Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol

Mudiad Meithrin

💰 £25k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin gyda ffocws arbennig ar greu cynnwys a datblygu platfformau cyfryngau cymdeithasol y Mudiad.

Bydd y person mewn golwg yn cefnogi'r gwaith o gynllunio, creu a chyflwyno cynnwys deniadol ar draws ein platfformau digidol. Mae'r rôl hon yn ddelfrydol i rywun sydd am ddatblygu gyrfa ym maes marchnata ac ennill profiad ymarferol o reoli cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, marchnata digidol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.

Gweler y swydd ddisgrifiad am ragor o wybodaeth am y swydd.

Lleoliad: Aberystwyth, Ceredigion

Mae croeso i chi gysylltu a Medi Jones-Jackson, Rheolwr Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau i drefnu sgwrs anffurfiol am y swydd – medi@meithrin.cymru

Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.

Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru

Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.

Cyflog

💰 MM15–MM20 £25,175 - £28,531

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Amgueddfa Cymru

💰 £53k - £63k 📍 Llanberis Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £43k - £52k pro rata 📍 Abertawe Ar gau

Menter Iaith Conwy

💰 £29k 📍 Llanrwst Ar gau

Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys

💰 £21k 📍 Y Drenewydd📍 Llandrindod Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Ysgol Glan Clwyd

📍 Llanelwy Ar gau

Antur Cymru

💰 £28k 📍 Castellnewydd Emlyn Ar gau

Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

💰 £30k - £35k 📍 Gwynedd Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £20k 📍 Bangor Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £31k - £38k 📍 Caerdydd📍 Caernarfon +2 Ar gau

Telesgop

📍 Abertawe Ar gau

British Council Cymru

💰 £750/mis 📍 Patagonia Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £49k - £55k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau