Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Athro/Athrawes Cyflenwi

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion Ar gau

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Athro/Athrawes Cyflenwi

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig darpariaeth addysgol o’r safon uchaf ac felly rydyn ni’n chwilio am athrawon ysgogol ac effeithiol i ychwanegu at ein cofrestr gyflenwi ganolog.

Cydnabyddir bod athrawon cyflenwi yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau parhad addysgu a dysgu effeithiol yn ystod absenoldeb staff. Gall gwaith cyflenwi ddarparu cyfle gwych i athrawon sy’n dymuno mwy o hyblygrwydd neu sydd newydd gymhwyso ac am ennill profiad ymarferol.

Rydym yn chwilio am athrawon sy’n:

gallu ennyn diddordeb plant gyda gwersi ysgogol

cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ac yn effeithiol wrth gynyddu cyraeddiadau

defnyddio strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol ac effeithiol

meddu ar wybodaeth gwricwlaidd a phwnc rhagorol

gallu dangos hyblygrwydd a’r gallu i addasu i wahanol anghenion a gwerthoedd ein hysgolion

dangos ymrwymiad cryf i’w datblygiad proffesiynol eu hunain

Cefnogir hyn trwy ein ethos cyffredinol a phob un o’n hysgolion, ac felly, rhaid i bob aelod staff sydd yn gweithio mewn ysgol gwblhau fodiwl e-ddysgu Diogelu Plant Lefel 1 ynghyd â bod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Davies ar Daniel.Davies@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Cyflog

💰 £33,731 - £51,942 y flwyddyn

Lleoliad

📍 Ceredigion

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

Ar gau

Cymwysterau Cymru

Ar gau

UCAC

Ar gau

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ar gau

Partneriaeth Ogwen

Ar gau

Archwilio Cymru

💰 £32k - £38k Ar gau

Menter a Busnes

Ar gau

Mudiad Meithrin

Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ar gau