Mae Llywodraeth Cymru yn edrych am Gomisiynydd y Gymraeg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n meddu ar y sgiliau a’r profiad perthnasol i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg. Mae swyddogaethau’r Comisiynydd yn cynnwysmonitro cydymffurfiaeth â safonau’r Gymraeg, cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg, ac ymchwilio i honiadau o ymyrraeth â rhyddid unigolion sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yng Nghymru.
Mae’r penodiad hwn yn un llawn amser ac mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 17 Mehefin 2022.
Cyflog
💰 £95,000
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Ymgysylltu a Datblygu – Gwaith cymdeithasol seiliedig ar gryfder ac ymarfer gofal cymdeithasol
Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Swyddog Ymgysylltu a Datblygu – Gwaith cymdeithasol seiliedig ar gryfder ac ymarfer gofal cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae gennym un swydd rheolwr a phedair swydd swyddog.
Bydd y rol yn cyfrannu’n uniongyrchol at y rhaglen gwaith canlynol sy’n berthnasol i’r sector gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol:
- Cefnogi datblygiad a lleoliad gweithwyr cymdeithasol a gwaith cymdeithasol proffesiynol, trwy weithio gydag ystod eang o asiantaethau partner a chydweithwyr.
Bydd gan yr ymgeiswyr delfrydol sgiliau rhyngbersonol hynod effeithiol, profiad cryf o arwain prosiectau, cefnogi a chynllunio, profiad o weithio gydag ystod o randdeiliaid a'r gallu i gasglu a dadansoddi adborth o'r sector i lywio'r maes rhaglen hwn.
Os hoffwch drafod y rôl yma, cysylltwch â Cathryn Thomas ar cathryn.thomas@gofalcymdeithasol.cymru.
Bydd cyfweliadau yn cael ei gynnal ar 10 Mehefin 2022.
Sut i ymgeisio I wneud cais am y swydd, llenwch ffurflen gais. Dylid anfon ffurflenni cais a chydraddoldeb wedi’u llenwi i TimAD@gofalcymdeithasol.cymru.
Cyflog
💰 £41,122 - £46,194
Lleoliad
📍 I'w gytuno
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mind Cymru yn edrych am Swyddog Ymgysylltu Digidol Amser i Newid Cymru
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Caerdydd, Cymru
£17,538 y flwyddyn (yn cynnwys lwfans pwysoliad Caerdydd)
Rhan amser 21 awr
Cyfnod penodol hyd at 31ain Mawrth 2025
Mae gennym nodau pwysig dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni'n mynd i frwydro dros iechyd meddwl mewn ffordd na wnaethom erioed o’r blaen. Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu. Wnewch chi ymuno â ni? Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Ymgysylltu Digidol profiadol a medrus i helpu i gyflawni pedwerydd cam y Rhaglen Amser i Newid Cymru. Gan weithio dan gyfarwyddyd Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth Amser i Newid Cymru a Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn:
- Cyflawni gweithgareddau ymgysylltu o ddydd i ddydd ar gyfer y rhaglen, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynulleidfaoedd targed newydd yn unol ag amcanion cyffredinol strategaeth a rhaglen Marchnata Amser i Newid Cymru.
- Cyfrannu at ymgyrch uchel ei phroffil o ansawdd uchel yng Nghymru o ran lleoli a negeseua, gan gynnwys ym maes cyfathrebu rhaglenni, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu.
- Gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth a’r Swyddog Cyfathrebu Marchnata i sicrhau dull gweithredu cwbl integredig ar gyfer cyfathrebu ar draws nifer o sianeli ar-lein ac all-lein.
- Gwella profiad defnyddwyr ac ymgysylltiad digidol â’r ymgyrch drwy’r wefan, asedau digidol creadigol, a chreu calendr cynnwys rheolaidd ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm ym Mind Cymru ac Adferiad, felly mae’r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith da yn hanfodol. Bydd angen i chi hefyd fod yn fodlon teithio o bryd i’w gilydd fel rhan o’ch swydd i fynychu cyfarfodydd oddi ar y safle.
Dyddiad Cau: 18eg Mai 2022
Mae Mind wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac mae ceisiadau yn cael eu hannog gan unigolion waeth beth yw eu hoed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Edrychwch ar y Disgrifiad o’r Swydd pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais oherwydd bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis i’r rhestr fer yn seiliedig ar i ba raddau maen nhw’n bodloni’r meini prawf.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cyflog
💰 £17,538
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Gyfarwyddwr Project
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfarwyddwr Project Amgueddfa Lechi Cymru
35 awr yr wythnos
Contract parhaol
Gradd H £52,997.57 - £63,385.61 (Cyflog i’w drafod ar gyfer ymgeisydd eithriadol)
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei benodi ar isafswm y raddfa gyflog hon fel arfer.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 20 Mai erbyn 5:00yh
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.
Cyflog
💰 £52,997.57 - £63,385.61
Lleoliad
📍 Llanberis
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Reolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rheolwr Rhagoriaith (cyfnod mamolaeth)
Abertawe am gyfran o’r wythnos waith (gyda theithio i leoliadau eraill yn ôl yr angen)
£43,434 - £51,799 pro rata y flwyddyn
AMDANOM NI
- Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd, sy’n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Rydym yn cynnig addysgu arloesol, offer a chyfarpar o’r radd flaenaf a chefnogaeth wych ar draws ystod eang o leoliadau a chyrsiau dysgu.
Cawson ein rhestru yn safle 13 am ansawdd y dysgu yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2022.
Dyma gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol gael cyfle i arwain ar brosiectau Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol sy’n perthyn yn benodol i frand Rhagoriaith. Swydd ar gytundeb blwyddyn fydd hon yn absenoldeb rheolwr presennol _Rhagoriaith _ar gyfnod mamolaeth ac ystyrir ceisiadau secondiad gan unigolion cymwys sy’n chwilio am brofiadau newydd a chyfleoedd uwch-sgilio.
- Y RÔL –
Bydd y sawl a apwyntir i’r swydd hon yn gyfrifol am y gwaith o reoli prosiectau iaith_ Rhagoriaith_. Mae hyn yn cynnwys rheoli cyrsiau iaith y Brifysgol a’r Cynllun Sabothol Cymraeg i Athrawon a gartrefir yn y Ganolfan. Mae’n gyfle gwych i unigolyn profiadol a brwdfrydig ennill profiad pellach o weithio oddi fewn i Ganolfan ragweithiol sy’n arbenigo mewn cynnig rhaglenni hyfforddiant iaith i’r sector addysg yng Nghymru.
-AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried fel Rheolwr Rhagoriaith, bydd angen y canlynol arnoch:
- profiad o reoli, gweithredu a monitro prosiectau
- adnabyddiaeth dda o’r sector addysg yng Nghymru
- profiad o gynllunio rhaglenni hyfforddiant gan gynnwys sgopio ac awduro cynnwys
- profiad o baratoi ac addysgu cyrsiau’n gyfunol yn ogystal ag wyneb-yn wyneb
- angerdd ac awydd i wneud gwahaniaeth wrth gyflwyno’r Gymraeg i amrywiol gynulleidfaoedd.
- BUDDION –
Hawl i wyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod cau’r Brifysgol
Mae ein gweithwyr yn cael mynediad at becyn tâl a buddion gwych i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Tâl ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig, rydym yn cynnig tâl cystadleuol
- Aelodaeth cynllun pensiwn o USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl ychwanegol
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill cymwysterau pellach
- Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles, gan gynnwys iechyd galwedigaethol a gwasanaethau cymorth cwnsela
- Gostyngiadau staff ar amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Sylwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, bydd eich cais yn cael ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig ac, yn benodol, eich Datganiad Ategol.
Dyddiad cau: 20 Mai, 2022, 11:59pm
Cyflog
💰 £43,434 - £51,799 pro rata
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Iaith Conwy yn edrych am Swyddog Datblygu Asedau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle i weithio gyda Menter Iaith Conwy a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg
Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?
Swyddog Datblygu Asedau (cyllidwyd gan Gronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru Cam 3, a weinyddwyd gan CGGC)
Dyma gyfle i weithio ar gynlluniau cyffroes ac arloesol sydd wedi cael eu datblygu gan Menter Iaith Conwy. Mae Menter Iaith Conwy yn rhan o 2 gynllun cyfalaf sydd angen eu datblygu. Bydd gwaith y swyddog yn cynnwys:
- Parhau efo gwaith ceisiadau ariannol
- Cydlynu’r gwaith datblygu efo adran Gynllunio Cyngor Conwy
- Mynd â’r gwaith i dendr a goruchwylio y cyfnod adeiladu.
- Gweinyddu y cyllid grant ac adrodd yn ôl i’r cyllidwyr.
- Penodi a gweithio efo arbenigwyr megis Maint Mesurydd (Quantity Surveyor), Penseiri lle mae angen.
- Adrodd yn ôl i Byrddau Menter Iaith Conwy a Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg
Mae dwy wedd i’r cynllun ar hyn o bryd:
- Adeilad Menter Iaith Conwy. Er fod y ddau lawr cyntaf o hen adeilad y Banc wedi eu atgyweirio mae’n dal angen datblygu’r Hen Neuadd drawiadol sydd yn y to fel fod y bydd modd eto i’r cyhoedd ei defnyddio, gweler; (20+) Facebook
- Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg. Oherwydd poblogrwydd y Feithrinfa, mae angen mwy o le i ofalu am blant. Ar gyfer hyn, mae angen adeiladu estyniad.
Oriau: 37 awr yr wythnos Cyflog NJC 31 (2020) £28,785 a Phensiwn (Bydd hyn i’w drafod gyda’r ymgeisydd llwyddiannus. Rydym yn agored i geisiadau i weithio yn hyblyg neu hefyd i ystyried ceisiadau gan weithwyr llawrydd.)
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst
Am fanylion a disgrifiad swydd neu sgwrs anffurfiol cysylltwch efo meirion@miconwy.cymru
Neu ewch i’r wefan
Dyddiad Cau 20/5/22. Cais drwy lythyr a CV.
Cyflog
💰 £28,785
Lleoliad
📍 Llanrwst
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Archwilio Cymru yn edrych am Arbenigwr y Gyfraith a Moeseg (Swyddog Gwybodaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Prif gyfrifoldebau:
- sicrhau bod Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau fel rheolwyr data, gan gynnwys drwy ymdrin â cheisiadau gwrthrych am wybodaeth a helpu archwilwyr gyda gofynion diogelu data, e.e. hysbysiadau prosesu teg
- ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a chynnal y cynllun cyhoeddi
- gwaith polisi a datblygu deddfwriaethol, e.e., ymateb i ymgynghoriadau'r llywodraeth ar faterion sy'n berthnasol i archwilio'r sector cyhoeddus a llywodraethu gwybodaeth
- helpu archwilwyr gydag ymholiadau am faterion cyfreithiol sy'n ymwneud ag archwilio, megis hawliau mynediad archwilio—gall hyn weithiau olygu cyfarwyddo cynghorwyr cyfreithiol allanol
- rheoli mater arian o Gronfa Gyfunol Cymru Y sgiliau a'r profiad allweddol sydd eu hangen:
- Wedi'i addysgu i lefel gradd a chyda chymhwyster proffesiynol, e.e. cymhwyster diogelu data (Ymarferydd Diogelu Data BCS neu debyg), neu gymhwyster cyfreithiol perthnasol a/neu brofiad
- Y gallu i gynllunio'n effeithiol a blaenoriaethu llwyth gwaith, a gweithio'n hyblyg i fodloni gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd
- Y gallu i gynnal perthynas waith gadarnhaol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ar bob lefel, e.e., swyddogion y llywodraeth, cynghorwyr, aelodau o'r cyhoedd a staff Archwilio Cymru
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, e.e., i ddarparu cyngor clir
- Dehongli a chymhwyso deddfwriaeth a chanllawiau yn ddibynadwy
- Barn dda - y gallu i benderfynu ar gamau gweithredu priodol mewn sefyllfaoedd sensitif ac anodd
- Y gallu i ddelio'n effeithiol â gofynion diogelu data ac yn ddelfrydol hefyd ofynion deddfwriaeth sy'n ymwneud ag un neu fwy o'r canlynol: rhyddid gwybodaeth, archwilio a gweinyddu cyhoeddus DS: Ni ddisgwylir unrhyw brofiad na gwybodaeth flaenorol o reolaeth dros Gronfa Gyfunol Cymru. Mae'r gwaith hwn yn gofyn am sgiliau tebyg i'r rhai a grybwyllir uchod Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Ddu, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cyflog
💰 £41,484
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Datblygu'r Gymraeg - Prosiect Cynnig Rhagweithiol
Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys
Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys yn edrych am Swyddog Datblygu'r Gymraeg - Prosiect Cynnig Rhagweithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rôl Swyddog Datblygu’r Gymraeg ar gyfer y prosiect Cynnig Rhagweithiol yw cefnogi grwpiau a sefydliadau ar eu taith i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Cyfnod Penodol (hyd at ddiwedd Mawrth 2023 - parhad yn dibynnu ar gyllid)
Cyflog: £21,208 am 28 awr yr wythnos (£26,511 pro rata am 35 awr yr wythnos)
Lleoliad: Swyddfeydd PAVO Y Drenewydd / Llandrindod / Cartref (gweithio gartref yn ystod Covid)
Mae rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rôl Swyddog Datblygu’r Gymraeg ar gyfer y prosiect Cynnig Rhagweithiol yw cefnogi grwpiau a sefydliadau ar eu taith i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Mae’r Cynnig Rhagweithiol yn un o ofynion polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal, Mwy Na Geiriau. Ei nod yw sicrhau bod gwasanaethau yn hygyrch yn Gymraeg heb i'r defnyddiwr gwasanaeth orfod gofyn amdano.
Mae llawer o grwpiau a sefydliadau ym Mhowys naill ai’n methu neu ddim yn gweld y budd o gynnig eu gwasanaethau yn Gymraeg. Rôl y Swyddog Datblygu yw cefnogi grwpiau a sefydliadau ar eu taith i gyflwyno’r Cynnig Rhagweithiol trwy gymryd camau bach tuag at nod mwy. Gall hyn fod mor syml ag amlygu manteision cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, darparu hyfforddiant pwrpasol i grwpiau a sefydliadau neu roi Cynlluniau Gweithredu ar waith i gefnogi’r grwpiau a’r sefydliadau ar eu taith.
Cyflog
💰 £21,208
Lleoliad
📍 Y Drenewydd, Llandrindod
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Agri Advisor yn edrych am Gynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Wyt ti eisiau gweithio i gwmni cyfreithiol deinamig, sydd wedi’i chydnabod am ymagwedd sy’n torri tir newydd? Mae Agri Advisor yn gwmni cyfreithiol arbenigol sy’n cynghori ffermwyr, tir berchnogion a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn ehangu i Ogledd Cymru ac yn edrych i recriwtio yn ein swyddfa newydd yn y Bala.
Cynorthwyydd Gweinyddol neu Ysgrifennydd Cyfreithiol
Bydd dyletswyddau yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
Croesawu pob ymwelydd i’r swyddfa, Cynhyrchu llythyron a dogfennau cyfreithiol, Delio gydag ymholiadau cleientiaid drwy e-bost, ffacs a llythyr, Ateb galwadau ffôn, Rheoli dyddiaduron ac apwyntiadau, Copïo, sganio a ffacsio, Paratoi ffeiliau llys, Ffeilio a gwaith gweinyddol cyffredinol gan gynnwys post mewn ac allan o’r swyddfa, agor, rheoli a chau ffeiliau cleientiaid, Delio gyda thaliadau wrth gleientiaid, a Theipio nodiadau ac arddywediadau digidol. Nodweddion allweddol:
Chwaraewr Tîm, Sgiliau cyfathrebu gwych, Profiadol yn defnyddio Microsoft Office, Sgiliau allweddell hyfedr, Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac amldasgio, Cyfrinachgar, Proffesiynol, Huawdl gyda sillafu a gramadeg da, Buasai medru siarad Cymraeg yn fanteisiol. Bydd y swydd hon wedi’i leoli yn ein swyddfa yn y Bala (LL23 7AD) ac yn 37.5 awr yr wythnos.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Awel Mai Hughes ar 01938 536409.
Cyflog NMW gydag ystyriaeth yn cael ei roi i brofiad.
Ymgeisiwch os gwelwch yn dda mewn ysgrifen drwy ddarparu CV a llythyr eglurhaol i zoej@agriadvisor.co.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 13eg o Fai 2022
Lleoliad
📍 Y Bala
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ysgol Glan Clwyd yn edrych am Athro Celf
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd effeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athrawes yn y maes allweddol hwn yn Ysgol Glan Clwyd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod o dîm yr adran i fod yn rhan o’r symud cyffrous at y cwricwlwm newydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Addysg Gorfforol i’r amrediad oedran a gallu llawn yn Ysgol Glan Clwyd. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol Glan Clwyd, ac i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol yn allgyrsiol. Am resymau galwedigaethol dilys, mae angen penodi merch (eithriad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhan 1 atodlen 9) i’r swydd yma.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: • arbenigedd ym maes Addysg Gorfforol. • Y gallu i gyfrannu at faes arall. • agwedd arloesol a ffres at ddysgu. • agwedd sy’n croesawu heriau a datblygiadau newydd yn gyson. • y gallu i ysbrydoli disgyblion a myfyrwyr. • y gallu i gydweithio’n rhagorol fel aelod o dîm. • y gallu i gynllunio ac arwain. • Yr agwedd briodol sydd yn mynnu’r safonau uchaf bob amser – o ran cyflawniad personol chyflawniad eraill.
Ydy’r wybodaeth hon wedi procio eich chwilfrydedd? Hoffech chi wybod mwy? Os ydych yn rhannu gweledigaeth yr ysgol am yr addysg orau posib yn yr unfed ganrif ar hugain gyda’r byd digidol yng nghanol y dysgu hwnnw, ac yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn ysgol hapus ac arloesol, byddai’r Pennaeth, Mr Gwyn Tudur, yn croesawu ymholiadau pellach am y swydd a sgwrs anffurfiol.
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Swyddog Bioamrywiaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Pwrpas y Swydd • Cynorthwyo’r Gwasanaeth i ddarparu cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud a bioamrywiaeth ac ecoleg. • Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynlluniau sy’n gwarchod a hyrwyddo bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Lea Connelly ar leaelinconnelly@gwynedd.llyw.cymru neu Wyn Williams ar wynwilliams@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU 05/05/2022
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. Gwybodaeth Ychwanegol: Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cyflog
💰 £25,419 - £27,514
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ysgol Glan Clwyd yn edrych am Athrawes Addysg Gorfforol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd effeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athrawes yn y maes allweddol hwn yn Ysgol Glan Clwyd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod o dîm yr adran i fod yn rhan o’r symud cyffrous at y cwricwlwm newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Addysg Gorfforol i’r amrediad oedran a gallu llawn yn Ysgol Glan Clwyd. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol Glan Clwyd, ac i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol yn allgyrsiol. Am resymau galwedigaethol dilys, mae angen penodi merch (eithriad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rhan 1 atodlen 9) i’r swydd yma.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: • arbenigedd ym maes Addysg Gorfforol. • Y gallu i gyfrannu at faes arall. • agwedd arloesol a ffres at ddysgu. • agwedd sy’n croesawu heriau a datblygiadau newydd yn gyson. • y gallu i ysbrydoli disgyblion a myfyrwyr. • y gallu i gydweithio’n rhagorol fel aelod o dîm. • y gallu i gynllunio ac arwain. • Yr agwedd briodol sydd yn mynnu’r safonau uchaf bob amser – o ran cyflawniad personol a chyflawniad eraill. Ydy’r wybodaeth hon wedi procio eich chwilfrydedd? Hoffech chi wybod mwy? Os ydych yn rhannu gweledigaeth yr ysgol am yr addysg orau posib yn yr unfed ganrif ar hugain gyda’r byd digidol yng nghanol y dysgu hwnnw, ac yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn ysgol hapus ac arloesol, byddai’r Pennaeth, Mr Gwyn Tudur, yn croesawu ymholiadau pellach am y swydd drwy sgwrs anffurfiol.
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ysgol Glan Clwyd yn edrych am Athro Gwyddoniaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd effeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athro/ athrawes yn y maes allweddol hwn yn Ysgol Glan Clwyd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod o dîm yr adran i fod yn rhan o’r symud cyffrous at y cwricwlwm newydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Gwyddoniaeth i’r amrediad oedran a gallu llawn yn Ysgol Glan Clwyd. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol Glan Clwyd, ac i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol yn allgyrsiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: • arbenigedd ym maes Gwyddoniaeth. • agwedd arloesol a ffres at ddysgu. • agwedd sy’n croesawu heriau a datblygiadau newydd yn gyson. • y gallu i ysbrydoli disgyblion a myfyrwyr. • y gallu i gydweithio’n rhagorol fel aelod o dîm. • y gallu i gynllunio ac arwain. • Yr agwedd briodol sydd yn mynnu’r safonau uchaf bob amser – o ran cyflawniad personol a chyflawniad eraill.
Ydy’r wybodaeth hon wedi procio eich chwilfrydedd? Hoffech chi wybod mwy?
Os ydych yn rhannu gweledigaeth yr ysgol am yraddysg orau posib yn yr unfed ganrif ar hugain gyda’r byd digidol yng nghanol y dysgu hwnnw, ac yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn ysgol hapus ac arloesol, byddai’r Pennaeth, Mr Gwyn Tudur, yn croesawu ymholiadau pellach am y swydd a sgwrs anffurfiol.
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ysgol Glan Clwyd yn edrych am Athro Technoleg
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd effeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athro/ athrawes yn y maes allweddol hwn yn Ysgol Glan Clwyd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod o dîm yr adran a bod yn rhan o’r symud cyffrous at y cwricwlwm newydd.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Dylunio a Thechnoleg i’r amrediad oedran a gallu llawn yn yr ysgol. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol Glan Clwyd, ac i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol yn allgyrsiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus: • arbenigedd ym maes Dylunio a Thechnoleg. • agwedd arloesol a ffres at ddysgu. • agwedd sy’n croesawu heriau a datblygiadau newydd yn gyson. • y gallu i ysbrydoli disgyblion a myfyrwyr. • y gallu i gydweithio’n rhagorol fel aelod o dîm. • y gallu i gynllunio ac arwain. • ymrwymiad cydwybodol i arlwy allgyrsiol yr ysgol. • yr agwedd briodol sydd yn mynnu’r safonau uchaf bob amser – o ran cyflawniad personol a chyflawniad eraill.
Ydy’r wybodaeth hon wedi procio eich chwilfrydedd? Hoffech chi wybod mwy? Os ydych yn rhannu gweledigaeth yr ysgol am yr addysg orau posib yn yr unfed ganrif ar hugain gyda’r byd digidol yng nghanol y dysgu hwnnw, ac yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn ysgol hapus ac arloesol, byddai’r Pennaeth, Mr Gwyn Tudur, yn croesawu ymholiadau pellach am y swydd a sgwrs anffurfiol.
Lleoliad
📍 Llanelwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn edrych am Reolwr Datblygu
Ar gau. Mae’r swydd hon ar gau. Nid oes dyddiad cau wedi ei gofnodi.
Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli (YYE) yn mynd trwy newidiadau mawr ar hyn o bryd wrth iddi geisio sicrhau dyfodol cadarnhaol a disglair i’r ynys a’i chymuned. O ganlyniad i waith estynedig gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth ychwanegol wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, y Gronfa Adferiad Gwyrdd a CGGC, mae YYE bellach yn gobeithio penodi Rheolwr Datblygu i gefnogi datblygiad y mudiad trwy gamau nesaf y newidiadau hyn, ac i arwain ar fidiau am arian a buddsoddiad sylweddol. Darperir crynodeb byr o’r gwaith datblygu cychwynnol a wnaed hyd yma fel atodiad i’r ddogfen hon, ac mae gwybodaeth bellach ar gael ar gais.
Bydd y swydd hon yn golygu gweithio’n agos â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a staff a chontractwyr eraill YYE, cymuned yr ynys a rhanddeiliaid allweddol eraill, er mwyn cyflawni’r gwaith hwn mewn modd cydweithredol.
Cyflog
💰 £30,000 - £35,000
Lleoliad
📍 Gwynedd
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Partneriaeth Ogwen yn edrych am Yrrwr Bws Mini Gwennol (x 2 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydym yn awr yn arwain prosiect Bws Mini Gwennol trydan fydd yn gwasanaethu trigolion lleol ac ymwelwyr i’r ardal. Y bwriad yw lleihau’r problemau parcio i fyny wrth Lyn Ogwen a chynyddu’r budd economaidd a chymunedol i bentref Bethesda. Bydd y bws mini gwennol yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Bethesda a Llyn Ogwen yn ystod cyfnodau brig (gwyliau Pasg a’r Haf). Tu hwnt i’r gwasanaeth i ymwelwyr, bydd y bws ar gael i fudiadau cymunedol yr ardal i’w llogi a bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu’n cymuned i gyrraedd safleoedd gwaith a chymdeithasol tu hwnt i ddalgylch Dyffryn Ogwen. Mae’r prosiect yn cyd-fynd a gweledigaeth Partneriaeth Ogwen o ddod a budd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i’n hardal. Rydym yn awr yn chwilio am ddau yrrwr i’r bws mini yma.
Cyflog
💰 £20,280
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Comisiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn edrych am Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Contract: Tymor penodol neu secondiad am 2 flynedd
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £31,210 - £38,160 y flwyddyn
Lleoliad: Hyblyg - gweithredir trefniant gweithio hybrid. Lleolir swyddfeydd y Comisiynydd yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, a Rhuthun
Dyddiad cau: 12.00 canol dydd, 13 Mai 2022 Cyfweliadau: 23 Mai 2022 (cynhelir dros Teams)
Pwrpas
Fel aelod o’r tîm cyfathrebu byddwch yn gyfrifol am rannu gwybodaeth a hyrwyddo pob elfen o waith Comisiynydd y Gymraeg. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon a denu sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ym mhobman yn ymwybodol o waith y Comisiynydd.
Dyletswyddau craidd
- Darparu gwasanaeth cyfathrebu cyflym, arbenigol a dibynadwy, gan ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
- Rhoi cyngor i aelodau staff y Comisiynydd ynghylch rhannu gwaith y sefydliad a darparu sesiynau briffio cyn cyfweliadau ar y cyfryngau.
- Llunio safbwyntiau ac ymatebion y Comisiynydd mewn modd rhagweithiol ac adweithiol.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg, a pharatoi a chomisiynu deunydd gweledol addas i gyd-fynd â’r straeon hynny gan sicrhau eu dosbarthu’n eang.
- Cyfathrebu gyda rhan-ddeiliaid y Comisiynydd, drwy gyfarfodydd, cyflwyniadau a thrwy ysgrifennu a chylchredeg cylchlythyr i ran-ddeiliaid.
- Datblygu perthnasoedd gwaith cryf, rhagweithiol gyda newyddiadurwyr ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
- Ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen copi ar gyfer yr adroddiad blynyddol ac adroddiadau eraill, cyhoeddiadau, y wefan, datganiadau ac erthyglau, a deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gan gynnig syniadau o ran deunydd addas i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Gweithredu Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiynydd drwy weithio gyda thimoedd ar gynlluniau cyfathrebu penodol, hyrwyddo prif negeseuon ac ymgyrchoedd yn y wasg a llunio datganiadau i ddwyn perswâd ar olygyddion a newyddiadurwyr i gynnwys y straeon.
- Datblygu sgiliau digidol e.e ffilmio a golygu fideo er mwyn cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol, i gefnogi a hyrwyddo gwaith y Comisiynydd.
- Cynorthwyo gyda chynnal a chreu cynnwys ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Comisiynydd, gan ateb yn ôl yr angen.
- Diweddaru gwefan y Comisiynydd a’r adran newyddion yn rheolaidd gan sicrhau bod y cynnwys yn cael ei hyrwyddo a’i rannu yn eang.
- Cadw golwg ar ddatblygiadau o bwys a newyddion y dydd a’u rhannu yn ôl yr angen.
- Creu a chylchredeg negeseuon wythnosol a chylchlythyron mewnol yn crynhoi pynciau pwysig a gwybodaeth berthnasol i staff y Comisiynydd.
- Monitro ein sylw yn y cyfryngau a helpu i werthuso ein hymdrechion cyfathrebu er mwyn gwella perfformiad.
Cyflog
💰 £31,210 - £38,160
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, Rhuthun
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Telesgop yn edrych am Gynorthwydd Golygu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Fe fydd y rôl yn cynnwys: Llwytho Rhedeg system archifo a storio Bras olygu Cefnogi y tîm ôl gynhyrchu
Sgiliau manteisiol: Gwybodaeth am dechnoleg, fformatau a llifoedd gwaith Gwybodaeth TG a arferion da storio a threfnu ffeiliau Siarad Cymraeg Trwydded yrru
Oriau hyblyg a pharodrwydd i weithio rhai penwythnosau a gwyliau banc.
Mae Telesgop yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal.
Yr ydym yn gwmni dwyieithog (Cymraeg & Saesneg)
Mae Telesgop yn gwmni aml gyfrwng sydd wedi ennill gwobrau, yn arbenigo mewn cynnwys teledu llinol a phlatfformau digidol (S4C, BBC, ITV, CH4). Hefyd rydym yn creu cynnwys, platfformau a graffeg wedi ei animeiddio ar gyfer adnoddau addysg (Llywodraeth Cymru) a nifer o gleientiaid masnachol. Mae’r cwmni wedi ei leoli yn Stiwdios y Bae, Ffordd Fabian, Abertawe ac yn tyfu ac angen pobl ag awch am greu i weithio i ni. Yn dilyn cyfnod o dri mis, mae pob swydd yn barhaol.
CV A LLYTHYR INFO@TELESGOP.CYMRU
Lleoliad
📍 Abertawe
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae British Council Cymru yn edrych am Diwtoriaid Cymraeg ym Mhatagonia (x 3 swydd)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Tiwtoriaid Cymraeg ym Mhatagonia (x 3 swydd)
Gorffennaf 2022 – Rhagfyr 2022*
*gyda posibiliad o estyniad I 2023
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia? Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil?
Rydym yn chwilio am athrawon neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai:
Plant (meithrin, cynradd neu arddegau); neu Oedolion (pob safon).
Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasoli iaith ar ran Menter Iaith Patagonia.
Cyflog misol o £750, ynghyd â llety, taith awyren ac yswiriant iechyd.
Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, cysylltwch â
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw dydd Iau 26ain Mai 2022
Cyflog
💰 £750/mis
Lleoliad
📍 Patagonia
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Data
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus a brwdfrydig sydd â phrofiad o ddadansoddi data a chynnig mewnwelediadau ac argymhellion ar sail y data. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn cynnig dadansoddiad manwl o’r holl ddata perthnasol i weithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (e.e. LLWR, HESA), ac yn cynnig mewnwelediadau ac argymhellion ar sail y data yma.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn adnabod cyfleoedd i ddadansoddi data gweithredol y Coleg er mwyn sicrhau llif cyson o wybodaeth am effaith gweithgareddau’r Coleg.
Cyflog
💰 £27,116 - £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Swyddog Adnoddau Dynol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus sydd â phrofiad o weithio ym maes adnoddau dynol a sydd â wybodaeth sylweddol am arferion gorau, polisïau a gweithgareddau yn y maes.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn sicrhau fod ein polisïau a’n gweithdrefnau yn cefnogi’r dull newydd o weithio yn dilyn y pandemig. Os wyt ti am fod yn rhan o'r tîm blaengar hwn ac os oes gennyt ti brofiad o adnabod a diwallu anghenion hyfforddi a datblygu staff a phrosesau recriwtio – yna ymgeisia am y swydd hon!
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn rhan o ddatblygiadau’r Coleg i ddatblygu pobl gan gynnig syniadau a chydlynu gweithgareddau perthnasol ac uchelgeisiol i sicrhau bod y staff a’r sefydliad yn perfformio ar ei orau.
Cyflog
💰 £27,116 - £33,309
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Reolwr Cyllid
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Dymuna’r Coleg benodi unigolyn trefnus a thrwyadl sydd yn meddu ar gymhwyster proffesiynol i arwain gwaith y Coleg o ran gwasanaethau cyllid a chynllunio ariannol. Derbynia’r Coleg oddeutu £8.5m yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gyllideb wedi ei gytuno ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25.
Yn dilyn cynnydd yng nghyllideb ac amrediad gweithgareddau’r Coleg, mae'r Coleg am benodi Rheolwr Cyllidi arwain, rheoli a chydlynu holl brosesau cyllid y Coleg. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn arwain, goruchwylio a chydlynu holl waith archwilio allanol y Coleg ac yn gyfrifol am y weithdrefn caffael.
Cyflog
💰 £48,835 - £54,943
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Webrecruit yn edrych am Weinyddwr - Recriwtio a Gwasanaethau Cleient
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweithio Hybrid (Yn y Cartref ac yn y Swyddfa, yn y Cartref yn unig ar gyfer gweithwyr y tu allan i bellter cymudo)
Amdanom ni
Yn Webrecruit, rydym yn gwmni hysbysebu a meddalwedd recriwtio, yn gyfuniad prin o bobl greadigol, datblygwyr, arweinwyr meddwl a gweithwyr proffesiynol gwerthu sy'n cydweithio i greu atebion ymarferol, defnyddiadwy i anghenion recriwtio cleientiaid.
Rydyn ni'n gwneud rhywbeth o'r enw Recriwtio Hybrid - dydyn ni ddim i gyd yn hysbysebu recriwtio ac nid ydym yn canolbwyntio ar wneud meddalwedd yn unig. Rydym yn hysbysebu, recriwtio a llogi arbenigwyr meddalwedd sy’n darparu datrysiadau cyflawn sy’n bodloni holl anghenion recriwtio cwmni, o gynhyrchu hysbyseb i ddenu’r bobl gywir a’u cynnwys trwy ein meddalwedd platfform llogi sy’n arwain y farchnad.
Ni yw stop cyntaf llawer o gleientiaid ar gyfer eu hanghenion hysbysebu a chyda hynny mewn golwg, rydym yn parhau i weld galwadau cynyddol am ein cefnogaeth gan gleientiaid newydd a phresennol.
Rydyn ni nawr yn recriwtio ar gyfer Gweinyddwr i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Cleient sy'n ymwneud â phostio a gweinyddu'r hysbysebion swyddi rydyn ni'n eu creu ar y byrddau swyddi a'r cyfryngau cymdeithasol.
Eich dydd i ddydd:
O ddydd i ddydd, mae ein Gweinyddwyr yn yr adran Gwasanaethau Cleient yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein hysbysebion swyddi yn cael eu postio i fyrddau swyddi gofynnol ac allfeydd cyfryngau cymdeithasol mewn modd amserol, effeithlon a chywir. Mae ein Gweinyddwyr yn sicrhau ein bod yn cyflawni'r hyn y mae ein cleientiaid yn dod i Webrecruit amdano!
Gan weithio gydag atebion awtomataidd profedig ac ymarferol ochr yn ochr â phrosesau cynnil, ystyriol, nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath mewn gwirionedd; mae gennym ddigonedd o systemau a ffyrdd o weithio yn eu lle i wneud ein darpariaeth mor llyfn â phosibl, ond rydym hefyd yn gweithio mewn amgylchedd cyflym sy'n cyflwyno anghenion dyddiol, amrywiol sy'n creu amgylchedd gwaith cadarnhaol a deinamig.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Daw ein tîm o amrywiaeth eang o gefndiroedd gyda lefelau amrywiol o brofiad. Yr hyn sy'n gwneud ein timau a'n cymdeithion yn llwyddiannus yw parodrwydd cymunedol i gyflawni gwaith rhagorol i'n cleientiaid bob dydd.
Gyda’n llwyddiannau parhaus, mae gennym ddyddiau lle gall y swm o waith sy’n dod drwodd fod yn uchel ac mae angen aelodau tîm arnom sy’n gallu addasu i’r cyfnodau hyn o fusnes gyda dull tawel a chasgledig, tra’n cadw llygad am fanylion. Bydd angen hyder arnoch hefyd i allu cyfathrebu â chleientiaid, ymgeiswyr a chydweithwyr fel ei gilydd felly mae proffesiynoldeb a galluoedd meithrin cydberthnasau yn bwysig i'r rôl hon. Mae'r gallu i siarad Cymraeg, yn ogystal â Saesneg, hefyd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Yn benodol, byddwch yn:
- Postio swyddi gweigion cymeradwy cleientiaid i fyrddau swyddi - Golygu hysbysebion byw ar fyrddau swyddi - Cydgysylltu â chyflenwyr a'r tîm masnachol yn ôl yr angen i sicrhau bod rolau'n cael eu gosod ar fyrddau swyddi cyffredinol ac arbenigol - Rheoli ac ymateb i ymholiadau a cheisiadau yn y mewnflwch gwasanaethau a rennir - Cysylltu â chleientiaid, ymgeiswyr a chydweithwyr dros y ffôn
Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr o ddyletswyddau, ac mae digon i gymryd rhan ynddo gan gynnwys sefydlu cyfrifon brand ar gyfer cleientiaid ar y byrddau swyddi, gweinyddu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, cefnogi cleientiaid ac ymgeiswyr ar eu teithiau a mwy!
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad o weithio mewn swyddogaeth weinyddol naill ai mewn Hysbysebu neu Recriwtio, neu'r ddau; fodd bynnag, nid yw hyn yn orfodol a'r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn gwirionedd yw sgiliau gweinyddol cryf ac amlwg, llygad am fanylion ac ymrwymiad i wneud swydd yn iawn.
Beth fyddwch chi'n ei gael yn gyfnewid?
- Cyflog o £22,500 DOE - Cynllun bonws (ar ôl cyfnod prawf) - Cynllun pensiwn - 23 diwrnod o wyliau pro rata (cynyddu gyda gwasanaeth i 25) - Polisi gwisgo i lawr - Gweithio o gartref - Hyfforddiant cynhwysfawr
Fe welwch ein bod ni’n dîm amrywiol o unigolion gydag ehangder o brofiad, cefndiroedd a diddordebau ac mae hyn oll yn cyfrannu at ein gweithle fel rhywbeth yr ydym ni yn Webrecruit yn falch ohono. Rydyn ni'n gweithio o gartref, yn 'gyfarfodydd' Zoom ac yn sgwrsio DM y dyddiau hyn - rydyn ni'n gyson mewn cysylltiad â'n gilydd er ein bod ni'n bell. Rydym hefyd nawr yn ôl yn y swyddfa un diwrnod yr wythnos!
Cynhelir cyfweliadau trwy sgwrs fideo a bydd y broses recriwtio yn cynnwys profion ysgrifennu a sgiliau ochr yn ochr â'r broses ymgeisio a chyfweld.
Cynigir y rôl hon ar sail amser llawn.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Gweinyddol, Cynorthwy-ydd Gweinyddol, Cynorthwy-ydd Cymorth Gweinyddol, Swyddog Gweinyddol, Gweinyddwr Recriwtio, Gweinyddwr Adnoddau Dynol, Gweinyddwr Hysbysebu, neu Weithredwr Gweinyddol.
Mae Webrecruit yn gyflogwr cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo'n gryf i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cyfartal i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am gyflogaeth. Cyfle cyfartal yw’r unig ffordd dderbyniol o gynnal busnes a chredwn po fwyaf cynhwysol yw ein hamgylcheddau, gorau oll fydd ein gwaith.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Weinyddwr yn Webrecruit, dewiswch y botwm ymgeisio a chyflwynwch lythyr eglurhaol cyffrous ochr yn ochr â'ch CV a chwestiynau ategol.
Cyflog
💰 £22,500
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn edrych am Brif Weithredwr
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
£101,830 + pensiwn rhagorol. Gall y Prif Weithredwr fod yn gymwys i gael bonws blynyddol ychwanegol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, ar ôl cwblhau’r holl amcanion strategol yn llwyddiannus.
Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Bydd disgwyl i'r Prif Weithredwr dreulio o leiaf 8 diwrnod y mis yn swyddfa Caerdydd.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gwneud hynny er budd pobl ledled Cymru ac i hyrwyddo celfyddydau Cymru yn rhyngwladol. Wedi’i sefydlu gan Siarter Frenhinol, mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.
Y Prif Weithredwr yw'r uwch aelod o staff Cyngor Celfyddydau. Maent yn arwain yr Uwch Dîm Arwain (UDA) o bum person, gyda'r pedwar aelod arall yn Gyfarwyddwyr. Yr UDA yw prif gorff gwneud penderfyniadau gweithredol y Cyngor. Ei rôl yw llywio amcanion a blaenoriaethau cyffredinol Cyngor Celfyddydau ac arwain y gwaith o gyflawni polisïau. Mae’r UDA hefyd yn gyfrifol am reoli cyllid, adnoddau a phobl Cyngor Celfyddydau yn effeithiol, gan sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei reoli mewn modd atebol a phriodol.
Pedwar prif ffocws cyfredol y rôl yw:
* Cynyddu cydraddoldeb mynediad i’r celfyddydau ar draws cymunedau Cymru a meithrin gwytnwch a chynaliadwyedd y sector * Ymgorffori strategaeth iaith Gymraeg newydd yng ngwaith y Cyngor * Arwain ein Hadolygiad Buddsoddi nesaf a fydd yn cyflwyno Portffolio Celfyddydau newydd o sefydliadau a ariennir gan refeniw ar gyfer Ebrill 2024 * Datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd 2023-28
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol o weithredu ar lefel uwch reoli o fewn amgylchedd ariannol cymhleth ac sy'n atebol i'r cyhoedd. Mae profiad o weithio yn y celfyddydau, y diwydiannau creadigol neu’r sector diwylliannol yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â chymhlethdodau a nawsau’r ffordd y mae corff cyhoeddus yn ymdrin â’i berthynas â rhanddeiliaid allweddol, sef y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn yr achos hwn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o nodweddion arbennig cymdeithas Gymreig, gan gynnwys ei diwylliant dwyieithog. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn penodedig yn rhugl yn y Gymraeg bydd yn cael ei h/annog a’i ch/gefnogi i wneud cynnydd da wrth ddysgu’r Gymraeg fel y gall ddefnyddio’r iaith yn y cwrs arferol o gyflawni ei dd/dyletswyddau ac ar lefel sydd y tu hwnt i’w defnydd o ychydig o ymadroddion sylfaenol. Byddwn yn darparu mynediad i wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion gan gynnwys gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Gwener 13 Mai 2022
Dyddiadau cyfweliadau: Dydd Mawrth 5 neu ddydd Mercher 6 Gorffennaf 2022
Cyflog
💰 £101,830
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!