Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Newyddiadurwr Digidol

S4C

📍 Caerfyrddin Ar gau

Mae S4C yn edrych am Newyddiadurwr Digidol

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a'r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o'r newydd a denu dilyniant. Bydd gennych drwyn am stori a'r gallu i fod yn greadigol gyda'r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Gyda sgiliau ieithyddol da byddwch yn ysgrifennu yn gywir ac yn ystwyth a bydd gennych y ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Manylion Eraill

Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Os hoffech mwy o wybodaeth ar hyn plîs cysylltwch ag adnoddau.dynol@s4c.cymru

Cyflog: Yn unol â phrofiad

Cytundeb: Parhaol

Oriau Gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos. O ganlyniad bydd eich patrwm sifft ar draws 7 diwrnod, ac yn unol â gofynion y gwasanaeth.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 yn y prynhawn ar ddydd Gwener 6 Mai 2022 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Cais

Lleoliad

📍 Caerfyrddin

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ysgol Bro Teifi

💰 £34k - £52k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £44k - £47k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gynradd Llanfarian

💰 £33k - £35k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £39k - £41k 📍 Ceredigion Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £25k - £29k pro rata 📍 Conwy📍 Sir Ddinbych +1 Ar gau

Cylch Meithrin Mynydd Bychan

💰 I'w drafod 📍 Caerdydd Ar gau

Cylch Meithrin Blodau Bach

💰 Isafswm cyflog 📍 Caerffili Ar gau

Cylch Meithrin Y Borth

💰 O £12.71 📍 Sir Fôn Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £11k - £12k gwir gyflog 📍 Caerffili📍 Torfaen Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £30k - £34k pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Meithrinfa Medra / Medra Gofal Y Graig

💰 £12.71 yr awr 📍 Sir Fôn Ar gau

Ysgol Gynradd Penparc

💰 £53k - £58k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £46k - £48k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £33k - £35k 📍 Ceredigion Ar gau

Ysgol Gyfun Penglais

💰 £27k - £29k 📍 Ceredigion Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £37k - £39k 📍 Ceredigion Ar gau

Meithrinfa Garth Olwg

💰 £12.71 yr awr 📍 Rhondda Cynon Taf Ar gau

Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ

💰 £14.81 yr awr 📍 Blaenau Gwent Ar gau

Ysgol Bro Pedr

💰 £26k 📍 Ceredigion Ar gau

Cylch Meithrin Ynyshir a Wattstown

💰 £12.71 yr awr 📍 Rhondda Cynon Taf
Cais

Cylch Meithrin Y Borth

💰 £12.71 yr awr 📍 Sir Fôn Ar gau

Cyngor Sir Ceredigion

💰 £26k - £27k 📍 Ceredigion Ar gau