Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cyswllt Busnes

Prifysgol Bangor

💰 £35k - £42k 📍 Bangor Ar gau

Mae Prifysgol Bangor yn edrych am Reolwr Cyswllt Busnes

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma wahodd ceisiadau am y swydd lawn-amser, barhaol uchod yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Bydd y Rheolwr Cyswllt Busnes yn helpu creu a chynnal cysylltiadau â busnesau a sefydliadau rhanddeiliaid y trydydd sector a’r sector cyhoeddus i sicrhau bod darpariaeth cyrsiau hyblyg yn diwallu eu hanghenion a’u gofynion, gan gyfrannu at dwf economaidd ac ymgysylltu â’r gymuned.

Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar addysg hyd at lefel gradd, a bydd ganddynt brofiad o weithio a chysylltu â busnesau i gyflawni canlyniadau project llwyddiannus yn ogystal â phrofiad o hyrwyddo a marchnata projectau. Mae gallu profedig i feithrin perthnasoedd, rhwydweithiau a phartneriaethau cydweithredol yn hanfodol.

Mae disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.

Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hynny ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad. 

Caiff ceisiadau hefyd eu hystyried i gyflawni’r swydd yn rhan-amser neu rannu’r swydd. Derbyniwn geisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Ond os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Cewch wneud ymholiadau anffurfiol i Reolwr y Coleg, Sian Peris Owen (s.p.owen@bangor.ac.uk)

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 19 Mawrth 2023. Ymrwymiad i Gyfle Cyfartal

Cyflog

💰 £35,333 - £42,155

Lleoliad

📍 Bangor

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Dunn & Ellis Cyf

💰 £18k - £25k 📍 Porthmadog Ar gau

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

💰 £42k - £48k 📍 Caerdydd Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

British Council Cymru

💰 £750 y mis 📍 Patagonia Ar gau

Barddas

💰 £29k - £33k pro rata 📍 O gartref Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £53k - £64k 📍 Hyblyg Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Hybu Cig Cymru

💰 £35k - £44k 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Hybu Cig Cymru

💰 £26k - £32k 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Hybu Cig Cymru

💰 £26k - £32k 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Hybu Cig Cymru

💰 £43k - £50k 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37k - £43k 📍 Caerfyrddin📍 Abertawe +1 Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £33k - £41k 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Tref Caerfyrddin

💰 £35k - £38k pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

💰 £27k - £30k 📍 Hyblyg📍 Caerdydd Ar gau

RSPB Cymru

💰 £28k - £32k 📍 Machynlleth Ar gau

Cymorth Cristnogol

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Cymorth Cristnogol

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Caernarfon Ar gau

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

💰 Cystadleuol 📍 Campws Caerfyrddin📍 Llanbed +1 Ar gau

WWF Cymru

💰 £52k 📍 Caerdydd Ar gau

Cwmni Theatr Arad Goch

💰 £21k - £30k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau