Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymddiriedolwr (x 2)

Amgueddfa Cymru

💰 Costau yn unig 📍 Hyblyg Ar gau

Mae Amgueddfa Cymru yn edrych am Ymddiriedolwr (x 2)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am ddau unigolyn sy’n frwd dros ddiwylliant a threftadaeth Cymru, ac fydd yn dod â gwell amrywiaeth a chynrychiolaeth i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr. A allai hyn fod yn chi?

Bydd ein hymgeiswyr delfrydol:   • efo profiad byw a/neu proffesiynol o amrywiaeth ac anghydraddoldeb;

• yn gallu gweithio gyda ni i sicrhau bod ein gwaith yn cefnogi llesiant cymunedau amrywiol ledled Cymru yn gadarnhaol;

• yn cryfhau cynrychiolaeth ranbarthol ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr;

•yn gallu dangos eu hymrwymiad i ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio.

Rolau gwirfoddol yw'r rhain, ond ad-delir holl gostau rhesymol. Darperir hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant priodol, gyda chymorth mentora ar gael i ymgeiswyr llai profiadol.   Mae’r fanyleb person lawn a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys ym mhecyn gwybodaeth yr ymgeisydd.   Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rolau hyn, cysylltwch â Nicola Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru Nicola.Guy@llyw.cymru neu Catrin Hughes, Pennaeth Noddi, Is-adran Diwylliant, Llywodraeth Cymru, Catrin.Hughes@llyw.cymru   Ymrwymiad: Ymrwymiad ar gyfartaledd o 12 diwrnod y flwyddyn am dymor o 4 blynedd yn y swydd.

Gofyniad Iaith Gymraeg: Rhaid i’r ymgeiswyr ddangos eu hymrwymiad clir i waith Amgueddfa Cymru mewn Cymru ddwyieithog. Gan ystyried cydbwysedd ieithyddol presennol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer un o’r rolau hyn.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i integreiddio i bob agwedd ar eu busnes gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp a sicrheir na chaiff unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus ei drin yn llai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, beichiogrwydd neu famolaeth.

Rydym yn gwarantu cyfweld unrhyw un anabl lle mae eu cais yn bodloni isafswm meini prawf y swydd. Wrth ‘feini prawf gofynnol’ rydym yn golygu bod yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni yn eich cais sy’n dangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl ac unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a ddiffinnir yn hanfodol.

Os hoffech gael cyfweliad gwarantedig, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12:00 18 Gorffennaf 2022. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. 

Byddwch yn cael eich hysbysu a ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad ai peidio o leiaf bythefnos cyn cynnal y cyfweliadau.   I gael fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon, ffoniwch 02920 825454mailto:publicappointments@gov.wales

Cyflog

💰 Costau teithio a chynhaliaeth

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cylch Meithrin Bodhyfryd

💰 £12.71 yr awr 📍 Wrecsam
Cais

Cylch Meithrin Ty Mair

💰 Yn ôl profiad 📍 Sir y Fflint Ar gau

Ysgol Llwyn yr Eos

💰 £13.71 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Ty Mair

💰 Yn ôl profiad 📍 Sir y Fflint Ar gau

Meithrin Ty Mabon (Tywyn)

💰 £15.25 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Clwb Plant Segontiwm

💰 £13.77 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Cylch Meithrin Evan James

💰 £13.69 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Evan James

💰 £17.05 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32k - £35k 📍 Hyblyg (unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd) Ar gau

Cylch Meithrin Dolbadarn

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd Ar gau

Meithrinfa Camau Bach

💰 £12.71 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £26k 📍 Glan-llyn
Cais

Cylch Meithrin Penrhyndeudraeth

💰 £12.71 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Cylch Meithrin Pen-y-Garth

💰 £13.50 yr awr 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Cylch Meithrin Dyffryn Aeron

💰 £13 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £25k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Parc Y Bont

💰 I'w gadarnhau 📍 Sir Fôn Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £100 y cyfarfod 📍 Ar draws Cymru Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £13.11 yr awr 📍 Aberystwyth Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £26k - £29k 📍 Gwersyll Caerdydd / Glantaf Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £41k pro rata 📍 Ar draws Cymru Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd Ar gau

Ysgol Gyfun Aberaeron

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau