Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Ymchwilydd Sgorio

Rondo

💰 I'w drafod 📍 Caernarfon📍 Caerdydd +2 Ar gau

Mae Rondo yn edrych am Ymchwilydd Sgorio

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Mae Rondo yn chwilio am berson sydd â diddordeb brwd mewn pêl-droed i weithio ar raglenni Sgorio mewn cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru.

Bydd yr ymchwilydd llwyddiannus yn gweithio ar gemau byw llinol a digidol, ar raglenni uchafbwyntiau ac hefyd yn ymchwilio a chreu cynnwys i gyfryngau cymdeithasol Sgorio.

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm cynhyrchu profiadol ac yn cynnig syniadau am eitemau, dod o hyd i gyfranwyr, paratoi nodiadau cynhwysfawr i sylwebwyr, logio manylion mewn basau data, gan hefyd dderbyn hyfforddiant mewn nifer o roliau’r tîm cynhyrchu’n ystod gemau byw.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig ymuno ag adran lwyddiannus mewn cyfnod hynod gyffrous. Er bod profiad blaenorol yn fanteisiol, nid yw profiad yn hanfodol ar gyfer y rôl hon – rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr sydd ag angerdd dros bêl-droed a pharodrwydd i ddysgu. 

Hanfodol 

Person brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd â gwir ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru.

Y gallu i gyfathrebu’n glir a chywir yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bod yn barod i gyflawni pob math o dasgau a hynny ar brydiau o fewn terfynau amser tynn Dealltwriaeth o’r cyfryngau cymdeithasol.   Sgiliau TG sylfaenol.

Manteisiol 

Trwydded yrru lawn.

Profiad o ymchwilio neu gymhwyster mewn darlledu. 

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. 

Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg ac o adre ar adegau. Parodrwydd i weithio o swyddfeydd Rondo yng Nghaerdydd a Chaernarfon yn ôl y galw, ac ar nifer o benwythnosau’n ôl y galw.

Am ffurflen gais ewch i wefan rondomedia.co.uk/swyddi a’i dychwelyd ar e-bost i liz.lewis@rondomedia.co.uk 

Cyflog

💰 I'w drafod

Lleoliad

📍 Caernarfon, Caerdydd, Hyblyg, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ysgol Bro Teifi

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £44k - £47k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Llanfarian

💰 £33k - £35k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £39k - £41k 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £25k - £29k pro rata 📍 Conwy📍 Sir Ddinbych +1 Ar gau

Cylch Meithrin Mynydd Bychan

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cylch Meithrin Blodau Bach

💰 Isafswm cyflog 📍 Caerffili Ar gau

Cylch Meithrin Y Borth

💰 O £12.71 📍 Sir Fôn Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £11k - £12k gwir gyflog 📍 Caerffili📍 Torfaen Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £30k - £34k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Meithrinfa Medra / Medra Gofal Y Graig

💰 £12.71 yr awr 📍 Sir Fôn Ar gau

Ysgol Gynradd Penparc

💰 £53k - £58k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £46k - £48k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £33k - £35k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gyfun Penglais

💰 £27k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £37k - £39k 📍 Ceredigion Ar gau

Meithrinfa Garth Olwg

💰 £12.71 yr awr 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ

💰 £14.81 yr awr 📍 Blaenau Gwent Ar gau

Ysgol Bro Pedr

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Ynyshir a Wattstown

💰 £12.71 yr awr 📍 Rhondda Cynon Taf
Cais

Cylch Meithrin Y Borth

💰 £12.71 yr awr 📍 Sir Fôn Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau