Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Tiwtor y Gymraeg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

💰 £34k - £41k Ar gau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn edrych am Tiwtor y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae cyfle cyffrous wedi codi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rydym yn chwilio am Diwtor Cymraeg brwdfrydig a fydd yn gyfrifol am lunio a darparu ystod o raglenni dysgu i’n staff. Mae hyfforddiant iaith Gymraeg wedi cael ei nodi yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog, felly bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ehangu’r cyfleodd a’r cymorth sydd ar gael i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg. Bydd deilydd y swydd yn arwain ar greu rhaglenni perthnasol ar gyfer gweithwyr y sefydliad, yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol a staff gweinyddol.

Bydd gan ddeilydd y swydd brofiad helaeth o weithio ym maes hyfforddi, ynghyd â gwybodaeth eang am, a dealltwriaeth gadarn o, faterion yn ymwneud â'r Gymraeg. 

Mae’r gallu i deithio ar draws Gogledd Cymru yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Disgrifiad:

Bydd gan Diwtor y Gymraeg rôl allweddol i'w chyflawni o ran sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Safonau Cymraeg Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Nod y swydd hon yw ehangu'r cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i staff y Bwrdd Iechyd o ran dysgu'r Gymraeg ac i'w ddefnyddio. Bydd y swydd yn gyrru nod strategol y Bwrdd Iechyd yn ei flaen i gynyddu defnydd o'r Gymraeg o ran gweinyddu a darparu gwasanaethau gan fynd i'r afael â gofynion allweddol Safonau'r Gymraeg.

Bydd y tiwtor yn arbenigwr ar ddatblygiad a hyfforddiant y Gymraeg a bydd yn dylunio ac yn darparu rhaglen hyfforddi ac asesu cynhwysfawr ar gyfer staff newydd a staff sy'n bodoli eisoes i wella lefel y gwasanaethau cleifion sydd ar gael yn Gymraeg.

Cyflog

💰 £33,706 - £40,588

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £102k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin +1 Ar gau

Cyngor Sir Gâr

💰 £33k - £36k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Harbourmaster

💰 £35k 📍 Aberaeron Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Bangor Ar gau

Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

💰 £27k - £42k 📍 Aberystwyth Ar gau

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Menter a Busnes

💰 £22k - £24k 📍 Aberystwyth📍 Bangor +2 Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Bro Morgannwg Ar gau

Adra

💰 £35k - £38k Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £22k - £25k 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30k - £33k 📍 Ynys Môn Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

Ar gau