfieithu ac yn cynghori ar gyfieithu i ieithoedd eraill yn ôl y galw.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 17 Mawrth erbyn 5pm
Dyddiad Cyfweliad: 29 Mawrth
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal.
Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £29,116 - £35,627
Lleoliad
📍 Caerdydd, Hybrid, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Cefnogi Cymunedau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas y swydd
•Cefnogi Rheolwyr Cyngor Gwynedd i adnabod cyfleoedd perthnasol i ymgysylltu a chydweithio gyda phartneriaid o fewn cymunedau’r sir.
•Cefnogi cymunedau i fanteisio ar gyfleoedd sydd yn codi yn cynnwys rhai sydd yn codi yn sgil Cynlluniau Strategol Cyngor Gwynedd.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Swyddog Cefnogi Cymunedau – GWASANAETH Economi a Chymuned
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Rhian Elin George ar 01286 882968.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau 30/03/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
**E-Bost: **swyddi@gwynedd.llyw.cymru **DYDDIAD CAU: **10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 23/03/2023. Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £30,151 - £32,020
Lleoliad
📍 Dolgellau
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Gynorthwyydd Personol a Gweinyddwr Cyffredinol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cefnogaeth cynorthwyydd personol i Ddeon y Coleg yn ogystal â chefnogaeth weinyddol gyffredinol ar gyfer gweithgareddau ledled y coleg.
Dylai ymgeiswyr feddu ar addysg hyd at 2 AS neu 1 Lefel A neu NVQ Lefel III (neu gyffelyb) a phrofiad o weithio mewn swydd weinyddol, ym maes addysg yn ddelfrydol. Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da yn hanfodol.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Ystyrir ceisiadau hefyd i wneud y swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
**Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: **20 Mawrth 2023.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Elin Jones AS yn edrych am Swyddog Etholaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti'n chwilio am swydd ddiddorol ac amrywiol, ble galli di wneud gwahaniaeth i fywyd pobol Ceredigion?
Mae Elin Jones AS yn chwilio am aelod o staff i ymuno â thîm gweithgar ei Swyddfa Etholaeth yng Ngheredigion. Bydd y swydd yn cynnwys siarad gydag etholwyr y sir, i'w helpu i ddatrys problemau a chyflawni prosiectau. Mae pob diwrnod yn amrywiol, a bydd cyfle i gwrdd â phobl o bob rhan o'r gymdeithas sydd angen cymorth a chefnogaeth.
Byddwn yn darparu hyfforddiant ar systemau a gwaith y swyddfa, ac rydym yn barod iawn i drafod gweithio'n hyblyg, rhannu swydd, a gweithio yn rhannol o gartref.
*Noder os gwelwch yn dda taw swydd tymor benodol 1 blwyddyn yw hon.
Disgrifiad: Prif rôl y Swyddog Etholaeth fydd gweithio'n agos gydag etholwyr Ceredigion i'w cynorthwyo gydag amrywiaeth o broblemau a phrosiectau. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost gyda phobol Ceredigion yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau a chyfleon.
Yn ogystal â chefnogi Elin yn ei swydd, bydd y Swyddog hefyd yn mynychu cyfarfodydd, yn ymchwilio ac yn ymateb i ymholiadau, gan weithio fel rhan allweddol o'r tîm.
Cyflog
💰 £27,450-£38,740
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn edrych am Swyddog Hwyluso’r Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Sefydlwyd ar 1 Hydref 2018, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r unig Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Rydym yn eistedd wrth ochr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o safon uchel i bobl Cymru.
Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
• Gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn diwallu anghenion y GIG a phobl Cymru, nawr ac yn y dyfodol;
• Bod yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am weithlu iechyd a Gofal Cymru;
• Comisiynu, dylunio a darparu addysg a hyfforddiant gwerth am arian o ansawdd uchel, yn unol â'r safonau;
• Defnyddio addysg, hyfforddiant a datblygiad i annog a hwyluso datblygiad gyrfaol;
• Cefnogi addysg, hyfforddiant a rheoleiddio gwasanaethau drwy chwarae rôl allweddol wrth gynrychioli Cymru, a gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr;
• Datblygu arweinwyr gofal iechyd heddiw a'r dyfodol;
• Darparu cyfleoedd i'r gweithlu iechyd a gofal ddatblygu sgiliau newydd;
• Hyrwyddo gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru, a Chymru fel lle i fyw ynddo;
• Cefnogi proffesiwn datblygu'r gweithlu a'r sefydliad proffesiynol gyda Chymru;
• Gwella'n barhaus yr hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud.
Am ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod ei cyfle am gyflogaeth gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost a gofrestrir ar y ffurflen gais.
Mae'r sefydliad hefyd yn cadw'r hawl i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw adeg o'r broses, er mwyn adleoli staff mewnol i rolau addas.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae rôl barhaol gyffrous, newydd wedi'i chreu o fewn AaGIC i ddarparu rhaglenni gafaelgar ac effeithiol i hyrwyddo a hwyluso defnyddio mwy o'r Gymraeg ar bob lefel o fewn ein gweithlu.
Mae AaGIC yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i helpu hybu'r Gymraeg ymysg cydweithwyr heddiwl - yn ogystal â gweithlu'r dyfodol.
Cyfle cyffrous dros ben i rywun sydd ar dân dros hybu’r Gymraeg! Mae cynnig gwasanaethau i gleifion yn iaith eu dewis yn arwain at ganlyniadau clinigol gwell. Faint o effaith gallwch chi ei gael o ran gwella gwasanaethau Cymraeg ar draws y GIG?
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o Gymru a'i hiaith, gan annog mwy o ddwyieithrwydd ymysg staff, ac yn chwarae rhan flaenllaw yn gwireddu gweledigaeth Mwy na Geiriau ar draws y GIG yng Nghymru.
I wneud cais, llenwch y ffurflen ar Swyddi'r GIG sy'n gfyn am gynnwys tystiolaeth i gefnogi'r ymddygiadau gofynnol a nodir ym manyleb y person.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cyflog
💰 £33,706 - £40,588
Lleoliad
📍 Nantgarw
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn edrych am Swyddog Cyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae tîm Marchnata effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i lwyddiant parhaus Grŵp Llandrillo Menai.
Mae gan y Swyddog Cyfathrebu rôl allweddol i'w chwarae yn y tîm drwy sicrhau bod y Grŵp yn cael sylw eang/cadarnhaol yn y wasg a’r cyfryngau, tra hefyd yn cefnogi'r adran gyda chynhyrchu cyhoeddiadau a hysbysebion a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ystod o sgiliau a gwybodaeth i'w alluogi i gyfrannu'n effeithiol i ddarparu gwasanaeth marchnata a chyfathrebu o'r radd flaenaf, yn fewnol ac yn allanol. Yn benodol, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ysgrifennu datganiadau o ansawdd uchel i'r wasg ar gyfer ffynonellau newyddion lleol a rhanbarthol, y wefan ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd naill ai wedi'i lleoli ar gampws y Grŵp ym Mangor neu Llandrillo-yn-Rhos, a bydd disgwyl ymweld â'r campysau eraill yn ôl yr angen.
Yn ogystal, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid, y tu mewn a'r tu allan i'r coleg, gyda chyflenwyr a gyda rhanddeiliaid eraill. Bydd hefyd yn cynorthwyo aelodau eraill y Gyfarwyddiaeth Farchnata a Chyfathrebu ac yn ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill ar gais Rheolwr y Tîm Marchnata a Chyfathrebu.
Cyflog
💰 £ 25,569 - £27,747
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Archwilwyr Arweiniol Ariannol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Archwilio Cymru am recriwtio Archwilwyr Arweiniol Ariannol parhaol, gyda swyddi gwag cyfredol wedi'u lleoli o fewn ein tîm Gogledd Cymru.
Ydych chi ar hyn o bryd yn gweithio mewn tîm cyllid ond yn chwilio am her newydd neu'n gweithio o fewn archwilio ond hoffech gael her sector newydd?
Os ydych, yna efallai mai ein swydd Archwilydd Arweiniol Ariannol yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Rydym yn chwilio am bobl sy’n gryf iawn eu cymhelliant i fod yn rhan o’n timau egnïol a chydnerth.
Yn bennaf byddwch yn arwain timau wrth ddarparu gwaith archwilio ariannol mewn nifer o gyrff sector cyhoeddus. Efallai y cewch gyfle hefyd i ategu ein gwaith archwilio gwerth am arian a bod yn rhan o ddarparu prosiectau corfforaethol.
Ydych chi'n gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad o oruchwylio a hyfforddi staff? Mae profiad o'r sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol, ond byddwch yn chwaraewr tîm ymroddedig, yn awyddus i wella canlyniadau i ddinasyddion Cymru. Byddwch yn hyderus wrth gynnal perchnogaeth o'ch gwaith eich hun a byddwch yn dod â'ch profiad archwilio cyfrifyddu drwy eich achrediad CCAB.
Mae bod yn WYCH wrth wraidd popeth a wnawn. Mae angen arnom rywun sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus drwy ddoethineb gadarn a sgiliau dadansoddol a chyfathrebu rhagorol.
Pwy yw Archwilio Cymru?
Archwilio Cymru yw'r corff archwilio sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein swyddogaeth yw:
Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.
Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arfer gorau.
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o ategol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.
Rydyn ni'n hyblyg – yn gweithio'n gallach; wrth ddarparu dewisiadau o sut, pryd a lle mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi wrth wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg wrth eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu'n rheoli anableddau.
Mae gennym delerau rhagorol – rydym wir yn poeni am ein pobl ac am ddarparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith trwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (unigryw o wyliau banc cyhoeddus), gallwch hefyd brynu, gwerthu, a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi gwyliau estynedig.
Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl – Rydym yn hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anffurfiol. Mae ein cynllun mentora a hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau Dysgu LinkedIn yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddynt.
Mae gennym Fuddion Rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.
Rydym yn Falch o gael ein Hachredu - Rydym yn gyflogwr teuluoedd sy'n gweithio a Newid 100 balch ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Sut beth yw gweithio mewn Gwasanaethau Archwilio?
Fel Archwilydd Arweiniol Ariannol, byddwch yn gweithio o fewn Gwasanaethau Archwilio. Mae Gwasanaethau Archwilio yn cyflwyno archwiliad ariannol ac archwiliad perfformiad. Mae rôl yr Uwch Archwilydd yn cefnogi cyflwyno archwiliadau ariannol cleientiaid y sector cyhoeddus. Mae ein timau wedi cael eu rhannu'n ddaearyddol ar draws Cymru, Gogledd, Gorllewin a De. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus bortffolio o gleientiaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys llywodraeth ganolog, llywodraeth leol, a'r GIG. Er y byddai profiad yn y sectorau hyn yn fantais, nid yw'n hanfodol a darperir cefnogaeth lawn a hyfforddiant. Mae Arweinwyr Archwilio Ariannol yn rhan o'r tîm rheoli ac yn chwarae rhan allweddol o fewn y tîm archwilio. Er y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus gael sgiliau technegol ardderchog i gyflawni a chefnogi archwiliadau cymhleth, byddant hefyd yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi mwy o aelodau'r tîm iau; y rhan fwyaf o bwy fydd yn gwneud hyfforddiant gyda naill ai ICAEW neu AAT.
Er ein bod yn gweithredu model gweithio hybrid, mae disgwyl i Uwch Archwilwyr fod ar y safle gyda'u timau am o leiaf ddeuddydd yr wythnos.
Canfuwch fwy
Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Clare James neu Mike Whitely ar 029 2032 0500.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 20 Mawrth 2023. Mae Archwilio Cymru yn cadw’r hawl i gau’r hysbyseb hon yn gynnar pe bai’n cael ceisiadau digonol.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV cyfredol ynghyd â llythyr esboniadol o ddim mwy na 1000 o eiriau yn nodi pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.. Yn dilyn rhagdybiaeth o’ch cais ar-lein bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy’n cynnwys cyfweliad panel ac asesiad ysgrifenedig. Caiff yr holl asesiadau a'r cyfweliadau eu cwblhau'n bersonol yn un o’n swyddfeydd Gogledd Cymru yn Abergele neu Gaernarfon.
Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso’r botwm parhau ar ôl cyflwyno’ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi’i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â’n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru
Sylwer, nid ydym yn gallu noddi fisas gwaith, os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ni ar AdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru
Cyflog
💰 £51,675 - £59,979
Lleoliad
📍 Cymru, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Uwch Archwilwyr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Archwilio Cymru am recriwtio swyddi gwag parhaol a thymor penodol Uwch Archwilwyr i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Archwilio gyda swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd yn ein tîm Gogledd Cymru.
Ydych chi ar hyn o bryd yn gweithio mewn tîm cyllid ond yn chwilio am her newydd neu'n gweithio o fewn archwilio ond hoffech gael her sector newydd?
Ie? yna efallai mai ein rôl Uwch Archwilydd yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Byddwch yn gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad naill ai mewn archwilio neu o fewn lleoliad cyfrifyddu. Mae profiad o'r sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol, ond byddwch yn chwaraewr tîm ymroddedig, yn awyddus i wella canlyniadau i ddinasyddion Cymru.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n gryf iawn eu cymhelliant i fod yn rhan o’n timau egnïol a chydnerth. Byddwch yn hyderus wrth gynnal perchnogaeth o'ch gwaith eich hun a byddwch yn dod â'ch profiad archwilio cyfrifyddu drwy eich achrediad CCAB.
Mae bod yn WYCH wrth wraidd popeth a wnawn, rydym yn chwilio am rywun sydd ag angerdd am wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus drwy eich dyfarniad cadarn, dadansoddol. a sgiliau cyfathrebu rhagorol. Pwy yw Archwilio Cymru
Archwilio Cymru yw'r corff archwilio sector cyhoeddus annibynnol yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein swyddogaeth yw:
Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda drwy ein harchwiliad blynyddol o gyfrifon y sector cyhoeddus.
Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl drwy ein hastudiaethau Gwerth am Arian.
Ysbrydoli a grymuso'r rhai rydym yn gweithio gyda nhw i wella'n barhaus drwy rannu mentrau ac arfer gorau.
Gweithio i ni
Mae Archwilio Cymru yn lle deinamig a chyfeillgar i weithio, gyda diwylliant anhygoel o ategol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.
Rydyn ni'n hyblyg – yn gweithio'n gallach; wrth ddarparu dewisiadau o sut, pryd a lle mae unigolion a thimau yn cyflawni eu gwaith – rydym yn ymddiried ynoch chi wrth wneud y dewis cywir i gyflawni'r dasg wrth eich cefnogi yn eich amgylchiadau unigol, boed hynny'n gyfrifoldebau gofalu neu'n rheoli anableddau.
Mae gennym delerau rhagorol – rydym wir yn poeni am ein pobl ac am ddarparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith trwy ein hwythnos waith 35 awr, a'n 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (unigryw o wyliau banc cyhoeddus), gallwch hefyd brynu, gwerthu, a rhoi gwyliau yn y 'banc' i alluogi gwyliau estynedig.
Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl – Rydym yn hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol ac yn buddsoddi yn ein pobl i gyflawni eu dyheadau gyrfa i fod y gorau y gallant fod. Rydym yn cynnig pecyn hyfforddi hael sy'n cael ei ategu gan ddull cyfunol o ddysgu strwythuredig ac anffurfiol. Mae ein cynllun mentora a hyfforddi llwyddiannus i'n trwyddedau Dysgu LinkedIn yn rhoi cyfle i staff ddysgu ar adegau ac mewn ffyrdd sy'n addas iddynt.
Mae gennym Fuddion Rhagorol - Ochr yn ochr â'n pecyn cyflog hael, rydym yn cynnig cyfle i bob cyflogai ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwr gorau. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.
Rydym yn Falch o gael ein Hachredu - Rydym yn gyflogwr teuluoedd sy'n gweithio a Newid 100 balch ac rydym wedi ennill achrediad Cyflog Byw.
Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Sut beth yw gweithio mewn Gwasanaethau Archwilio?
Fel Uwch Archwilydd, byddwch yn gweithio o fewn Gwasanaethau Archwilio. Mae Gwasanaethau Archwilio yn cyflwyno archwiliad ariannol ac archwiliad perfformiad. Mae rôl yr Uwch Archwilydd yn cefnogi cyflwyno archwiliadau ariannol cleientiaid y sector cyhoeddus. Mae ein timau wedi cael eu rhannu'n ddaearyddol ar draws Cymru, Gogledd, Gorllewin a De.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus bortffolio o gleientiaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus, sy'n cynnwys llywodraeth ganolog, llywodraeth leol, a'r GIG. Er y byddai profiad yn y sectorau hyn yn fantais, nid yw'n hanfodol a darperir cefnogaeth lawn a hyfforddiant. Uwch Archwilwyr sy'n gyfrifol am gefnogi Archwilydd Arweiniol Ariannol ar archwiliadau mwy cymhleth ac mae ganddynt brif gyfrifol am ddarparu cleientiaid llai. Maen nhw hefyd yn cefnogi goruchwylio staff iau.
Er ein bod yn gweithredu model gweithio hybrid, mae disgwyl i Uwch Archwilwyr fod ar y safle gyda'u timau am o leiaf ddeuddydd yr wythnos.
Canfuwch fwy
Gallwch ganfod mwy am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd yn y swydd ddisgrifiad. Am drafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Clare James ar 029 2032 0500.
I wneud cais, ewch i'n gwefan a darparwch y canlynol:
• CV cyfredol
• Llythyr eglurhaol yn nodi pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd (terfyn geiriau: 1,000 o eiriau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 20 Mawrth 2023. Mae Archwilio Cymru yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hon yn gynnar pe bai'n cael ceisiadau digonol.
Sylwch, bydd proses ddethol dau gam ar gyfer y swydd hon. Yn dilyn rhagdybiaeth o'ch cais ar-lein bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn asesiad sy'n cynnwys cyfweliad panel ac asesiad ysgrifenedig. Caiff yr holl asesiadau a chyfweliadau eu cynnal yn bersonol yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd neu ar-lein.
Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru
Cyflog
💰 £42,729- £49,600
Lleoliad
📍 Cymru, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Gyfieithydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am gyfieithydd Cymraeg i ymuno â'n Tîm Cyfieithu Corfforaethol arobryn ar gontract am gyfnod penodol o 12 mis.
Fel rhan o dîm egnïol ac ymatebol, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod ein cyfathrebiadau â'r cyfryngau, yn fewnol a rhai digidol yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda thîm cefnogol a chyfeillgar ac rydym yn croesawu ceisiadau gan gyfieithwyr profiadol yn ogystal â myfyrwyr sydd newydd raddio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel rhan o'r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol, byddwch yn darparu gwasanaeth cyfieithu er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i roi'r egwyddor ar waith y bydd yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn unol â Deddf y Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Chynllun Iaith Gymraeg y sefydliad.
Mae'r swydd hon am gyfnod penodol o 12 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae'n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Amdanom ni
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o'r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â'n Gwerthoedd Sefydliadol a'n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy'r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gallu gweithio'n effeithiol i ymateb i anghenion y gwasanaeth o fewn tîm cefnogol a chyfeillgar. Byddem yn croesawu ceisiadau gan gyfieithwyr profiadol yn ogystal â myfyrwyr sydd newydd raddio.
Disgrifiad swydd
Cyfrifoldebau swydd
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb Person
Cymwysterau
Hanfodol
- Gradd perthnasol neu brofiad cyfwerth
Profiad
Hanfodol
- Profiad o reoli llwyth gwaith a blaenoriaethu
Archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (Gorchymyn Eithriadau) 1975 ac o'r herwydd bydd angen gwneud cais i gael Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a elwid yn flaenorol yn CRB) i archwilio unrhyw gollfarnau troseddol blaenorol.
Tystysgrif Nawdd Haen 2
Croesewir ceisiadau gan geiswyr gwaith sydd angen nawdd Haen 2/gweithiwr crefftus cyfredol i weithio yn y DU a byddant yn cael eu hystyried ochr yn ochr â phob cais eraill. I gael gwybodaeth bellach ewch i wefan Fisâu a Mewnfudo y DU (Yn agor mewn tab newydd).
O 6 Ebrill 2017, bu rhaid i ymgeiswyr Haen 2/gweithwyr crefftus, sy'n gwneud cais am gliriad mynediad i'r DU, gyflwyno tystysgrif cofnodion troseddol o bob gwlad maent wedi preswylio ynddynt yn barhaus neu'n gronnol am 12 mis neu fwy yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae dibynyddion sy'n oedolion (dros 18 mlwydd oed) hefyd yn ddarostyngedig i'r gofyniadhwn.
Cyflog
💰 £27,055 - £32,934
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Athro/Athrawes (Mathemateg)
E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion
Mae E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Athro/Athrawes (Mathemateg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, yncynnig gwersi trwy e-ddysgu i ddisgyblion ôl-14 na fyddai argael heb y ddarpariaeth arloesol hwn. Ein bwriad yw iehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael fel bod dewis eang o gymwysterau 14-19 ar gael i’n pobl ifanc, a hefyd i hybu a chefnogi’r ddarpariaeth hwn ar draws Cymru.
Mae e-sgol yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ddysgu Mathemateg Lefel A i grŵp o ddisgyblion o glwstwr o ysgolion, i ddechrau ar 1af o Fedi, 2023. Croesawir ceisiadau gan athrawon profiadol ynghyd ag athrawon newydd gymhwyso.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• angerddol dros ddysgu Mathemateg
• addysgwr rhagorol
• ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eupotensial
• yn meddu ar brofiad o addysgu Mathemateg Lefel A
• yn meddu ar brofiad o addysgu Mathemateg Pellach Lefel A
Bydd y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol i’rswydd yma.
Bydd y mwyafrif o’r addysgu yn cael ei wneud trwy Teams gan y bydd disgyblion yn mynychu mwy nag un safle. Golygir hyn nad oes rhaid i’r athro/athrawes fod yn byw ynlleol ond bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i deithioi’r ysgolion hynny’n achlysurol.
Am sgwrs anffurfiol neu am ragor o wybodaeth, mae croeso ichi gysylltu gyda’r Pennaeth, Llifon Ellis ar llifon.ellis@e-sgol.cymru
**Dyddiad cyfweliad: **21.03.23
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn, ewch i'ngwefan gyrfaoedd.
Cyflog
💰 £28,866 - £44,450 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Arweinydd Prosiect – Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau
Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Arweinydd Prosiect – Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru'n cydweithio ar brosiect pwysig i wella ansawdd dysgu creadigol yn ysgolion Cymru. Pennwyd rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch yn Dysgu Creadigol trwy'r Celfyddydau – cynllun gweithredu i Gymru.
Pennodd y Cynllun strategaeth weithredu ar y cyd sydd wedi galluogi Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru i gydweithio i roi argymhellion adroddiad yr adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg (Smith 2013) ar waith. Mae'r cynllun wedi gweithredu'n effeithiol dros yr 8 mlynedd rhwng 2015 a 2023 ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru hyd at 2025.
Am Arweinwyr Prosiect
Mae yna 6 Arweinydd Prosiect (gan gynnwys y swydd wag hon) a rhyngddynt maent yn cwmpasu amrediad y dyletswyddau a ddisgrifir yn y disgrifiad swydd. Maent yn gynorthwyo Rheolwr y Rhaglen wrth ddatblygu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r rhaglen Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau, a’i chyflwyniad llwyddiannus. I gael disgrifiad llawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd.
Amdanoch chi
Bydd gennych chi angerdd dros y celfyddydau ac addysg a’r weledigaeth i reoli a gweithredu mentrau sy’n datblygu cynllun dysgu’r Celfyddydau a Chreadigol. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n dda a chydweithwyr â rhanddeiliaid a gweithio mewn perthynas â’r bydd Addysg, byd y Celfyddydau a/neu dysgu creadigol. Yn ddelfrydol, bydd gennych hefyd wybodaeth gadarn am dechnegau rheoli prosiect a dulliau sicrhau ansawdd.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar ffurf Word. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat gwahanol e.e. nodyn fideo neu lais, cysylltwch â ni yn gyntaf.
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith.
Dyddiad cau: 12yp, 23 Mawrth 2023
Cyfweliadau (dros fideo): 6 Ebrill 2023
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn.
Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.
Cyflog
💰 £40,561 pro rata
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter a Busnes yn edrych am Ddadansoddwr Data (1 FTE)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r sector amaeth trwy Gymru gyfan. Ei brif ffocws yw i gynorthwyo ffermwyr i baratoi tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan annog y sector i addasu ac i barhau i fod yn gystadleuol tra’n symud tuag at economi carbon isel. Nod
I ddarparu gwybodaeth ansoddol a meintiol i Bennaeth y Canolfan Wasanaeth a'r Cleient yn ôl yr angen. Arwain ar yr arolygon dadansoddi effaith yn ogystal ag ymchwil wedi'i dargedu at rhai nad ydynt yn cymryd rhan yn y rhaglen ar rhai nad ydynt wedi ymuno ar raglen. Prif Gyfrifoldebau
· Cyflawni’r arolwg dadansoddi effaith blynyddol a fydd yn cynnwys;
• Cysylltu â’r arbenigwyr allanol i ddatblygu’r holiadur
• Cyflwyno’r holiaduron
• Casglu data yn barod i’w ddadansoddi
• Dadansoddi data
• Cynhyrchu adroddiad ar y canfyddiadau
· Sicrhau fod terfynau amser a chwestiynau'r holiaduron yn addas ac o ansawdd
· Ymateb i anghenion data gan Reolwyr a Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen a chynhyrchu adroddiadau ad-hoc
· Gweithio gyda’r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth er mwyn darganfod pam nad yw rhai ffermwyr yn ymgysylltu gyda’r prosiect a chynhyrchu adroddiad blynyddol ar y canfyddiadau
· Monitro siwrnai cleientiaid trwy ein gwasanaethau ac adnabod unrhyw dueddiadau
· Dadansoddi data gwerthuso a chreu adroddiadau fel yr angen
· Cynrychioli’r prosiect mewn cyfarfodydd
· Gwirio safonau rheoli ansawdd y prosiect Arall
· Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog i gwsmeriaid allanol a thîm mewnol Cyswllt Ffermio, gan ymateb i ymholiadau yn llawn gwybodaeth, yn gywir ac yn amserol (dros y ffôn, e-byst a dulliau eraill i gysylltu â’r tîm)
· Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch
· Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill fel y bo’n ofynnol
· Cynrychioli Menter a Busnes fel y bo’n ofynnol Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
· Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth mewn mathemateg, economeg / busnes, ymchwil ystadegol neu bwnc perthnasol. Neu brofiad yn y maes
· Profiad dangosadwy o gwblhau prosiectau ymchwil gan ddefnyddio ffynonellau data amrywiol
· Sgiliau mathemategol cryf a’r gallu i ddatblygu datrysiadau creadigol
· Sgiliau cynhwysfawr o ran ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ddata ansoddol a meintiol a’r gallu i gyfleu gwybodaeth yn gywir ac yn gadarn, gan gynnwys cyfathrebu gwybodaeth dechnegol i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol mewn modd clir a chryno
· Sgiliau dehongli a dadansoddi cryf, a’r gallu i drin a gwerthuso setiau data eang i gynhyrchu gwybodaeth reoli sy’n gywir ac o ansawdd uchel
· Person hunan ysgogol a hyblyg, sy’n gallu rheoli sawl tasg ar yr un pryd, a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
· Gallu gweithio’n annibynnol mewn modd strwythuredig a dadansoddol, yn ogystal â fel rhan o dîm
· Sgiliau cyflwyno a rhyngbersonol clir
· Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol
· Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)
· Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys - Windows; Meddalwedd cynhyrchiant (e-bost, prosesu geiriau, taenlenni, ffeilio data); Defnydd diogel o gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd (chwilio a phori'r we, defnyddio gwefannau a chymwysiadau ar-lein)
· Os yn gweithio o adref am unrhyw adeg, bydd gofyn bod gennych gysylltiad rhyngrwyd addas yn barod Dymunol
· Dealltwriaeth a/neu brofiad mewn maes sy’n gysylltiedig â’r sector amaeth
· Profiad o reoli prosiect Gwneud Cais
Gellir gwneud ceisiadau am y swydd hon drwy lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan: www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at swyddi@menterabusnes.co.uk Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Rhian Jones ar 01970 600 181 neu rhian.jones@menterabusnes.co.uk Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10.00yb, dydd Llun, 13 Mawrth 2023 Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar wythnos cychwyn 20 Mawrth 2023. Os yw’r dyddiad yn anghyfleous, nodwch hynny ar eich ffurflen gais.
Cyflog
💰 £27,433 - £32,980
Lleoliad
📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!