Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cadeirydd

Theatr Genedlaethol Cymru

💰 Di-dâl + costau 📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn edrych am Gadeirydd

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd.

Creu theatr Cymraeg eithriadol i bawb yw nod Theatr Genedlaethol Cymru. Ry’n ni’n chwilio am Gadeirydd sy’n gallu darparu arweiniad a chefnogaeth i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i'r cwmni’n gyffredinol wrth i ni geisio cyflawni’r weledigaeth hon.

Ry’n ni’n edrych am unigolyn sydd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o Gymru a’i diwylliant a’r celfyddydau ac sy’n gallu llywio’r cwmni drwy’r cyfnod nesaf.

Mae bod yn Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Gadeirydd yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.

Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Gadeirydd, cysylltwch â ni i drafod er mwyn i ni geisio dileu’r rhwystrau hynny.

Fel arfer, mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rhithiol, dros Zoom neu Teams gyda’r nos (neu ar amser sy’n gyfleus i’r mwyafrif). Mae’r Bwrdd yn anelu at gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn, fel arfer yn swyddfa’r cwmni yng Nghaerfyrddin.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu ar y manylion cyswllt uchod.

Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 6 Chwefror 2023.

Cyflog

💰 Rôl wirfoddol - modd hawlio costau

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Waunceirch

💰 Isafswm cyflog 📍 Castell-nedd Port Talbot Ar gau

Cylch Meithrin Gwdihw

💰 £12.71 yr awr 📍 Blaenau Gwent Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion
Cais

Cylch Meithrin Llanrug

💰 £12.71 yr awr 📍 Gwynedd Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £30k - £34k 📍 Aberystwyth Ar gau

Meithrinfa Medra

💰 £12.71 yr awr 📍 Sir Fôn Ar gau

Cylch Meithrin Y Gorlan Fach

💰 I'w drafod 📍 Gwynedd Ar gau

Cylch Meithrin Glan Morfa

💰 £13+ yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

Cylch Meithrin Dreigiau Bach y Bannau

💰 £14.58 i £15.31 yr awr 📍 Powys Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £58k - £67k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cylch Meithrin Min y Ddol

💰 I'w drafod 📍 Wrecsam Ar gau

Cylch Meithrin Groes-Wen

💰 £13.45 yr awr 📍 Caerdydd Ar gau

Cylch Meithrin Glan y Mor

💰 Yn ôl profiad 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £27k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Parc Y Bont

💰 Isafswm cyflog 📍 Sir Fôn Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £25k pro rata 📍 Pen-y-bont ar Ogwr Ar gau

Meithrinfa Cwtch y Clos

💰 Yn ôl profiad 📍 Sir Gâr Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £10k gwir gyflog 📍 Caerffili📍 Torfaen Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £36k - £40k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Cylch Meithrin Dyffryn Aeron

💰 Yn ôl profiad 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £6k gwir gyflog 📍 Sir Fynwy Ar gau

Cylch Meithrin Rhiwbeina

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Theatr Cymru

💰 £32k 📍 Caerfyrddin Ar gau