Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Darlithydd Cyflogadwyedd Cymraeg

Prifysgol De Cymru

💰 £36k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Prifysgol De Cymru yn edrych am Ddarlithydd Cyflogadwyedd Cymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Prifysgol De Cymru yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig, trefnus ac egnïol i ymuno â'r tîm Cynllun Cyflogadwyedd. Fel un o'r darparwyr addysg uwch mwyaf yng Nghymru, mae'r Brifysgol yn lleoliad delfrydol i unigolion ddatblygu eu gyrfaoedd, meithrin eu talent a gwneud gwahaniaeth.

Wedi’ch lleoli yng nghyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol ar ein campws yng Nghaerdydd byddwch hefyd yn gweithio ar draws pob campws er mwyn darparu’r modiwl cyflogadwyedd Cymraeg i’n myfyrwyr. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch chi’n chwarae rhan weithredol wrth gyfrannu at gynllunio, dylunio a datblygu’r ddarpariaeth o fewn y modiwl Cyflogadwyedd Cymraeg ac yn ehangach o fewn modiwlau priodol eraill ar draws y Brifysgol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r grŵp prosiect i ddatblygu’r ddarpariaeth cyflogadwyedd i’w lawn botensial er mwyn iddo gynnig profiadau dysgu proffesiynol a chyfoes i’n myfyrwyr.

Byddwch yn cynorthwyo i baratoi adnoddau dysgu ar-lein ac yn y dosbarth i ddatblygu sgiliau Cymraeg addas i’r gweithle. Bydd y rôl hon hefyd yn golygu cydweithio gydag adrannau corfforaethol y Brifysgol wrth gynllunio, datblygu, hyrwyddo a marchnata’r ddarpariaeth modiwl cyflogadwyedd Cymraeg.

Mae’r cytundeb tymor penodol ar gyfer cyfnod mamolaeth o hyd at 12 mis.

Ar hyn o bryd mae'r brifysgol yn gweithredu model hybrid o weithio. Fodd bynnag, byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar y campws am ran o'r wythnos.

Mae'r buddion sydd ar gael yn cynnwys 35 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau banc a diwrnodau cau, polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd a chynllun pensiwn hael.

Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Huw.Swayne@southwales.ac.uk

Cyflog

💰 £36,382

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £31k 📍 Swyddfa Dinbych Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £26k - £28k 📍 Aberystwyth Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £26k pro rata 📍 Gwersyll Llangrannog Ar gau

Meithrinfa Garth Olwg

💰 £12.71 yr awr 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Pont Pedr

💰 £12.77 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Llyn y Forwyn

💰 £12.71 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Rhiwbeina

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ

💰 £13.11 yr awr 📍 Blaenau Gwent Ar gau

Meithrinfa Garth Olwg

💰 £26k 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Pentrebach

💰 £12.71 yr awr 📍 Merthyr Tudful Ar gau

Cylch Meithrin Groes-Wen

💰 £16.50 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

Cylch Meithrin Groes-Wen

💰 £14.50 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

Cylch Meithrin Llansannan

💰 I'w drafod 📍 Conwy Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Dyffryn Aeron

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Cei Newydd

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Rhos Helyg

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Penrhyncoch

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £30k - £32k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £37k - £39k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Rhydypennau

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £51k - £62k 📍 Ceredigion Ar gau