Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd

💰 £33 - £29k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ysgol Deintyddiaeth, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Swyddog Recriwtio ac Ehangu Mynediad y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i siaradwr Cymraeg rhugl ymuno â Thîm Addysg yr Ysgol Deintyddiaeth. Bydd yn cefnogi’r Ysgol i weithredu a gwerthuso rhaglen waith sydd â’r nod o gynyddu ceisiadau i’r rhaglenni israddedig gan ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith, a chynyddu nifer ac amrywiaeth y cyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni eu hyfforddiant meddygol israddedig mewn sefydliad cyfrwng Cymraeg.

Wedi ei hariannu gan y Coleg Cymraeg, bydd y swydd cyfnod penodol o dair blynedd hon ar gael ar sail ran-amser (21 awr yr wythnos). Mae’r Ysgol yn hyblyg o ran y patrwm gwaith.

Rydym yn chwilio am gyfathrebwr rhagorol sy’n gallu cyflwyno gwybodaeth fanwl a chymhleth yn ddwyieithog mewn modd effeithiol, proffesiynol a deniadol i ystod eang o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a brwdfrydig gyda chofnod diamheuol o gyflwyno portffolio o weithgareddau marchnata a chyfathrebu, a gallu gweithredol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant a datblygiad.

Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol ynghylch y rôl at Reolwr yr Ysgol, Riah-Jayne Jones JonesRJ10@Caerdydd.ac.uk

Dyddiad Cau: Dydd Sul, 29 Ionawr 2023.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i gefnogi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan greu awyrgylch cynhwysol i’w gweithwyr. Rydyn ni o’r farn bod modd gwneud hynny trwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o sawl cefndir gwahanol a hoffai greu prifysgol sy’n ceisio cyflawni ei dyletswydd gymdeithasol, diwylliannol ac economaidd dros Gaerdydd, Cymru a’r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Cyflog

💰 £28,762 - £33,31

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

💰 £23k 📍 Aberystwyth Ar gau

Gwasg Prifysgol Cymru

💰 Hyd at £34k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £27k - £33k pro rata 📍 I'w drafod📍 O gartref Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 O £24k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

GwE

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

GwE

💰 £28k - £30k 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £33k 📍 Wrecsam Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £5k 📍 Wrecsam Ar gau

Ysgol Dyffryn Aeron

💰 £52k - £61k 📍 Aberaeron Ar gau

ColegauCymru

💰 £26k - £29k pro rata 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Coleg Gwent

💰 £30k - £33k 📍 Caerffili Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37k - £43k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £28.72 - £31.48 yr awr 📍 Abertawe📍 Castell-nedd Port Talbot +1 Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £31k - £35k 📍 Abertawe Ar gau

Prifysgol Abertawe

💰 £31k 📍 Abertawe📍 Ar-lein +1 Ar gau

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 £33k 📍 Caerfyrddin📍 Hyblyg +1 Ar gau

Amgueddfa Lechi Cymru

💰 £20k - £24k 📍 Caernarfon Ar gau

Golwg Cyf.

💰 I'w drafod 📍 I'w drafod Ar gau

Portal

💰 £27k - £32k 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £22k - £24k pro rata 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £26k - £29k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30k - £34k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau