Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Prif Weithredwr

Tribiwnlys Prisio Cymru

💰 £69k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn edrych am Brif Weithredwr

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn chwilio am arweinydd talentog i weithredu fel ei Brif Weithredwr nesaf.

Disgrifiad:

Rhaid i’r sawl a benodir medru rheoli'r hyn sydd yn ein hanfod yn fusnes bach sy’n cynnwys 16 aelod o staff, 75 aelod tribiwnlys a chyllideb flynyddol o £1.1m. Rhaid iddynt fedru gwneud hyn yng nghyd-destun y sector cyhoeddus, gyda’r holl graffu ac atebolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny. 

Mae tact a diplomyddiaeth, doethineb a dawn, treiddgarwch a gweledigaeth oll yn rhinweddau hanfodol. Mae gwybodaeth drwyadl am ardrethu annomestig a’r dreth gyngor yn ddymunol iawn hefyd gan mai’r Prif Weithredwr, yn ôl y gyfraith, yw Clerc y Tribiwnlys - er nad yw ymdrin â’r materion hynny yn weithgaredd o ddydd i ddydd. Byddai sgiliau cyfreithiol trosglwyddadwy o feysydd eraill y gyfraith yn dderbyniol. Yn ddelfrydol bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl; ond os nad yw bydd rhaid dangos ymrwymiad brwdfrydig i ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio ym mywyd a busnes dyddiol Tribiwnlys Prisio Cymru. 

Bydd y broses benodi yn cynnwys o leiaf un diwrnod asesu, a ddilynir gan gyfweliad ffurfiol ar ddiwrnod arall gerbron Cyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru Bydd y swydd yn dechrau yng ngwanwyn 2023, yn dilyn ymddeoliad ein Prif Weithredwr presennol, Andrew Shipsides.

Cewch ragor o fanylion a ffurflen gais ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru: www.tribiwnlysprisio.cymru. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 6 Ionawr 2023.

Cyflog

💰 hyd at £69,496

Lleoliad

📍 Casnewydd, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

RSPB Cymru

💰 £52k - £58k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter a Busnes

💰 £34k - £36k 📍 Meifod📍 O gartref Ar gau

Menter Môn

💰 £61k - £69k pro rata 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Môn

💰 £42k - £54k 📍 Hyblyg Ar gau

Menter Môn

💰 £42k - £54k 📍 Llangefni Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £36k 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £23k - £25k 📍 Caernarfon Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £29k - £33k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28k - £31k 📍 Blaenau Ffestiniog📍 Llangefni +2 Ar gau

Grŵp Cynefin

💰 £28k - £31k 📍 O gartref📍 Pwllheli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £23k - £24k 📍 Campws Nantgarw Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £19k - £20k pro rata 📍 Bangor Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 £27k - £33k 📍 Hybrid Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £22k pro rata 📍 Un o swyddfeydd Mudiad Meithrin📍 Hyblyg Ar gau

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £24k 📍 Casnewydd📍 Hybrid Ar gau

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £37k 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Portal

💰 £27k - £30k 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

Portal

💰 £26k - £27k+ 📍 O gartref📍 Allan yn y maes Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £22k 📍 Beddgelert Ar gau

Antur Waunfawr

💰 £50k - £55k 📍 Waunfawr📍 Caernarfon Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 O gartref📍 Wrecsam Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Llangefni Ar gau