Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Cyfathrebu

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

Mae Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Cyfathrebu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol, brwd a chydwybodol i weithio o fewn adran farchnata a chyfathrebu fyrlymus a phrysur i hyrwyddo gwaith ac amcanion Mudiad Meithrin. Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol sy’n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a phrofiad gwerthfawr ym maes y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gan y person a gaiff ei benodi wybodaeth a phrofiad o farchnata gan gynnwys y dulliau cyfathrebu diweddaraf ynghyd â sgiliau rhyngbersonol da. Ry’n ni’n disgwyl i’r person a gaiff ei benodi fod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg gan feddu ar ddawn greadigol a dull rhagweithiol, hyblyg at bob agwedd o’r gwaith i greu cynnwys digidol deniadol. Mae’r gallu i weithio’n yn annibynnol ac fel rhan o dîm yn hanfodol ynghyd â’r gallu i chwilio am gyfleoedd creadigol i hyrwyddo amcanion y Mudiad.

Disgrifiad:

Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:   · Cynorthwyo i lunio a dosbarthu datganiadau i’r wasg gan gydlynu a delio gyda chyfleoedd am gyfweliadau â’r cyfryngau i sicrhau sylw teilwng i waith Mudiad Meithrin   · Monitro a dadansoddi’r holl weithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol a’r straeon i’r wasg a’u heffeithlonrwydd

· Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu penodol y Mudiad mewn modd blaengar, creadigol a chyfoes   · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol Mudiad Meithrin yn ddyddiol (trwy trydar, facebook ac instagram yn bennaf) gan lunio cynnwys cywir, amrywiol, deniadol sy’n ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid   · Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru gwefan Mudiad Meithrin, gan gymryd cyfrifoldeb am sicrhau fod cynnwys yr adran newyddion a chyfathrebu yn amrywiol, deniadol ac yn gywir o ran cynnwys a chywirdeb iaith   · Cynorthwyo i greu cynnwys, cydlynu dylunio amrywiol ddogfennau, taflenni, posteri a deunydd hyrwyddo a marchnata i wahanol ymgyrchoedd ac adrannau o’r Mudiad   · Cyfrannu fel aelod o’r tîm marchnata a chyfathrebu at holl waith yr adran gan ddangos y gallu i fod yn hyblyg i ymgymryd â gwahanol dasgau yn ôl y gofyn a derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin   · Cynorthwyo gyda threfniadau a mynychu digwyddiadau cenedlaethol a thaleithiol e.e. Eisteddfodau a sioeau cenedlaethol, Taith Gŵyl Dewin a Doti, Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin, cynadleddau, lansiadau a digwyddiadau perthnasol i waith y Mudiad   · Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw sy’n berthnasol i waith Mudiad Meithrin   · Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £21,453 - £25,017

Lleoliad

📍 Aberystwyth

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cadwyn Clwyd

💰 £29k - £34k 📍 Corwen Ar gau

Cadwyn Clwyd

💰 £22k - £26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

Cadwyn Clwyd

💰 £22k - 26k 📍 Corwen📍 Gweithio o Adref Ar gau

Ynni Llŷn

💰 £25k - £30k 📍 Botwnnog Ar gau

Ynni Llŷn

💰 £35k - £45k 📍 Botwnnog Ar gau

Ynni Llŷn

💰 £21k 📍 Botwnnog Ar gau

Adran Gwaith a Phensiynau

💰 £30k 📍 Y Fenni📍 Abertyleri +23 Ar gau

Partneriaeth

💰 Soulbury 27-30 + 3 SPA 📍 Caerfyrddin Ar gau

S4C

💰 Cystadleuol 📍 Caerfyrddin📍 Caernarfon +1 Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k 📍 Sir Benfro Ar gau

Comisiynydd y Gymraeg

💰 £32k - £39k 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32k - £36k 📍 Hyblyg Ar gau

Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth

💰 £36k - £42k 📍 Ceredigion Ar gau

Menter a Busnes

💰 £21k - £22k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd📍 Hybrid Ar gau

Arolygiaeth Gofal Cymru

💰 £53k - £64k 📍 Cyffordd Llandudno📍 Merthyr +2 Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerdydd Ar gau

Amgueddfa Cymru

💰 £35k 📍 Caerdydd Ar gau

Grŵp Ymgynghori Lafan

💰 £36k - £40k 📍 Caerdydd📍 Hyblyg +1 Ar gau

Delwedd Ltd

💰 £20k - £24k 📍 Caernarfon Ar gau

Delwedd Ltd

💰 £20k - £22k 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Amrywiol Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 Isafswm cyflog 📍 Caernarfon Ar gau