Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi

Prifysgol Abertawe

💰 £31k - £35k 📍 Abertawe Ar gau

Mae Prifysgol Abertawe yn edrych am Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gwahoddir ceisiadau am swydd Swyddog Prosiectau Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Sefydlwyd Academi Hywel Teifi gan Brifysgol Abertawe yn 2010 ac fe’i henwyd er cof am gyn-Athro Cymraeg y Brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Mae’r Academi yn sefydliad unigryw ac yn gorff sydd yn fwy na swm ei rhannau ac sy’n cynnwys:

Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe sy’n darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gweithle ac yn y gymuned; Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Uned Gyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith y Brifysgol, a Thŷ’r Gwrhyd, sef Canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Chwm Nedd.   Bydd y Swyddog Prosiectau yn rhan o dîm Academi Hywel Teifi a fydd yn rhoi ar waith nifer o ffrydiau gwaith fydd yn sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni amcanion ei Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2022-27 newydd. Bydd y rôl yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau gan gynnwys cydlynu cynlluniau prosiect, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a gweinyddu ar wahanol gamau o'r prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chau'r prosiect. Mae'n bosib y bydd y Swyddog Prosiectau hefyd yn gyfrifol yn annibynnol am reoli a gweinyddu prosiectau llai cymhleth.

Disgrifiad:

Yn ogystal â grymuso statws a defnydd y Gymraeg o fewn y Brifysgol a’i chymuned leol, gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith. Mae’n gweithio hefyd i hybu cyfleoedd a buddiannau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chyflwyno a dathlu ei diwylliant. Mae darparu addysg yn yr iaith Gymraeg yn greiddiol i waith a strategaeth Prifysgol Abertawe oherwydd rôl arweiniol y sefydliad yn y Gymru gyfoes, ei chyfrifoldeb yn rhanbarthol a chenedlaethol, a’i chyfrifoldeb statudol.

Bydd y Swyddog Prosiectau yn rhan o dîm Academi Hywel Teifi a fydd yn rhoi ar waith nifer o ffrydiau gwaith fydd yn sicrhau bod y Brifysgol yn cyflawni amcanion ei Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg 2022-27 newydd. Bydd y rôl yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau gan gynnwys cydlynu cynlluniau prosiect, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a gweinyddu ar wahanol gamau o'r prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni a chau'r prosiect. Mae'n bosib y bydd y Swyddog Prosiectau hefyd yn gyfrifol yn annibynnol am reoli a gweinyddu prosiectau llai cymhleth.

Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy’n meddu ar addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfwerth mewn rôl debyg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhugl yn yr iaith Gymraeg yn meddu ar brofiad o ddarparu cymorth ar gyfer prosiect cymhleth sy'n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid ac sy’n ateb gofynion targedau a therfynau amser penodol. Bydd angen profiad o gyfrannu at gyflawniadau prosiect gan gynnwys llunio cynlluniau, amserlenni, cyllidebau, casglu data, adrodd yn ôl a rheoli risg prosiect a phrofiad o weithio ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus.

Cyflog

💰 £31,411 - £35,333

Lleoliad

📍 Abertawe

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Urdd Gobaith Cymru

💰 £25k - £28k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £28k 📍 Unrhyw le yng Nghymru Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £42k - £49k 📍 Hyblyg Ar gau

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

S4C

💰 Yn ôl profiad 📍 Hybrid📍 Caerdydd Ar gau

E-sgol, Cyngor Sir Ceredigion

💰 £29k - £44k 📍 Hyblyg Ar gau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

💰 £27k - £30k 📍 Hybrid📍 O gartref +1 Ar gau

Ysgol Brynhyfryd

💰 £29k - £32k 📍 Rhuthun Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £28k - £31k 📍 Caerfyrddin Ar gau

Barcud Cyf

💰 £19k - £21k 📍 Llanbedr Pont Steffan Ar gau

Kaplan

💰 £35k - £45k 📍 Hyblyg Ar gau

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

💰 £26k - £31k 📍 Campws Llandaf Ar gau

Prifysgol De Cymru

💰 £19k - £22k pro rata 📍 Pontypridd Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £27k - £31k 📍 Casnewydd📍 O gartref Ar gau

Llywodraeth Cymru

💰 £31k - £38k 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Y Groes Goch Brydeinig

💰 £24k 📍 Abergele📍 O gartref Ar gau

RSPB Cymru

💰 £43k - £47k 📍 Caerdydd Ar gau

Cymorth Cristnogol

💰 £55k 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Cyngor Tref Rhuthun

💰 £33k - £38k pro rata 📍 Rhuthun Ar gau

Mentrau Iaith Cymru

💰 £40k - £45k 📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23k - £25k 📍 Caerffili Ar gau

Heddlu Dyfed-Powys

💰 £27k - £29k 📍 Rhydaman Ar gau

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £35k pro rata 📍 O gartref Ar gau