Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Lluniau Llonydd

S4C

💰 £21k - £24k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae S4C yn edrych am Swyddog Lluniau Llonydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu y platfform ac ecosystem i sbarduno'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i'w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n deall gwerth a phwysigrwydd lluniau llonydd i ymuno â'r Adran Ddigidol a Marchnata. Gyda'r gallu i adnabod beth sy'n gwneud llun da a sgiliau trefnu rhagorol, byddwch fel aelod o'r tîm Brand a Chreadigol yn gyfrifol am drin a dethol lluniau cryf i hyrwyddo cynnwys S4C i'r gwylwyr.

Prif ffocws y rôl bydd trefnu, golygu, catalogio a dosbarthu lluniau llonydd, gan sicrhau delweddau hyrwyddo cryf ac addas i'n cynnwys ar draws llwyfannau, a chefnogi gweledigaeth greadigol brand S4C. Mae'r rôl yn gweithio'n agos gydag adrannau eraill o fewn S4C yn ogystal ag asiantaethau â chwmnïau cynhyrchu allanol.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag adnoddau.dynol@s4c.cymru.

Cyflog: £21,000 - £24,000 y flwyddyn

Cytundeb: 12 mis

Oriau Gwaith: 35.75

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: 26 diwrnod yn ogystal â gwyliau'r banc.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 ar ddydd Mercher 25 Mai 2022 i adnoddau.dynol@s4c.cymru neu'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C: Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.

Ni dderbynnir CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Cyflog

💰 £21,000 - £24,000

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cylch Meithrin Bodhyfryd

💰 £12.71 yr awr 📍 Wrecsam
Cais

Cylch Meithrin Ty Mair

💰 Yn ôl profiad 📍 Sir y Fflint Ar gau

Ysgol Llwyn yr Eos

💰 £13.71 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Ty Mair

💰 Yn ôl profiad 📍 Sir y Fflint Ar gau

Meithrin Ty Mabon (Tywyn)

💰 £15.25 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Clwb Plant Segontiwm

💰 £13.77 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Cylch Meithrin Evan James

💰 £13.69 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Evan James

💰 £17.05 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £32k - £35k 📍 Hyblyg (unrhyw un o swyddfeydd yr Urdd) Ar gau

Cylch Meithrin Dolbadarn

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd Ar gau

Meithrinfa Camau Bach

💰 £12.71 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £26k 📍 Glan-llyn
Cais

Cylch Meithrin Penrhyndeudraeth

💰 £12.71 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Cylch Meithrin Pen-y-Garth

💰 £13.50 yr awr 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Cylch Meithrin Dyffryn Aeron

💰 £13 yr awr 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £25k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Parc Y Bont

💰 I'w gadarnhau 📍 Sir Fôn Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £100 y cyfarfod 📍 Ar draws Cymru Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £13.11 yr awr 📍 Aberystwyth Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £26k - £29k 📍 Gwersyll Caerdydd / Glantaf Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £41k pro rata 📍 Ar draws Cymru Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd Ar gau

Ysgol Gyfun Aberaeron

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau