Gweithiwr Cymorth a Gofal Lefel 2 (Wrth Gefn) – Cartref Preswyl Bryntirion
Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Gweithiwr Cymorth a Gofal Lefel 2 (Wrth Gefn) – Cartref Preswyl Bryntirion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm!
Ydych chi’n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Bryntirion i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 Wrth Gefn (Staff Wrth Gefn ar gyfer shiftiau nos) i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Bryntirion. Nid yw profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei darparu. Cyn belled â bod gennych garedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch – gallwn ddysgu’r gweddill i chi!
Am y rôl
Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:
darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â’r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal
darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol
rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn unol â pholisi a gweithdrefn
hebrwng cleientiaid allan o’r sefydliad, e.e. teithiau hamdden
cwblhau cofnodion dyddiol
cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta
Ein cynnig i chi
Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:
- hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol
- mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch
- mynediad at gynllun disgowntiau ac arbedion ffordd o fyw Vivup
- cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa
- cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith
I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cyflwyno cais
Rydym wedi ei gwneud yn haws I chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais.Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed
Os bydd angen Cymorth arnoch I gwblhau eich cais,mae croeso I chi gysylltu a 01970 6333949 neu e-bostio adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r rol hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl I’r tal canlynol:
Dydd Sadwrn – Amser a chwarter
Dydd Sul – Amser a hanner
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Keneuoe.Morgan@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £26,427 - £26,847 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Waunceirch yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Canolfan Gymunedol Owain Glyndwr, Llwyn Helyg, Waunceirch, Castell Nedd SA10 7BZ
Mae’r cylch meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth:
Elin Davies – elin.davies@meithrin.cymru
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Lleoliad
📍 Castell-nedd Port Talbot
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Gwdihw yn edrych am Gynorthwyydd Achlysurol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydy’r rôl hon yn addas i chi?
Rydym yn chwilio rywun:
sy’n garedig, brwdfrydig ac ymroddedig
sy’n mwynhau gweithio gyda phlant bach
sydd â natur ofalgar a’r gallu i chwarae, dysgu a meithrin perthnasoedd cadarnhaol
sydd eisiau gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, croesawgar a llawn cariad
Gofyniad Iaith: Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Dylech fod yn rhugl yn y Gymraeg neu’n ddysgwr sydd â lefel dderbyniol o Gymraeg i gyflwyno’r iaith i blant bach.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: ceri.preston@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma:
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Blaenau Gwent
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Athro/Athrawes Cyflenwi
Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig darpariaeth addysgol o’r safon uchaf ac felly rydyn ni’n chwilio am athrawon ysgogol ac effeithiol i ychwanegu at ein cofrestr gyflenwi ganolog.
Cydnabyddir bod athrawon cyflenwi yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau parhad addysgu a dysgu effeithiol yn ystod absenoldeb staff. Gall gwaith cyflenwi ddarparu cyfle gwych i athrawon sy’n dymuno mwy o hyblygrwydd neu sydd newydd gymhwyso ac am ennill profiad ymarferol.
Rydym yn chwilio am athrawon sy’n:
gallu ennyn diddordeb plant gyda gwersi ysgogol
cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ac yn effeithiol wrth gynyddu cyraeddiadau
defnyddio strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol ac effeithiol
meddu ar wybodaeth gwricwlaidd a phwnc rhagorol
gallu dangos hyblygrwydd a’r gallu i addasu i wahanol anghenion a gwerthoedd ein hysgolion
dangos ymrwymiad cryf i’w datblygiad proffesiynol eu hunain
Cefnogir hyn trwy ein ethos cyffredinol a phob un o’n hysgolion, ac felly, rhaid i bob aelod staff sydd yn gweithio mewn ysgol gwblhau fodiwl e-ddysgu Diogelu Plant Lefel 1 ynghyd â bod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Davies ar Daniel.Davies@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cyflog
💰 £33,731 - £51,942 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Llanrug yn edrych am Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Llanrug, Llanrug, Caernarfon, LL55 4AL
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am rhagor o fanylion:
Nia Pierce (Cadeirydd): pwyllgorcylchllanrug@hotmail.com
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Swyddog Busnes Gweithredol (Swyddfa’r Prif Weithredwr)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Swyddog Busnes Gweithredol (Swyddfa’r Prif Weithredwr)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Adran y Llyfrgellydd
Band 3: £29,691 - £34,272
Hyd y Swydd: Parhaol
Oriau: 37 awr yr wythnos.
Dyddiad Cau: 11.00yb, 07 Medi 2026
Cyflog
💰 £29,691 - £34,272
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Meithrinfa Medra yn edrych am Swyddog Cinio
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Delyth Evans, Rheolwr Meithrinfeydd Cymru
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: delyth.evans@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 £12.71 yr awr
Lleoliad
📍 Sir Fôn
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Y Gorlan Fach yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Y Gorlan Fach, Ysgol Y Gorlan, Heol Dulyn, Tremadog , Gwynedd, LL49 9RN
Swydd dros dro - cyfnod mamolaeth hyd at Gorffennaf 2027
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Enw: Caryl Edwards
Swydd: Cadeirydd
Cyflog
💰 I'w drafod yn ddibynol ar brofiad
Lleoliad
📍 Gwynedd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Glan Morfa yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Cylch Methrin Glan Morfa, Ysgol Glan Morfa, Heol Lewis, Sblot, Caerdydd
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Agored i berson sydd eisiau gweithio Llawn amser neu Ran amser; Llun-Gwener
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd:
Enw: Abby Davies-Rollinson (Cydlynydd Cefnogi)
Cyflog
💰 £13+ yr awr
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Dreigiau Bach y Bannau yn edrych am Arweinydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Ysgol y Bannau, Penlan, Aberhonddu, Powys, LD3 9SR
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Am swydd ddisgrifiad llawn ac i ymgeisio am y swydd cliciwch YMA
Cyflog
💰 £14.58 i £15.31 yr awr
Lleoliad
📍 Powys
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Pennaeth Cyfathrebu a Chyfryngau
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau
Band 6: £58,211 - £66,836
Hyd y Swydd: Swydd barhaol.
Oriau: 37 awr yr wythnos.
Dyddiad Cau: 11:00yb, 15 Medi 2026
Cyflog
💰 £58,211 - £66,836
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Min y Ddol yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: Cylch Meithrin Min y Ddol, Plas Kynaston Lane, Cefn Mawr, Wrecsam, LL14 3PY
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd;
Samantha Holman (Arweinydd) – cylchmeithrinminyddol@outlook.com neu 01978 784221 / 07707470152
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Wrecsam
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Groes-Wen yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - YSGOL GYNRADD GROES-WEN PRIMARY SCHOOL , RHODFA PLASDWR , SAIN FFAGAN , CAERDYDD, CF5 2FG
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd – Ebost – sioned.jones@meithrin.cymru, Rhif ffon: 07966313119
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 £13.45 yr awr
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Glan y Mor yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Y Caban, Ysgol Wirfoddol Myfenydd, Llanrhystud, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 5DW
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd, Jenna Evans, Arweinydd, Ebost – glanymor20@yahoo.com Rhif ffon – 01974 202 869
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn dibynnu ar brofiad.
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn edrych am Cynghorydd y Ganolfan Gyswllt x 2
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Os ydych chi’n cael eich ysgogi trwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf ac wedi ymrwymo i wella profiad y cwsmer yna hoffem glywed gennych.
Rydym yn chwilio am ddau Gynghorydd Canolfan Gyswllt brwdfrydig i ymuno â’n tîm Canolfan Gyswllt.
Fel Cynghorydd y Ganolfan Gyswllt byddwch:
delio â phob ymholiad ffôn mewn canolfan gyswllt gyfaint uchel,
darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel i gwsmeriaid yn unol â pholisi a strategaeth y Cyngor sy’n ymwneud â gofal cwsmeriaid,
bod yn gwrtais, yn gyfeillgar ac yn meddu ar sgiliau datrys problemau gwych.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig cyfle i weithio mewn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol a leolir mewn ardal a gydnabyddir am ei thirluniau syfrdanol. Hefyd, yr ydyn yn cynnig nifer o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion teulu gwell, arbedion ffordd o fyw, phecynnau iechyd a lles gweithwyr, a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Ymhellach i hyn, er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn medru cydbwyso gwaith a bywyd yn gyfforddus bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd fynediad at budd dewisol o weithio hybrid, efo’r ddewis a ydynt am weithio o’r cartref neu yn eu lleoliad gwaith cytundebol (os bodlonir rhai amodau).
Yn ychwanegol at hyn, rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Lowri Owen: Lowri.Owen@ceredigion.gov.uk, Nicola Williams: Nicola.Williams2@ceredigion.gov.uk or Anna Gawthorpe Anna.Gawthorpe@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cyflog
💰 £27,274 - £28,608 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Teithiol Penybont
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eirwen Hughes, Dirprwy Reolwr Talaith y De-Orllewin a'r Canolbarth
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: eirwen.hughes@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM15 £25,175 (pro rata) y flwyddyn
Lleoliad
📍 Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Meithrinfa Cwtch y Clos yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Danyrallt, Llanarthne, Caerfyrddin, SA32 8JX
Mae Meithrinfa Cwtch y Clos yn chwilio am aelod o staff egniol a brwdfrydig i ymuno a'r tîm. Mae'r feithrinfa Gymraeg hon yn cynnig gofal o safon i blant bach yr ardal.
Dylai ef/hi fod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae'r Feithrinfa ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 7.30yb tan 6.00yh, ac mi fydd rota staffio yn ei le.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a Gwenllian – 01558 678 014. Danfonwch CV at cwtshyclos@outlook.com
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn ddibynnol ar brofiad a chymhwysterau.
Lleoliad
📍 Sir Gâr
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Tiwtor / Asesydd dan hyfforddiant Cynllun Ysgolion – Ysgolion Gwynllyw a Chwm Rhymni (Cyfnod Mamolaeth)
Mudiad Meithrin
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Tiwtor / Asesydd dan hyfforddiant Cynllun Ysgolion – Ysgolion Gwynllyw a Chwm Rhymni (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Ydych chi’n frwdfrydig dros hyfforddi, asesu a datblygu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg?
Rydym yn chwilio am berson cymhellol a phroffesiynol i hyfforddi fel Tiwtor / Asesydd ar gyfer cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2/3 Ymarfer a Theori (GChDDP).
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebwr hyderus yn y Gymraeg, yn frwdfrydig ac â sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Os ydych yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymroddedig i gefnogi dysgwyr i lwyddo, hoffem glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Eunice Jones, Rheolwr y Cynllun Hyfforddiant Cenedlaethol, neu
Amy Sefton, Prif Swyddog Cynllun Cam Wrth Gam De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 07791 519144 / 07977 641517
E-bost: eunice.jones@meithrin.cymru / amy.sefton@meithrin.cymru
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM17 £26,225 pro rata. Gwir gyflog ar sail gweithio 15 awr £10,490
Lleoliad
📍 Caerffili, Torfaen
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Rheolwr Dinas Llen Aberystwyth Ceredigion
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych am Rheolwr Dinas Llen Aberystwyth Ceredigion
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau
Band 4: £35,530 - £40,132 pro rata
Hyd y Swydd: (swydd tymor penodol tan 31 Mawrth 2027 gyda phosibilrwydd o estyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol)
Oriau: 30 awr yr wythnos
Dyddiad Cau: 11:00yb, 7 Medi 2026
Cyflog
💰 £35,530 - £40,132 pro rata
Lleoliad
📍 Aberystwyth
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Dyffryn Aeron yn edrych am Arweinydd (Cyfnod Mamolaeth)
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad - Cylch Meithrin Dyffryn Aeron, Cwmpws Ysgol Dyffryn Aeron, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 8AE
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am arweinydd ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y Cylch.
Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn siaradwr newydd sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.
Mae Cylch Meithrin Dyffryn Aeron wedi ei leoli yn Ysgol Dyffryn Aeron, Rydym yn rhan or cynllun 30 awr a Dechrau’n Deg ac yn darparu gofal Meithrin i blant yr ardal.
Swydd am gyfnod penodol yw hon yn dechrau ar 1af o Fedi 2026 hyd at flwyddyn. Rydym yn croesawi ceisiadau wrth ymgeiswyr fyddai â diddordeb mewn secondiad.
Manylion cyswllt ar gyfer mwy o wybodaeth ynglyn a’r swydd – Helen Lewis, Ebost – pwyllgorynysyplantfelinfach@gmail.com Rhif ffon – 07977 510 888
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Cyflog
💰 Yn dibynnu ar brofiad.
Lleoliad
📍 Ceredigion
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Mudiad Meithrin yn edrych am Swyddog Ti a Fi Sir Fynwy
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion am y swydd.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Ann Angell, Rheolwr Talaith y De Ddwyrain neu Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith y De Ddwyrain
Rhif Ffôn: 01970 639639
E-bost: ann.angell@meithrin.cymru
Gwneud Cais:
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at adnoddaudynol@meithrin.cymru
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Cyflog
💰 MM15 £25,175 pro rata. Gwir gyflog ar sail gweithio 10 awr yr wythnos yw £5,758.
Lleoliad
📍 Sir Fynwy
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn edrych am Gynorthwyydd
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Lleoliad: FESTRI CAPEL BETHEL , MAES Y DERI , RHIWBEINA , CAERDYDD
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch. Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg. Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 2 – 3 yn ddelfrydol i ofalu am blant.
Mae Cylch Meithrin Rhiwbeina yn lleoliad cynnes, croesawgar a phrysur lle mae plant yn dysgu, chwarae a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig, gofalgar a chreadigol i ymuno â’n tîm a helpu i greu profiadau dysgu hapus ac ystyrlon i’n plant. Os ydych chi’n angerddol am y Gymraeg, datblygiad plant a gweithio fel rhan o dîm gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.
Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu: Angharad Phelps-Jowers cylchmeithrinrhiwbeina@gmail.com
Cyflog
💰 I'w drafod
Lleoliad
📍 Caerdydd
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Theatr Cymru yn edrych am Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Oes gennych chi brofiad mewn cynhyrchu theatr, rheoli llwyfan neu reoli technegol? Ydych chi’n drefnus, yn rhagweithiol ac yn frwd dros greu theatr?
Rydym yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu Cynorthwyol i ymuno â’n Hadran Gynhyrchu am gyfnod o 12 mis, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2026. Diben y rol yw i gefnogi'r Pennaeth Cynhyrchu tra bod ein Rheolwr Cynhyrchu Cwmni ar gyfnod mamolaeth.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Cynhyrchu a chydweithwyr ar draws y cwmni, gan helpu i gynllunio a chyflwyno cynyrchiadau, cefnogi timau technegol a chreadigol, a chyfrannu at waith cynhyrchu ar brosiectau theatr proffesiynol ar raddfa genedlaethol.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd eisoes â rhywfaint o brofiad perthnasol ddatblygu ei ymarfer proffesiynol ymhellach, ehangu ei wybodaeth o brosesau cynhyrchu a magu hyder wrth weithio ar gynyrchiadau cymhleth gyda chefnogaeth tîm profiadol a chefnogol.
Cyflog: £31,500 y flwyddyn
Cyfnod: 12 mis, o fis Tachwedd 2026
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos)
I wneud cais: Llenwch y ffurflen gais NEU cyflwynwch fideo byr ohonoch chi’ch hun, gan ateb y cwestiynau a nodir ar y ffurflen gais. Bydd angen anfon y ffurflen neu'r fideo at swyddi@theatr.com.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd: Cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554.
Dyddiad cau: 8 Medi 2026, 5pm
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 21 Medi 2026
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu hyfforddiant gloywi iaith os ydynt am ddatblygu eu hyder yn eu sgiliau iaith Gymraeg.
Mae fersiwn Saesneg o’r pecyn recriwtio ar gael mewn fformat Microsoft Word er mwyn hwyluso’r defnydd o ddarllenydd sgrin. Gellir dod o hyd i hwn drwy ddilyn y ddolen isod:
Dolen i'r pecyn Saesneg
Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb isod wrth ymgeisio:
https://forms.office.com/e/nd5MgVfbW5
Pecyn Gwybodaeth
Pecyn Swydd | Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol
1.5MB
Pecyn Gwybodaeth
Pecyn Swydd (Print Bras)
48.7KB
Word
Pecyn Gwybodaeth
Ffurflen Gais
369.9KB
Pecyn Gwybodaeth
Hysbysiad Preifatrwydd
544.4KB
Pecyn Gwybodaeth
Cyflog
💰 £31,500 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Caerfyrddin
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!
Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych am Swyddog Chwaraeon
Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.
Swydd barhaol
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr y wythnos)
Graddfa : Gweithredol 4 : £29,409 – £31,430 y flwyddyn
Lleoliad: Swyddfa Dinbych
Dyddiad ac amser cau: 25 medi
Dyddiad cyfweld: 2il Hydref
Cyflog
💰 Gweithredol 4 : £29,409 - £31,430 y flwyddyn
Lleoliad
📍 Swyddfa Dinbych
Dyddiad cau
👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!