Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Cynhyrchu Cwmni

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 £35k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Reolwr Cynhyrchu Cwmni

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu Cwmni profiadol i ymuno â’r tîm.

Os oes gennych chi brofiad proffesiynol mewn cynhyrchu theatr, rheoli llwyfan neu reoli technegol a’r gallu i arwain tîm ac ysgogi eraill, efallai dyma’r rôl i chi. 

Mae swydd y Rheolwr Cynhyrchu Cwmni yn un newydd i’r Adran Gynhyrchu, ac wedi ei chreu er mwyn cefnogi’r Pennaeth Cynhyrchu gyda chyfrifoldebau gweithredol yr adran ac i sicrhau fod cynyrchiadau’r cwmni o safon cynhyrchu uchel. Bydd y person yn y swydd hon yn arwain ar yr ochr gynhyrchu o’n cynyrchiadau yn ystod cyfnodau ymarfer a chyfnod perfformio, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau eraill y cwmni. Ry’n ni hefyd yn recriwtio Pennaeth Cynhyrchu newydd ar hyn o bryd, felly mae’n gyfnod cyffrous i’r Adran Gynhyrchu.  

Dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, mae rhaglen o weithgareddau ar waith ar gyfer 2023 a thu hwnt, sy’n cynnwys cynyrchiadau, cyfleoedd i ymgyfranogi a datblygu sgiliau, a llawer mwy, gyda’r nod o geisio ehangu ein cyrhaeddiad ac ymestyn ein cynulleidfaoedd. Mae hefyd pwyslais cynyddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ein gwaith, ar leihau effaith ein gweithgaredd ar yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, ac ar am ofalu am les ein gweithwyr ac artistiaid. Mae’n bwysig fod y person yn y swydd hon yn gweld pwysigrwydd yr holl agweddau hyn o’n gwaith ac yn rhannu gwerthoedd y cwmni. 

Mae pencadlys y cwmni yng Nghaerfyrddin, ond ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys trefniant gweithio hybrid sy’n golygu cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio o gartref. 

Am fwy o wybodaeth am y swydd, y cwmni a sut i ymgeisio, ewch i'n gwefan a darllenwch y pecyn recriwtio. 

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag ymgeisio - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554. 

Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 30 Ionawr 2023

Cyflog

💰 £35,000

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cadwyn Clwyd

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

Cadwyn Clwyd

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

Cadwyn Clwyd

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

Ynni Llŷn

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

Ynni Llŷn

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

Ynni Llŷn

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

Adran Gwaith a Phensiynau

💰 £30k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

Partneriaeth

💰 Soulbury 27-30 + 3 SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k 📍 Sir Benfro Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £32k - £39k 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Hyblyg Ar gau

Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

💰 £36k - £42k 📍 Ceredigion Ar gau

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Arolygiaeth Gofal Cymru

💰 £53k - £64k 📍 Cyffordd Llandudno📍 Merthyr +2 Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerdydd Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £35k 📍 Caerdydd Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg +1 Ar gau

Delwedd Ltd

💰 £20k - £24k 📍 Caernarfon Ar gau

Delwedd Ltd

💰 £20k - £22k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Amrywiol Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau