Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Di-sgript (Unscripted)

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae S4C yn edrych am Bennaeth Di-sgript (Unscripted)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Fel un o dîm Cynnwys byddwch yn cydweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cynnwys aml-lwyfan ar gyfer S4C.

Byddwch yn cyflwyno a chomisiynu ystod eang o gynnwys amrywiol ac arloesol gan gyflenwyr. Yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â'r weledigaeth ar gyfer S4C.

Byddwch yn ddolen gyswllt allweddol ac adeiladol gyda'r sector gynhyrchu annibynnol drwy gydweithio, creu a meithrin syniadau ar y cyd er mwyn adnabod a meithrin cynnwys o'r safon uchaf.

Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan yr Egin, Caerfyrddin

Mae S4C yn gweithredu polisi Hybrid

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: 3 mlynedd

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mawrth 20 Medi 2022 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg

Cyflog

💰 Yn unol â phrofiad

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Mudiad Meithrin

💰 £19k pro rata 📍 Gweithio o Adref Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £26k - £29k 📍 Hyblyg Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £29k - £32k 📍 Hyblyg Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £25k - £29k 📍 Aberystwyth Ar gau

Adra

💰 £36k - £39k 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Senedd Cymru

💰 £23k - £34k pro rata 📍 Caerfyrddin Ar gau

Coleg Gŵyr Abertawe

💰 £9.90 - £10.97 yr awr 📍 Abertawe Ar gau

CCW

💰 £45k 📍 Caerdydd📍 Birmingham +2 Ar gau

CCW

💰 £22k 📍 Caerdydd📍 Birmingham Ar gau

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Bangor Ar gau

Dyfodol i'r Iaith

💰 £28k - £33k pro rata 📍 Talybont Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Tinopolis

💰 Yn ôl profiad 📍 Llanelli Ar gau

Coleg y Cymoedd

💰 £23k - £24k 📍 Nantgarw Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £9k - £18k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £25k - £28k 📍 Gwynedd Ar gau

Cyfatebol

💰 Yn ôl profiad Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £23k - £26k 📍 Bangor Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 De Ddwyrain Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £21k - £24k pro rata 📍 Bodelwyddan Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £21k - £24k pro rata 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £70k - £81k 📍 Bangor Ar gau