Swyddi Cymraeg
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Adnoddau Dysgu Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Cynllunio, arwain a chyflawni gwaith ar gyfer cyhoeddi adnoddau dysgu digdol ar Hwb a llwyfannau eraill. Gweithredu fel prif bwynt cyswllt rhwng y Llyfrgell a Hwb ar faterion ymarferol. Cydweithio gyda swyddogion dysgu cyrff treftadaeth cenedlaethol eraill ar adnoddau dysgu digidol, yn benodol Amgueddfa Cymru, CADW a’r Comisiwn Brenhinol. Cyfrannu at waith arall y Gwasanaeth Addysg yn ddigidol, yn y Llyfrgell ac yn allanol.
ADRAN 2: YR ADRAN
Y Gyfarwyddiaeth Casgliadau ac Ymgysylltu sy’n bennaf gyfrifol am gasglu, diogelu a rhoi mynediad i’r casgliadau sydd yng ngofal y Llyfrgell yn unol â’i swyddogaethau craidd. Yn y cyd-destun hwn mae mynediad yn golygu amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle, ar-lein ac mewn cymunedau ledled Cymru. Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth yn rhan greiddiol o wireddu gweledigaeth y Llyfrgell i fod yn sefydliad sy’n:
“...gwneud gwahaniaeth er gwell i bawb yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol ac i fod yn lyfrgell genedlaethol, agored, blaengar ac arloesol.”
Trwy ei gwaith mae angen i’r Gyfarwyddiaeth alluogi’r Llyfrgell i gyflawni ei hamcanion strategol a llesiant sef:
1. Meithrin a gofalu am gof y genedl
2. Gosod sylfaen economi gwybodaeth
3. Bod yn ganolog i fywyd y genedl
4. Grymuso Ymchwil a Dysg
Mae casgliadau’r Llyfrgell yn cynnwys llyfrau, papurau newydd, mapiau, archifau a llawysgrifau, ynghyd â lluniau, ffotograffau, deunydd clywedol, gwefannau a chynnwys digidol o bob math. Ynghyd â’r casgliadau, mae sgiliau ac arbenigedd staff y Gyfarwyddiaeth hon yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau fod y Llyfrgell yn gallu datgloi potensial y casgliadau hyn i gyfoethogi a gwella bywydau pobl Cymru a thu hwnt.
Cyflog
💰 £25,895 - £29,890
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych am Gydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Coleg yn edrych am unigolyn deallus a brwdfrydig i arwain ar ein hymdrechion i sicrhau bod y Coleg, ac addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog, yn agored i bawb, beth bynnag eu cefndir.
Dymuna’r Coleg benodi Cydlynydd Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Gwrth-hiliaeth i gydlynu gweithrediad strategaeth bum mlynedd er mwyn cynyddu ymwneud pobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phobl sydd â nodweddion gwarchodedig eraill sydd wedi eu tan gynrychioli ar hyn o bryd, gyda’r Coleg a darpariaeth ôl-orfodol Gymraeg a dwyieithog. Mae'r strategaeth yn un uchelgeisiol ac yn gosod amserlen a thargedau ar gyfer gweld cynnydd dros y blynyddoedd i ddod. Bydd cydweithio gyda rhan-ddeiliaid eraill yn y sector Gymraeg, yn y sector ôl-orfodol a gyda mudiadau sy’n cynrychioli pobl sydd a nodweddion gwarchodedig yn elfen holl bwysig o’r swydd. Bydd gan yr unigolyn brofiad o ymwneud gyda chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y Coleg ar hyn o bryd - yn benodol er enghraifft pobl o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl - a bydd dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chroestoriadaeth (intersectionality) yn angenrheidiol. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon ac mae cefnogaeth ar gael yn y Coleg i'r rhai sy'n dymuno gwella eu sgiliau iaith Gymraeg.
Os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol am y rôl yna danfonwch e-bost at Dafydd Trystan, Uwch Reolwr Academaidd a Chofrestrydd y Coleg – d.trystan@colegcymraeg.ac.uk.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Cyflog
💰 £27,929 – £34,308
Lleoliad
📍 Caerdydd, Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn edrych am Bennaeth Gwasanaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn sefydliad trydydd sector sy’n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion, gofalwyr di-dâl yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Wedi'i sefydlu ym 1991, mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn sefydliad deinamig a blaengar. Mae gofalwyr di-dâl yn wynebu llawer o heriau; mae hwn yn gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth i'w bywydau.
Croesewir trafodaethau anffurfiol. Os hoffech drafod y cyfle hwn gyda Cadeirydd neu Is-Gadeirydd neu ofyn am becyn cais, cysylltwch â Julie Oatey yn help@carersoutreach.org.uk.
Cyflog
💰 £38,052 - £43,757
Lleoliad
📍 Bangor
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych am Gyfreithiwr (Oedolion Ac Addysg) – Gwasanaeth Cyfreithiol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaeth yn agored i gytuno trefniadau gweithio hybrid.
CYFREITHIWR (Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ) - Mae’r Cyngor wedi gosod ychwanegiad y farchnad ar y swydd hon, sydd yn golygu mai’r uchafswm cyflog ydi £45,496.
Mae’r Cyngor edrych i gyflogi Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr i ymuno a’r tim mewn swydd sydd yn cynghori a gweithredu ar ran y Cyngor ar faterion gofal cymdeithasol oedolion ac addysg. Mae’r gwaith yn cynnwys:
Materion darparu a comisiynu gofal, iechyd meddwl, anabledd, achosion amddifadu o ryddid a chartrefi cofrestredig.
Materion addysg ,cyfrifoldebau athrawon ac ysgolion, gwaharddiadau, anghenion addysg ychwanegol , dyletswyddau llywodraethwyr.
Mae’r Cyngor am gyflogi unigolyn sydd yn gallu dangos agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at y meysydd gwaith ynghyd a’r gallu i weithio fel aelod effeithiol o dîm cyfreithiol yn darparu ystod o wasanaethau i’r Cyngor a’i gleientiaid.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Iwan G D Evans ar 01286 679015
Rhagwelir cynnal cyfweliadau dydd Iau, 23/02/2023.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 16/02/2023
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Cyflog
💰 £45,496
Lleoliad
📍 Caernarfon
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Gweinyddol Data
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ac yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ymysg bwrlwm ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
https://www.urdd.cymru/cy/prentisiaethau/
Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson eiddgar, trefnus a brwdfrydig i ymuno ag Adran Prentisiaethau'r Urdd fel Swyddog Gweinyddol Data.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) neu Lisa Fflur (Rheolwr Hwb Sgiliau Hanfodol) catrindavis@urdd.org / lisawaters@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 09 Chwefror 2023
Dyddiad Cyfweld – Wythnos cychwyn 13 Chwefror 2023
Cyflog
💰 £22,295 - £24,952
Lleoliad
📍 Hyblyg
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Adran Gwaith a Phensiynau
Mae Adran Gwaith a Phensiynau yn edrych am Anogwr Gwaith Dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
A ydych yn siaradwr Cymraeg?
A fyddech yn mwynhau'r cyfle i siarad Cymraeg yn eich gwaith bob dydd, i ddarparu gwasanaeth i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg?
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am les, pensiynau a pholisi cynnal a chadw plant ac mae'n gyfrifol am helpu pobl i symud i gyflogaeth, cefnogi pensiynwyr a gwarchod rhai o'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Yn DWP rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym am ychwanegu at ein rhwydwaith presennol o gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg, drwy recriwtio sawl Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) ledled Cymru.
Fel Anogwr Gwaith dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, yn enwedig ein cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg drwy eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau'r DWP
Swydd ddisgrifiad
Bydd eich rôl yn cynnwys
- Cael llwyth achosion o gwsmeriaid y byddwch yn gyfrifol amdanynt.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda'ch cwsmeriaid sy'n eu hannog a'u hysgogi i wneud y gorau o'u potensial gwaith ac enillion a dod yn annibynnol yn ariannol.
- Cynnig cyngor a chefnogaeth i helpu eich cwsmeriaid i chwilio am waith a lle bo angen eu cefnogi i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus yn eu chwiliad swydd mewn amgylchedd digidol e.e. gwefannau chwilio am swydd, e-bost, uwchlwytho dogfennau ac ati
- Cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, digidol a ffôn gyda chwsmeriaid yn ddyddiol, yn Gymraeg neu Saesneg.
- Datblygu gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur leol yn rhagweithiol, gan gydnabod y rolau sydd gan ein Partneriaid a Chyflogwyr wrth helpu ein cwsmeriaid i sicrhau cyflogaeth.
Gwneud penderfyniadau amserol, yn seiliedig ar anghenion y cwsmer, i'w cyfeirio at gymorth priodol.
Manyleb bersonol
Meini Prawf Allweddol
I fod yn llwyddiannus bydd angen i chi
- Fod â’r gallu i siarad a deall Cymraeg llafar (Meini Prawf Hanfodol). Cyfyngir Cymraeg ysgrifenedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon. (gweler yr Adran Iaith)
- Cyfathrebu'n dda gyda grŵp amrywiol o gwsmeriaid, partneriaid a chyflogwyr gyda'r nod yn y pen draw o gefnogi pobl i mewn i waith. (Meini Prawf Arweiniol);
Ieithoedd
Y gallu i siarad a deall Cymraeg llafar
Safon Cymraeg Llafar –
Dylai ymgeiswyr allu sgwrsio’n glir a deall Cymraeg llafar i:
- Trafod amgylchiadau personol cwsmeriaid, hanes gwaith ac archwilio nodau swydd
- Egluro rheolau, gofynion a phenderfyniadau budd-daliadau
- Deall cwestiynau cwsmeriaid a gallu ymateb.
Safon Cymraeg Ysgrifenedig -
- Bydd Cymraeg ysgrifenedig yn gyfyngedig i ysgrifennu nodiadau byr neu negeseuon i'ch cwsmeriaid trwy e-bost, neges destun, ac ati.
Sylwer: Lle nad yw ymgeiswyr yn cyrraedd y safon ar gyfer Swyddog Gweithredol o ffin fach, efallai y cynigir swydd ar lefel Swyddog Gweinyddol (AO) iddynt fel ymgeisydd a fu bron â methu. Gall y rolau hyn fod yn benodiadau parhaol neu Gyfnod Penodol yn dibynnu ar ofynion busnes.
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
- Cyfathrebu a Dylanwadu
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Buddion
- Gwyliau blynyddol hael 23 diwrnod ar gyfer staff newydd Llawn Amser (yn codi i 25 ar ôl 1 flwyddyn)
- Holl wyliau’r banc
- Patrymau gweithio hyblyg ar gael
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a rhiant cystadleuol
- Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 27%
- Rhaglen Gymorth i Weithwyr gyda phwyslais ar les
- Datblygiad Gyrfa a Phersonol trwy Broffesiwn Cyflenwi Gweithredol - ee: cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Gweinyddiaeth Busnes
- Cynlluniau disgownt i weithwyr
Cyflog
💰 £28,117
Lleoliad
📍 Y Fenni, Bargod, Y Barri, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Casnewydd, Pont-y-pŵl, Aberdâr, Llanelli, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Pontypridd, Port Talbot, Tonypandy, Treorci, Aberhonddu, Bae Colwyn, Llandrindod, Llandudno, Machynlleth, Yr Wyddgrug, Y Drenewydd, Y Trallwng
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn edrych am Weinyddwr (Siaradwr Cymraeg)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Weinyddwr dwyieithog i ymuno â'n tîm. Mae gennym nifer o rolau ar gael, rhai ohonynt yn barhaol, rhai am gyfnod penodol a rhai rhan amser.
Y Manteision
- Cyflog o £26,894 - £29,080 y flwyddyn (pro rata ar gyfer rhan amser)
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth) (pro rata ar gyfer rhan-amser)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Gweinyddwr, byddwch yn darparu cymorth prosiect i'n prosiectau Gwella a Datblygu, grwpiau prosiect, rhwydweithiau a phartneriaethau.
Gan gydlynu cynllunio prosiect, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i gyfarfodydd ac yn sefydlu a chynnal systemau gweinyddol, gweithdrefnau a chronfeydd data.
Byddwch hefyd yn drafftio ac yn dosbarthu papurau, manylebau a chynlluniau ac yn sicrhau cysondeb tôn, brandio a chyfieithu.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Coladu data a dadansoddi canlyniadau
- Trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd
- Adolygu a diweddaru cynnwys y fewnrwyd a'r wefan
Amdanoch Chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Weinyddwr, bydd angen:
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o weinyddu busnes
- Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol mewn cyfarfodydd, gan gynnwys cymryd cofnodion
- Gwybodaeth o'r sector cyhoeddus
- Rheoli amser a blaenoriaeth effeithiol
- Sgiliau trefnu a chyfathrebu ysgrifenedig rhagorol
- Hyfedredd TG, gan gynnwys Teams a Zoom
Mae’n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu cyflawni pob tasg a chyfrifoldeb gyda hyfedredd cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 5 Mawrth 2023.
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu wrth iddynt ddod i mewn felly gall y rôl hon gau yn gynt na’r dyddiad a hysbysebir.
Gallai sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Gydlynydd Prosiect, Cydlynydd Datblygu Rhaglen, Cydlynydd Gwella Rhaglen, Cynorthwyydd Gweinyddol, Gweinyddwr Prosiect, Cynorthwyydd Personol, Cynorthwyydd Personol, EA, Cynorthwyydd Gweithredol, Ysgrifennydd, Derbynnydd, neu Swyddog Gwella a Datblygu.
Felly, os ydych chi am ymuno â ni fel Gweinyddwr, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Cyflog
💰 £26,894 - £29,080 pro rata
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanelwy, Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddi Cegin a Llety Glan-llyn
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Gwersyll Glan-Llyn yn chwilio am staff yn yr Adran Cegin a Llety ar gyfer swyddi coginio, gweini a pharatoi bwyd yn ogystal a swyddi glanhau.
Cyflog: £11.30 yr awr (£20,566 y flwyddyn, pro rata).
Cytundeb: Parhaol, gyda’r oriau gwaith i’w trafod. Gellir trafod patrwm shifftiau hyblyg. Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds ar 01678 541000 neu huwsymonds@urdd.org. Mae’r cyfle hwn yn agored i siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag unigolion di-gymraeg gyda’r awydd i ddysgu. Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Cyflog
💰 £11.30 yr awr (£20,566 pro rata)
Lleoliad
📍 Y Bala
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol i arwain strategaeth uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd mae S4C a’r sector yn cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru. Byddwch yn gyswllt gweithgar gyda’r cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ac ar y sgrin - yn benodol pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o gymunedau di-freintiedig a phobl LHDTC+.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli rhaglen Amgylcheddol, Gymdeithasol a Llywodraethu (‘ACLl/ESG’) cyffredinol S4C. Byddwch yn mapio ac yn gweithredu strategaeth i reoli a gwella rheolaeth y sefydliad ar bynciau ACLl/ESG. O fewn cylch gorchwyl y gwaith yma byddwch yn arwain ar faterion amgylcheddol, wrth gydlynu gyda rhanddeiliaid a thimoedd eraill yn S4C i adnabod ffyrdd o wella ein harferion a’n gweithgareddau mewn perthynas â materion amgylcheddol a chynaladwyedd (sustainability).
Mae hon yn rôl newydd fydd yn llywio ymrwymiad S4C i adlewyrchu Cymru heddiw ac yn sicrhau fod S4C yn parhau i ddatblygu ei strategaeth a’i pholisïau i gyfrannu at ffyniant cymdeithasol Cymru ac yn ymateb i gyfleoedd a heriau arbennig. Bydd y rôl hon yn gofyn i chi weithio gyda thimoedd S4C yn gyffredinol a gyda'n rhanddeiliaid allweddol a'n partneriaid ledled Cymru. Bydd y swydd â chyfrifoldeb i weithredu fel bod y sector sgrin yn gynhwysol a chynrychioladol, yn sicrhau lles y sawl sy’n gweithio ynddo ac i sicrhau bod ein cynnwys yn cael ei greu gyda’r ôl-troed carbon isaf er mwyn gwarchod yr amgylchedd ar gyfer y dyfodol. Mae S4C ar gyfer pawb, a bydd y rôl hon yn gweithredu a gwireddu’r nôd hwn a chreu budd cymdeithasol gan adlewyrchu Cymru.
Mae’r gallu i gyfathrebu i safon dda yn Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol i’r rôl yma. Mae cefnogaeth ar gael i ddarparu cyrsiau gloywi iaith Gymraeg neu i fagu hyder os oes angen.
Manylion Eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 14 Chwefror 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
**Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth **
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae UCAC yn edrych am Swyddog Cyllid Dros Dro (rhan amser)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ail Hysbyseb - Mae UCAC yn chwilio am berson brwdfrydig a medrus i ymuno â'n tîm gweithgar. Prif waith y Swyddog Cyllid fydd arwain a bod yn gyfrifol am faterion cyllid yr undeb o ddydd i ddydd.
Disgrifiad:
Trosolwg o’r rôl
Mae’r Swyddog Cyllid yn gyfrifol am gynllunio, monitro a gweinyddu materion cyllid yr Undeb
Rheolwr Llinell: Ysgrifennydd Cyffredinol
Cyllid • Paratoi adroddiadau a rhagamcanion ariannol er mwyn caniatáu monitro a chynllunio ariannol effeithiol
• Mynychu cyfarfodydd mewnol perthnasol i gyflwyno gwybodaeth ac ateb cwestiynau ynghylch materion cyllid
• Paratoi adroddiadau a manylion ariannol ar gyfer yr Archwilwyr erbyn diwedd Ionawr yn flynyddol, a mynychu cyfarfodydd gyda’r Archwilwyr
• Codi anfonebau, derbynebau ac ymdrin â biliau perthnasol gan gynnwys costau teithio
• Gwirio, codio a chofnodi taliadau / symudiadau (transactions) ariannol yr undeb o ddydd i ddydd
• Prosesu a gwirio debyd uniongyrchol / Instruction Run
• Casglu taliadau aelodaeth trwy Debyd Uniongyrchol (BACS) yn fisol, prosesu negeseuon BACS (megis AUDDIS, ADDACS ac ARUDD)
• Talu cyflog a phensiwn staff ar ddiwedd bob mis trwy system BACS a’r meddalwedd perthnasol a chydweithio gyda chwmni allanol sy’n gweinyddu’r gyflogres i ddarparu gwybodaeth berthnasol
• Cynorthwyo’r Ysgrifennydd Cyffredinol i weinyddu trefniadau yswiriant UCAC trwy ddarparu manylion perthnasol
• Gwneud taliadau achlysurol yn seiliedig ar benderfyniadau’r Gymhorthfa / Cynllun Digolledi
• Talu honoraria yn flynyddol i’r Llywydd Cenedlaethol a’r Trysorydd Cenedlaethol
Cyflog
💰 £28,876 pro rata
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Uwch Newyddiadurwr Digidol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae S4C yn darparu gwasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na’r hyn sy’n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.
Dyma gyfle i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol.
Gyda bys ar byls newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.
Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o’r gyfraith yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â’r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.
Gyda sgiliau ieithyddol cryf bydd gennych y gallu i sicrhau safon a chywirdeb, a’r ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl i lefel uchel yn y Gymraeg a Saesneg gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a’r sgiliau i sicrhau cywirdeb ieithyddol y gwasanaeth yn hanfodol i’r rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, mae S4C yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Caernarfon.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 12 mis (cyfnod mamolaeth)
Oriau gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 18 awr yr wythnos. Mae eich y rôl yn rhan o dîm sydd yn cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 6 Chwefror at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Brentis Arwain Gweithgareddau Lefel 2 (Chwaraeon)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar ddiwedd blwyddyn ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau. Y Swydd
Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â’r Rheolwyr Prentisiaethau: lisawaters@urdd.org / ffionevans@urdd.org
I ymgeisio, anfonwch Ffurflen Gais Prentisiaethau’r Urdd ar e-bost at: prentisiaeth@urdd.org Dyddiad Cau: 28 Chwefror 2023
Cyflog
💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr
Lleoliad
📍 Gogledd Cymru
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych am Gynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.
- Y RÔL –
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth barhaus a chyfrannu tuag at amgylchedd gyfeillgar a chreadigol y Ganolfan. Bydd yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau er mwyn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y ganolfan ac ar-lein gan sicrhau trefniadaeth llyfn ac effeithiol. Elfen bwysig arall o’r rôl yw cefnogi rhaglen greadigol Yr Egin gan gynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i hyrwyddo digwyddiadau byw, cynadleddau, sinema a gweithdai, ynghyd â sicrhau defnydd effeithiol o feddalwedd swyddfa docynnau a phlatfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.
- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), bydd arnoch angen y canlynol:
- Addysg gyffredinol dda
- Tystiolaeth o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel
- Profiad o weinyddu trefniadau cyfarfodydd, cynadleddau neu ddigwyddiadau
- Profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon
- Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein
- Y gallu i gydlynu gweithgareddau’n effeithiol
- Medrusrwydd gyda phlatfformau arlein
- Yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau pan fo angen
- Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a gallu gweithredu ar hynny
- Dangos parch tuag at ystod amrywiol o bobl
- Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol*
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad digwyddiadau byw, theatr neu sinema
- Diddordeb brwd yn y diwydiannau creadigol.
- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith
Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023, 11:59pm
Cyflog
💰 £21,197 - £23,144
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae S4C yn edrych am Newyddiadurwr Digidol S4C
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa ehangach na’r rhai sy’n gwylio newyddion ar deledu, a hynny ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.
Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu’ gwasanaeth digidol a denu dilyniant.
Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Gyda sgiliau ieithyddol da byddwch yn ysgrifennu yn gywir ac yn ystwyth a bydd gennych y ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
Manylion eraill
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin. Mae S4C yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Caernarfon.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 6 Chwefror 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Cyflog
💰 Yn unol â phrofiad
Lleoliad
📍 Hybrid
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Gydlynydd Datblygu Sgiliau Academaidd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth eisiau penodi cydlynydd datblygu sgiliau academaidd ar sail cyfnod penodol, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau Gwasanaethau Gwybodaeth. Bydd y swydd hon yn cefnogi cydweithwyr yn y GG i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o hyfforddiant sgiliau digidol, llythrennedd gwybodaeth ac academaidd, gan ddarparu gwybodaeth ddwyieithog am sgiliau, deunyddiau ac adnoddau, gan gynnwys cymorth un i un yn ogystal â chreu deunyddiau dysgu ar-lein yn Gymraeg a Saesneg i gefnogi'r agenda datblygu sgiliau gan gynnwys creu gwefan sgiliau academaidd newydd.
Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Nia Ellis neu Elizabeth Kenslernrj@aber.ac.uk / eak@aber.ac.uk.
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
- Cysylltu â staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol i greu presenoldeb ar-lein hygyrch ar wefan PA i fyfyrwyr a staff gael gwybodaeth am wasanaethau digidol, gwybodaeth a sgiliau academaidd, hyfforddiant a chefnogaeth.
- Hyrwyddo gwasanaethau sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd, hyfforddiant a chymorth i randdeiliaid amrywiol trwy ddulliau gwahanol gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, gweithgareddau ymgysylltu, digwyddiadau a sgyrsiau yn Gymraeg a Saesneg.Gweithio gyda Chymorth Dysgu i Fyfyrwyr, y tiwtor Sgiliau Academaidd a'r Gwasanaethau Gwybodaeth i drefnu amserlen gwbl ddwyieithog o sesiynau hyfforddi ar gyfer israddedigion ac uwchraddedigion.
- Gweithio gyda myfyrwyr a staff academaidd i nodi gofynion hyfforddi sgiliau Cymraeg.
- Gweithio gyda chydweithwyr i gynhyrchu adnoddau Cymraeg ar gyfer sgiliau academaidd, sy'n cyfateb i adnoddau Saesneg ac fel adnoddau pwrpasol ar gyfer y rhai sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Canfod a churadu deunyddiau parod i ddarparu hyfforddiant ar-lein ar sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd.
- Gweithio gyda Gyrfaoedd, Gwasanaethau Gwybodaeth a staff academaidd ar sgiliau academaidd ar gyfer categorïau penodol o fyfyrwyr e.e. Uwchraddedigion, myfyrwyr nyrsio ac ati.
- Gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth i ddod â chymorth sgiliau ynghyd i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu deall a chael mynediad hawdd at y cyfleoedd sydd ar gael ac i osgoi dyblygu.
- Sicrhau dull cyson o ddarparu hyfforddiant.
- Datblygu, monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth hyfforddiant, gan gynhyrchu adroddiadau i ddangos perfformiad ac effaith, yn ôl y gofyn, a defnyddio hyn i wella a datblygu gwasanaethau.
- Cyfrannu at y gwaith o gynllunio a datblygu darpariaeth sgiliau academaidd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn y dyfodol drwy fod yn aelod o'r Grŵp Sgiliau.
- Cyflwyno hyfforddiant i fyfyrwyr ar sgiliau digidol, gwybodaeth ac academaidd.
- Gweithio gyda chydweithwyr yn y GG, yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg a chyda chydweithwyr academaidd er mwyn sicrhau gwasanaeth cyson i fyfyrwyr ar draws pob adran yn y brifysgol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymroddedig i’ch datblygiad eich hunan a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses ‘Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.
Cyflog
💰 £24,285 - £27,131 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Cydlynydd Corfforaethol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Corfforaethol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Corfforaethol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i gynorthwyo timoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol, ynghyd â gweinyddu trefniadau cyfarfodydd y Bwrdd Rheoli a’r Cyngor, a rheoli swyddfa’r Eisteddfod yng Nghaerdydd, gan ateb y ffôn, ymateb i ymholiadau a chroesawu ymwelwyr i’r swyddfa, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Cynnig gwasanaeth cefnogol effeithiol i dimoedd y Prif Weithredwr, Cyllid a Strategol.
- Gweinyddu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor a’r Bwrdd gan gynnwys anghenion teithio a llety fel bo angen.
- Ymateb fel bo’n briodol i e-byst cyffredinol gwyb@eisteddfod.cymru, i ymwelwyr i’r swyddfa, a galwadau ffôn allanol.
- Rheoli’r swyddfa o ddydd i ddydd gan gynnwys ateb y ffôn, ymdrin â’r post ac e-byst, croesawu ymwelwyr a dyletswyddau clerigol eraill gan gynnwys goruchwylio’r cyflenwad offer swyddfa, llungopïo a sganio.
- Cyfrifoldeb dros restr llety staff a gwirfoddolwyr blynyddol.
- Cyd-lynu’r trefniadau ar gyfer byrbryd noddwyr blynyddol yr Eisteddfod yn ystod yr ŵyl.
- Sicrhau bod cyfleusterau/lluniaeth yn eu lle, boed hynny yn y swyddfa neu mewn canolfannau eraill.
- Trefnu a chynnal ffeiliau electroneg ar gyfer prosiectau penodol.
- Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd amrywiol.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at swyddi@eisteddfod.cymru. Mae croeso i chi gysylltu â betsan@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £23,000 - £24,411
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Gydlynydd Artistig
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Gydlynydd Artistig i ymuno â'r tîm.
Cyfle i gynorthwyo Adran Artistig yr Eisteddfod, gan gynnig cefnogaeth weinyddol, paratoi contractau, gwybodaeth i’w gyhoeddi yn y Rhaglen a’r platfformau digidol, a rheoli gweinyddiaeth prosiectau arbennig fel Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chynorthwyo gyda’r elfen gystadlu drwy gydol y flwyddyn, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Artistig, y Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig a’r Rheolwr Cystadlu.
- Gweinyddu cytundebau artistiaid, beirniaid a chyfeilyddion.
- Trefnu bywgraffiadau a lluniau’r artistiaid a chystadleuwyr buddugol.
- Trefnu a gweinyddu cyfarfodydd pwyllgorau gwaith a phanelau lleol a chanolog.
- Gweinyddu amserlen Cymdeithasau gan gydlynu trefniadau a gwybodaeth gyda sefydliadau perthnasol a pharatoi’r cynnwys ar gyfer y Rhaglen a phlatfformau amrywiol yr Eisteddfod.
- Cynorthwyo i gysylltu gydag artistiaid a chystadleuwyr yn ystod yr ŵyl, gan gyd-gordio rhwng cystadleuwyr, beirniaid a stiwardiaid; gweinyddu beirniadaethau a rhagbrofion.
- Gweinyddu'r broses o ddewis Cyflwynwyr yr Orsedd a’r ddawns flodau a gweinyddu ceisiadau i’r Panel Urddau.
- Cynnal a diweddaru bas-data o gystadleuwyr, beirniaid a rhanddeiliaid.
- Gweinyddu prosiectau arbennig, e.e. côr yr Eisteddfod a’r côr plant.
- Trefnu a chofnodi cyfarfodydd y tîm artistig.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £23,000 - £24,411. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 3 Chwefror 2023
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at swyddi@eisteddfod.cymru. Mae croeso i chi gysylltu â elen@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £23,000 - £24,411
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Technegol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Technegol i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar drafodaethau cytundebol, paratoi’r cynlluniau a’r polisïau ar gyfer adeiladu a dymchwel y Maes, ynghyd â chynllunio’r Maes a’i adnoddau, iechyd a diogelwch, y cynllun trafnidiaeth, rheoli contractwyr ar y Maes, cynaliadwyedd a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Arwain, cynghori a chynrychioli’r Eisteddfod yn weithredol mewn trafodaethau, gan gynnwys trafodaethau cytundebol, gyda rhanddeiliaid a phartneriaid perthnasol allanol gan sicrhau fod yr holl brosesau cyfreithiol a chydymffurfiaeth perthnasol yn cael eu dilyn. Hyn yn cynnwys asiantaethau allanol megis y BBC a chwmnïau darlledu eraill.
- Arwain trafodaethau a chynghori rhanddeiliaid perthnasol er mwyn paratoi dogfennau cynllunio a pholisïau e.e. cynlluniau trafnidiaeth, polisi llygredd, cynlluniau argyfwng ayyb.
- Paratoi a chyflwyno ceisiadau am y trwyddedau angenrheidiol.
Cynhyrchu, rheoli, a diwygio’r Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau (CRhA) fel bo’r angen.
- Paratoi dogfennau cydymffurfiaeth gan rannu gwybodaeth perthnasol gyda chyd-weithwyr.
- Paratoi, a rheoli’r broses o sicrhau cytundebau ffafriol gyda’r holl gwmnïau sy’n darparu adnoddau technegol i’r Eisteddfod.
- Paratoi ac arwain ar adolygu cynlluniau holl feysydd yr ŵyl gan sicrhau gwasanaethau addas priodol.
- Rheoli iechyd a diogelwch yr ŵyl gan gynnwys cydymffurfiaeth gyda rheolau CDM.
- Rheoli cynllun trafnidiaeth yr ŵyl.
- Paratoi, adolygu a rheoli amserlen paratoi a dymchwel y Maes.
- Sicrhau bod yr holl drefniadau technegol yn gweithredu’n llyfn ac yn effeithiol yn ystod yr ŵyl.
- Paratoi cynllun ac arolygu’r drefn stiwardio.
- Rheoli contractwyr ar y maes fel bo’n berthnasol e.e. timau diogelwch, glanhau, ayyb.
- Rheoli prosiectau cynllunio a gweithredu holl feysydd yr ŵyl gan gynnwys materion cytundebol, staffio, hyfforddi, rhanddeiliaid, cwsmeriaid a chyllidebau.
- Arwain ar Gynlluniau Cynaliadwyedd y corff.
- Goruchwylio Amserlenni Cynhyrchu Digwyddiadau.
- Rheoli a datblygu staff y storfa.
- Cydgordio a goruchwylio’r cyfundrefnau amrywiol ar Faes yr Eisteddfod e.e. hygyrchedd, rheoli cerbydau.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £41,800 - £44,365. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at swyddi@eisteddfod.cymru. Mae croeso i chi gysylltu â betsan@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £41,800 - £44,365
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cystadlu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Cystadlu i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Arwain ar gynllun hyrwyddo’r cystadlu gan gydweithio gydag ystod o rhanddeiliaid e.e. prifysgolion, grwpiau ieuenctid, i ddenu cystadleuwyr newydd mewn cydweithrediad gyda’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.
- Paratoi cynnwys, prawf ddarllen a threfnu’r Rhestr Testunau a’r elfen gystadlu ar gyfer y Rhaglen.
- Gweinyddu cytundebau’r beirniaid, y cyfeilyddion a’r cystadleuwyr.
- Creu, cynnal a diweddaru system gystadlu, beirniaid a rhanddeiliaid.
- Gweinyddu'r cystadlaethau cyfansoddi a chydweithio gyda’r Cyfarwyddwr Artistig i baratoi'r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.
- Gweinyddu'r cystadlaethau llwyfan a gohebu gyda chystadleuwyr, arweinyddion, beirniaid, cyfeilyddion, clercod rhagbrofion ayyb yn unigol ar faterion sy’n ymwneud ag amserlenni, testunau cystadlu, mynediad a thocynnau bwyd, beirniadaethau ayyb fel bo’n briodol.
- Gweinyddu a chynghori’r Panelau Canolog a’r Pwyllgor Diwylliannol.
- Gweinyddu amserlenni cystadlaethau a threfnu amser ymarferiadau.
- Rheoli’r llyfrgell gerdd ac arwain ar ddigideiddio’r cynnwys.
- Gweinyddu’r broses sy’n ymwneud â darnau prawf a hunan ddewisiad, gan gynnwys prynu a chofnodi, ffeilio, cyfieithiadau, cyd-gysylltu gyda golygyddion, trwyddedu, hawlfraint, gosod geiriau, paratoi gwybodaeth i gystadleuwyr a chynorthwyo gyda phecynnau i’r beirniaid.
- Paratoi cylchlythyrau ar gyfer cystadleuwyr yn rhannu dyddiadau pwysig a chyfleoedd posibl mewn cydweithrediad gyda’r -Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.
- Goruchwylio elfen gystadlu Y Lle Celf gan gydweithio gyda’r swyddogion celf.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at swyddi@eisteddfod.cymru. Mae croeso i chi gysylltu â elen@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £34,250 - £36,352
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol
Grŵp Deddf, Mentrau Iaith a Llywodraeth Cymru
Mae Grŵp Deddf, Mentrau Iaith a Llywodraeth Cymru yn edrych am Bencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Grŵp Deddf am benodi Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth o addysg cyfrwng Cymraeg ar draws rhanbarth De-Ddwyrain Cymru i amrywiaeth o gynulleidfaoedd (rhieni, disgyblion, cynghorwyr ac eraill), er mwyn rhannu newyddion a gwybodaeth dros y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau confensiynol am faterion cysylltiedig (megis ymgynghori ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, dosbarthiadau oedolion, digwyddiadau cymunedol ac ati) a darparu adroddiadau chwarterol ar weithgareddau, a fydd yn cael eu dosbarthu i'r sefydliadau partner.
Bydd yr adroddiadau hyn hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi a monitro cynnydd yr awdurdodau lleol partner yn erbyn targedau perthnasol y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAu) a’r Strategaethau Cymraeg 5 mlynedd.
Bydd y swydd wedi'i lleoli o fewn Menter Caerffili at ddibenion llywodraethu, rheoli perfformiad uniongyrchol, gofod swyddfa, cyflogres ac ati. Yn weithredol, bydd y swydd yn cael ei chynnal drwy gyfuniad o waith swyddfa a gweithio gartref, gyda rhai cyfarfodydd ar draws y rhanbarth drwy Zoom/Teams neu wyneb yn wyneb.
Mae nifer o brosiectau ymchwil ac adnoddau eisoes ar y gweill, i ddarparu offer parod i'r ymgeisydd llwyddiannus er mwyn iddynt ymgymryd â'r rôl. Byddant hefyd yn cael cefnogaeth a phrofiad y swyddogion cyswllt o bob un o'r sefydliadau partner.
Mae'r swydd yn cael ei hariannu i ddechrau tan 31.03.24 gyda'r posibilrwydd o ymestyn y rôl, ac mae'r partneriaid yn agored i ystyried secondiad i'r rôl yn ogystal ag apwyntiad ffurfiol.
Mae manylion llawn y rôl i'w gweld yn y ddogfen Disgrifiad Swydd atodol.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i Lowri Jones, Prif Swyddog Menter Caerffili, dros e-bost:
lowrijones@mentercaerffili.cymru
Neu drwy'r post: Lowri Jones (parthed: Rôl y Pencampwr Hyrwyddo), Menter Caerffili, Ystafell 1, Parc St Margaret, Pengam Road, Aberbargod, CF81 9FW.
Rhaid i geisiadau ddod i law erbyn 5:00pm ddydd Gwener 10fed Chwefror 2023.
Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio’r wythnos ganlynol a hysbysir yr ymgeiswyr cyn gynted â phosibl wedi hynny. Cynhelir y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 27ain Chwefror 2023. Cynhelir cyfweliadau ar-lein oherwydd yr amrywiaeth o bartneriaid dan sylw a rhoddir y manylion i ymgeiswyr pan gânt eu gwahodd i gyfweliad. Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol neu benodol ar gyfer y cyfweliad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Cyflog
💰 £44,624 pro rata
Lleoliad
📍 Caerffili
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'r tîm.
Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.
Prif Ddyletswyddau - Llunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu a marchnata’r Eisteddfod yn ganolog ac ar gyfer pob Eisteddfod unigol.
- Rheoli, hybu a pharatoi arweinyddiaeth greadigol gan ddatblygu adnoddau a systemau i hybu gweithgareddau, a monitro, datblygu a chodi proffil yr Eisteddfod yn y wasg a’r cyfryngau.
- Comisiynu a rheoli ymchwil yn ôl yr angen a chreu, coladu a llunio arolygon er mwyn paratoi gwybodaeth ystadegol i hysbysu penderfyniadau’r Tîm Rheoli a’r Bwrdd.
- Rheoli prosesau ymgyrchoedd hysbysebu’r Eisteddfod ynghyd â hybu ac amddiffyn y brand a’r ddelwedd gorfforaethol drwy reoli enw da'r Eisteddfod yn gyhoeddus.
- Monitro ffynonellau gwybodaeth a gynhyrchir gan sefydliadau allanol perthnasol a chynghori'r Tîm Rheoli a’r Bwrdd ar ymateb corfforaethol.
- Cyfathrebu gwybodaeth gorfforaethol berthnasol yn rheolaidd i gyd-weithwyr.
- Arwain ar greu a chyhoeddi llenyddiaeth swyddogol yr Eisteddfod mewn print ac ar-lein.
- Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod.
- Cynllunio a gweithredu anghenion cyhoeddusrwydd noddwyr.
- Rheoli, datblygu a diweddaru gwefan a phlatfformau digidol yr Eisteddfod, gan gynnwys paratoi a golygu clipiau fideo drwy gydol y flwyddyn.
- Paratoi cylchlythyrau electronig ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol, a chadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr a chwsmeriaid.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at swyddi@eisteddfod.cymru. Mae croeso i chi gysylltu â gwenllian@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £34,250 - £36,352
Lleoliad
📍 Caerdydd, Llanybydder, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Darwin Gray yn edrych am Gyfreithiwr Cyfraith Cyflogaeth
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfle gwych i gyfreithiwr ymuno â thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray; tîm a enillodd gwobr Tîm Cyfraith Cyflogaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfreithiol Cymru 2022. Cyfle i gefnogi'r criw profiadol o gyfreithwyr cyflogaeth sydd eisioes yn rhan o'r tîm.
Lleoliad: Dewis o Swyddfa Caerdydd (9 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HA) NEU Swyddfa Bangor (Unit F12, InTec, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FG) gyda pheth gweithio o adref os y dymunir.
Oriau: 37.5 awr yr wythnos. Dydd Llun – Gwener, 9.00yb – 5.30yh gyda 1 awr i ginio, ond yn gorffen am 4yh ar ddydd Gwener.
Cyflog: £i’w gadarnhau yn ddibynnol ar brofiad.
Buddion: 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal â’r gwyliau banc statudol / Yswiriant meddygol preifat / 3% cyfraniad pensiwn / Yswiriant marwolaeth mewn gwasanaeth.
Pwrpas y Rôl: I weithio gyda thîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray ac i ddarparu cefnogaeth effeithiol i’r tîm pan ddaw i gynghori cleientiaid ar faterion cyfraith cyflogaeth.
Tasgiau allweddol: I ddarparu cefnogaeth i’r tîm cyfraith cyflogaeth ar y materion canlynol:
· Achosion Tribiwnlys Cyflogaeth;
· Materion disgyblu a chwyno;
· Anffafriaeth;
· Diswyddiadau, diswyddo gorfodol ac ailstrwythuro;
· Cytundebau cyflogaeth a llawlyfrau staff;
· Cytundebau hunan-gyflogedig;
· Cytundebau setliad;
· Trosglwyddiadau TUPE;
· Helpu gyda hyfforddi cleientiaid;
· Materion cyflogaeth ynghlwm â phrynu a gwerthu busnesau;
· Chwythu’r chiban; a
· Archwiliadau yn y gweithle.
Gallu technegol:
Hanfodol_: _
· O gwmpas 2 flynedd o gyflogaeth ôl-gymhwyso mewn cyfraith cyflogaeth
· Gallu technegol ardderchog
· Gallu i ddefnyddio MS Word ac Outlook
Dymunol_: _
· Profiad o ddefnyddio basdata rheoli achosion Manyleb:
· Gallu cyfathrebu cryf. Cymraeg yn ddymunol
· Yn gweithio'n gyson i lefel uchel o gywirdeb a manylder
· Gallu gweithio'n annibynnol ond hefyd fel rhan o dîm ar brosiectau mwy
· Gallu defnyddio menter ei hun
· Yn drefnus ac yn medru gweithio o dan bwysau
· Yn cwblhau tasgau
· Yn hyblyg ac yn barod i helpu aelodau eraill o’r tîm fel sydd angen Cysylltwch â Owen John (ojohn@darwingray.com / 02920 829 118) i gyflwyno cais neu am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad
📍 Caerdydd, Bangor, O gartref
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych am Reolwr Cyflogres a Buddion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Bydd y Rheolwr Cyflogres a Buddion yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni swyddogaeth cyflogres y gwasanaethau Adnoddau Dynol i’w holl gwsmeriaid. Byddwch yn gyfrifol am berfformiad y gwasanaeth cyflogres a sut mae’n cael ei redeg, byddwch yn sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cyd-fynd â gofynion statudol a deddfwriaethol, a byddwch yn rheoli'r tîm Cyflogres a Phensiynau, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tri aelod arall. Deiliad y swydd sy'n gyfrifol am dalu dros 2000 o weithwyr a phensiynwyr bob mis, ac am gydlynu â’r Adran Adnoddau Dynol ac adrannau eraill yn y Brifysgol. Byddwch yn gyfrifol am weinyddu Cynllun Pensiynau’r Prifysgolion (USS) Chynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth (AUPP).
I wneud ymholiad anffurfiol, cysylltwch â Sharon Lilley, Pennaeth y Gwasanaethau Adnoddau Dynol shl27@aber.ac.uk.
Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos ar ôl y dyddiad cau.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill.
**Y Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau **
- Arwain a rheoli'r gyflogres i sicrhau ei bod yn cael ei rhedeg yn effeithiol, yn gywir ac yn amserol, lle gwneir cyn lleied o gamgymeriadau a gordaliadau â phosib.
- Sicrhau bod gwasanaeth cyflogres proffesiynol yn cael ei ddarparu sy'n diwallu anghenion cwsmeriaid ac sy’n gost effeithiol, a berchir gan gwsmeriaid ac un sy’n arddel yr arferion gorau.
- Arwain tîm y gyflogres gan roi cyfarwyddyd, rheoli perfformiad a darparu cymorth priodol.
- Mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i ffyrdd o wella prosesau a sicrhau effeithlonrwydd gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu systemau, yn ôl y gofyn.
- Cynllunio a monitro llwyth gwaith y tîm a sut mae’r gwaith yn cael ei ddyrannu, gan sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi a'u datblygu er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac yn effeithlon a darparu gwasanaeth sy'n rhoi cwsmeriaid yn y canol.
- Sicrhau bod sianeli cyfathrebu effeithiol ar waith yn y tîm a chyda'r Brifysgol yn gyffredinol wrth ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r gyflogres a phensiynau.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â phartneriaid, sefydliadau allanol a chyrff.
- Datblygu a phrofi cynlluniau parhad busnes ac adfer yn sgil trychinebau, yn ogystal â gweithdrefnau cam wrth gam.
- Dehongli a throsglwyddo gwybodaeth gymhleth ac arbenigol i, ymhlith eraill, bobl nad ydynt yn arbenigwyr.
- Sicrhau y cydymffurfir â holl ofynion statudol y Cynllun Talu Wrth Ennill a chynlluniau pensiwn, a sicrhau bod adroddiadau gofynnol yn cael eu creu sy’n gywir ac yn amserol, megis Gwybodaeth Amser Real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a ffurflenni cynlluniau pensiwn.
- Datblygu a gweithredu polisi a gweithdrefnau ledled y Brifysgol sy'n gysylltiedig â'r gyflogres a phensiynau, cydlynu ag uwch reolwyr, archwilwyr ac adrannau eraill lle bo hynny'n briodol.
- Cynghori'r Brifysgol ar faterion 'statws cyflogaeth' yn unol â gofynion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
- Paratoi ar gyfer archwiliadau a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn modd amserol.
- Cysylltu â darparwyr Budd-daliadau/Pensiwn y Brifysgol ar faterion pensiwn a buddion gweithwyr, a rhannu gwybodaeth â rheolwyr a staff yn y Brifysgol. Cynorthwyo Gweithrediaeth ac Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol pan fo staff yn ymddeol yn gynnar, megis mewn achosion diswyddo ac afiechyd, a rhoi cyngor ar y goblygiadau o ran pensiynau.
- Datblygu fframweithiau fel y gellir rhannu gwybodaeth am bensiynau a budd-daliadau yn effeithiol i holl staff y Brifysgol trwy ddulliau amrywiol.
- Sicrhau bod gan y tîm ganllaw cam wrth gam sydd wedi’i brofi ac sy'n galluogi'r Brifysgol i weithredu’r gyflogres mewn sefyllfaoedd argyfyngus pan fo staff yn absennol.
- Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gweithgareddau adolygu perfformiad a gweithgareddau datblygu.
- Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol ac ariannol perthnasol, a dylai wybod beth yw ei gyfrifoldebau yng nghyswllt gofynion cyfreithiol ei swydd.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
- Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd.
- Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff drwy ddefnyddio trefn Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill o fewn i raddfa'r swydd.
Cyflog
💰 £43,414 - £51,805
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Menter Iaith Casnewydd yn edrych am Uwch Weithiwr Chwarae
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn chwilio am Uwch-Weithiwr Chwarae i weithio yn ei Clybiau Sbort a Sbri.
Pwrpas y swydd:
• Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol
• Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc
• Goruchwylio systemau rheoli budd risg sy’n effeithiol
• Sicrhau cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
**Prif ddyletswyddau **
• Sicrhau’r ddarpariaeth o amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle gall y plant chwarae’n rhydd yn ôl yr hyn a ddarperir.
• Cydlynu a sicrhau y cesglir y plant o'r ysgol/ion.
• Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, paratoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn ateb eu hanghenion chwarae unigol.
• Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest gyda phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.
• Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal, a lle bo’n briodol yn cynnwys ymgymryd ag asesiadau risg: budd ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.
• Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amryw o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r dealltwriaeth o hawl plant i chwarae.
• Dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau ar Ddiogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod sy’n cofrestru.
• Sicrhau bod staff yn dilyn, ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’u hadolygu.
• Sicrhau y goruchwylir y plant a’r bobl ifanc yn briodol drwy gydol y sesiynau.
• Gweinyddu Cymorth Cyntaf fel y bo’n gymwys.
• Sicrhau y cesglir y plant a’r bobl ifanc gan rieni/gofalwyr yn gweithio o fewn y canllawiau polisi.
• Sicrhau y darperir ystod o opsiynau bwyd a diod yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.
• Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.
Mae Menter Iaith Casnewydd yn gwmni cymunedol dielw sydd â’r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg gan blant ac oedolion Casnewydd ac i alluogi pobl Casnewydd i fyw a gweithio yn y Gymraeg.
Mae Menter Iaith Casnewydd wedi ymrwymo i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal ac yn cydnabod manteision denu, cadw ac ysgogi gweithlu amrywiol a chynrychioliadol. Cysylltwch gyda post@mentercasnewydd.cymru am fanylion pellach
Cyflog
💰 £21,000 pro rata
Lleoliad
📍 Casnewydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!