Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £42k - £46k pro rata 📍 Castell Brychan Ar gau

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn edrych am Bennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi’n angerddol ynghylch pŵer trawsnewidiol darllen? Allwch chi helpu i greu rhaglenni a llyfrau sy’n ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen?

Os mai ‘ie’ yw’r ateb ac os oes gennych gefndir ym maes addysg neu brofiad ym maes llenyddiaeth plant a’ch bod yn chwilio am her newydd, ymunwch â ni yng Nghyngor Llyfrau Cymru.

Rydym yn awyddus i benodi Pennaeth newydd ar gyfer ein Hadran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen a fydd yn gweithio’n agos gyda chyd-weithwyr yn Llywodraeth Cymru, ysgolion a phartneriaid eraill sy’n gweithredu yn y maes hwn. Bydd gennych y creadigrwydd a’r egni i droi syniadau’n rhaglenni ac ysbrydoli cyllidwyr i fuddsoddi mewn ystod eang o weithgareddau sy’n cefnogi ein gweledigaeth –Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr. Byddwch yn arwain tîm o dri gan ddarparu nifer o weithgareddau hyrwyddo darllen, gan gynnwys rhaglenni cenedlaethol fel Diwrnod y Llyfr a Sialens Ddarllen yr Haf.

Fel aelod allweddol o’r uwch dîm rheoli, mae’r rôl datblygu strategol hon yn adrodd i’r Prif Weithredwr. Mae’r lleoliad yn hyblyg ond bydd gofyn treulio o leiaf 8 diwrnod y mis yn ein swyddfeydd yn Aberystwyth. Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg hyderus ac yn hapus i gefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg ymhellach yn y gwaith.

Os yw’r rôl hon yn swnio’n addas i chi, mae rhagor o fanylion ar www.llyfrau.cymru neu drwy ebsotio menai.williams@llyfrau.cymru

Dyddiad cau: 6 Mehefin 2022

Cyflog

💰 £41,591– £45,648 pro rata

Lleoliad

📍 Castell Brychan

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 £29k - £32k 📍 Rhuthun Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Barcud Cyf

💰 £19k - £21k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Kaplan

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £26k - £31k 📍 Campws Llandaf Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £19k - £22k pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £27k - £31k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

Llywodraeth Cymru

💰 £31k - £38k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Y Groes Goch Brydeinig

💰 £24k 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

RSPB Cymru

💰 £43k - £47k 📍 Caerdydd Ar gau

Cymorth Cristnogol

💰 £55k 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Cyngor Tref Rhuthun

💰 £33k - £38k pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

Mentrau Iaith Cymru

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Heddlu Dyfed-Powys

💰 £27k - £29k 📍 Rhydaman Ar gau

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £35k pro rata 📍 O gartref Ar gau